Hir yw pob ymaros ddywedodd rhywun, rhywdro. Ac mae unrhyw un dwi wedi mwydro ynglŷn â’r ffaith mod i am ddechrau blogio a phodledu yn y Gymraeg am redeg wedi bod yn aros peth amser am y post yma!
Ond, dwi’n hoffi meddwl mod i’n un sy’n cadw at fy ngair, er weithiau bod yr addewid yn cymryd yn hirach na’r disgwyl i ddwyn ffrwyth! Fyswn i’n gallu dweud rhywbeth tebyg am fy niddordeb i mewn rhedeg hefyd…ond mwy am hynny yn y man!
Felly be di’r syniad?
Wel, dwi’n wrandawr brwd o bodlediadau, yn arbennig rhai am bynciau penodol iawn sydd o ddiddordeb i mi. Mae rhain yn cynnwys podleiadau seiclo (niferrus), cerddoriaeth, hanes, trosedd / dirgelwch, pêl-droed, ac ambell un rhedeg. Dwi hyd yn oed wedi gwneud ychydig o bodledu fy hun ar ffurf ‘Pod Pêl-droed’ Golwg360 rai blynyddoedd yn ôl – mwy na thebyg y podlediad chwaraeon cyntaf yn y Gymraeg (hapus iawn i gael fy nghywiro).
Y syniad sydd wedi bod yn nghefn y meddwl, ac ar flaen fy nhafod ar adegau hefyd, ydy i ddechrau cyhoeddi podlediad yn trafod rhedeg…a dwi’n gobeithio y daw hynny rhywdro, ond ara deg ma dal iâr felly dyma ddechrau trafod y pwnc ar ffurf blog i weld faint o ddiddordeb sydd. Eto, dwi’n croesawu eich barn.
Cynnwys y blog
Mi fydda i’n trafod tipyn ar fy niddordeb a chefndir rhedeg i ar y blog yma, felly dwi ddim am gynnwys llith yn y post cyntaf yma, ond mi wna’i ddarn yn sôn ychydig am fy nghefnir yn fuan iawn er mwyn gosod cyd-destun.
Yn bwysicach na hynny ydy beth allwch chi ddisgwyl ar blog yma. Y gwir plaen ydy nad ydw i’n hollol siŵr eto! Yr hyn dwi’n gwybod ydy bod rhedeg yn bwysig iawn i mi, ac i lawer iawn o bobl eraill. Mae hefyd yn gamp sy’n dod yn fwy fwy poblogaidd, ac yn fy marn i yn cyfrannu’n helaeth at wella iechyd cenedlaethol, iechyd meddwl ac at gymuned a chymdeithas.
Yr hyn dwi’n gobeithio yn y bon ydy creu cynnwys fydd wrth fodd pobl sydd eisoes yn rhedeg ar unrhyw lefel, a chynnwys fydd gobeithio’n annog rhagor o bobl i ddechrau rhedeg.
Mae’n debygol bydd hyn yn cynnwys:
trafodaeth ynglŷn â newyddion yn y maes
trafodaeth ynglŷn â hyfforddi a rasio
cyngor amrywiol
erthyglau a llyfrau rhedeg
hanes y gamp
ambell gyfweliad ac adroddiad
efallai ychydig am chwaraeon eraill perthnasol
Dwi’n debygol o fynd i ambell gyfeiriad amgen ac annisgwyl hefyd…achos un fel’na ydw i!
Dim ond ambell syniad ydy rhain, cawn weld sut eith hi.
Dwi’n meddwl bod hynny’n ddigon am y tro, gan obeithio rhoi rhywfaint o flas i chi. Os ydach chi’n hoffi sut mae hyn yn swnio yna tanysgrifiwch i’r blog a/neu roi yn rhestr ffefrynnau eich porwr!
Gan fy mod i wedi crybwyll gwneud hynny ar bodlediad diweddaraf Y Busnes Rhedeg Ma, ro’n i’n meddwl bod hi’n well i mi gyhoeddi darn bach yn crynhoi amserlen rhai o uchafbwyntiau athletau’r Gemau Olympaidd yn Siapan.
Mae’r athletau’n dechrau yfory, a llwyth o bethau difyr i gadw golwg arnyn nhw. Gan mai blog rhedeg ydy hwn, dwi’n canolbwyntio ar y rasys rhedeg pellter canol a hir…ond gydag ambell beth bach arall ddylai fod yn hwyl!
Heb os mae’r cwpl o ddyddiau olaf yn llawn dop o rowndiau terfynol cyffrous, ond mae digon o ddanteithion dyddiol cyn hynny hefyd.
Dyma ddetholiad o’r hyn y dylech gadw golwg amdano felly (amseroedd GMT):
Gwener 30 Gorffennaf
1:55 – 800m Merched (rownd ragbrofol)
11:00 – 5000m Merched (rownd ragbrofol)
12:00 – 4 x 400m cymysg (rownd ragbrofol)
12:30 – 10,000m Dynion (y ffeinal)
Uchafbwynt y diwrnod cyntaf heb os ydy rownd derfynol 10,000m y dynion. All unrhyw un ddod yn agos at yr anhygoel Joshua Cheptegei o Uganda, pencampwr y byd 2019, record y byd 5000m, record y byd 10,000m a record y byd 10k ar y ffordd! Does dim Mo Farah y tro yma, ond mae’n werth cadw golwg ar y sais Mark Scott sy’n mynd o nerth i nerth. Jacob Kiplimo o Uganda a Geoffrey Kamworor o Kenya fydd y prif fygythiad i Cheptegei.
Bydd hi’n ddifyr gweld yr Albanes Eilish McColgan yn dechrau ei hymgyrch yn y 5000m, ac mae’r 800m i ferched yn hynod gystadleuol….ond bydd rhaid chi aros fyny’n hwyr, neu godi’n gynnar iawn!
Sadwrn 31 Gorffennaf
1:50 – 800m Dynion (rownd ragbrofol)
12:50 – 800m Merched (rwond gyn-derfynol)
13:35 – 4 x 400m Cymysg (rownd derfynol)
13:50 – 100m Merched (Rownd derfynol)
Dwi wrth fy modd efo’r 4 x 400m, does dim ras debyg o ran cyffro ac mae fformat y timau cymysg yn gwneud hi hyd yn oed yn fwy diddorol!
Diwrnod mawr i ferched yr Alban gyda chyfle cyntaf i weld Laura Muir yn y 1500m, a gobeithio, Eilish McColgan yn ffeinal y 5000m.
Mawrth 3 Awst
1:05 – 1500m Dynion (rownd ragbrofol)
4:20 – 400m dros y clwydi Dynion (ROWND DERFYNOL)
12:00 – 5000m Dynion (rownd gyn-derfynol)
13:25 – 800m Merched (ROWND DERFYNOL)
13:50 – 200m Merched (ROWND DERFYNOL)
Cyfle cyntaf i weld y Cymru Jake Hayward yn y 1500m, a gobeithio gall roi perfformiad da.
Heb os yr 800m i ferched ydy uchafbwynt y dydd gyda’r Albanes Jemma Reekie ymysg y ffefrynnau. Mae’r Americanwyr Ajee Wilson a Raevyn Rogers yn gryf iawn, a hefyd y merched o Uganda, Hamilah Nakaayi a Winnie Nanyondo.
Mercher 4 Awst
1:00 – Dechrau Decathlon y Dynion a Heptathlon y Merched
3:30 – 400m dros y clwydi Merched (ROWND DERFYNOL)
Edrych mlaen i weld mwy o rasio 1500m y merched, a hefyd ffeinal y 3000m Steeplechase i ferched.
Iau 5 Awst
2:00 – 4 x 100m Merched (rownd ragbrofol)
3:30 – 4 x 100m Dynion (rownd ragbrofol)
3:55 – 110m dros y clwydi Dynion (ROWND DERFYNOL)
8:30 – 20k cerdded Dynion (ROWND DERFYNOL)
12:00 – 1500m Dynion (rownd gyn-derfynol)
13:00 – 400m Dynion (ROWND DERFYNOL)
13:30 – Gorffen Decathlon / Heptathlon
Dwi’n methu peidio rhyfeddu at ddoniau’r athletwyr Decathlon a Heptathlon, ac mae’r ail ddiwrnod o gystadlu bob amser yn uchafbwynt.
Gwener 6 Awst
12:25 – 4 x 400m Dynion (rownd ragbrofol)
13:00 – 5000m Dynion (ROWND DERFYNOL)
13:35 – 400m Merched (ROWND DERFYNOL)
13:50 – 1500m Merched (ROWND DERFYNOL)
14:30 – 4 x 100m Merched (ROWND DERFYNOL)
14:50 – 4 x 100m Dynion (ROWND DERFYNOL)
Ail fedal aur i Cheptegei? Kimeli o Kenya a Katir o Sbaen fydd y prif wrthwynebwyr mae’n siŵr.
Dwi’n methu aros i weld y rasio 1500m i ferched, ac fel ffan mawr o redeg dewr Laura Muir dwi’n gobethio caiff yr Albanes lwyddiant.
Sadwrn 7 Awst
Tua 1:15 – Diwedd Marathon y Merched (sy’n dechrau am 23:00 nos Wener)
11:45 – 10,000 Merched (ROWND DERFYNOL)
12:40 – 1500m Dynion (ROWND DERFYNOL)
13:30 – 4 x 400m Merched (ROWND DERFYNOL)
13:50 – 4 x 400m Dynion (ROWND DERFYNOL)
Clamp o sesiwn i orffen yr athletau ar y trac. Bydd Marathon y merched yn ddifyr – brwydr ddwy ffordd rhwng Brigid Kosgei a Ruth Cheongetich neu all rhywun fel Lonah Salpeter o Israel ysgwyd y gert?
Bydd Jake Hayward wedi gwneud yn rhyfeddol o dda i gyrraedd ffeinal y 1500m, ond pwy a wyr! Tomothy Cheruiyot o Kenya, Marcin Lewandowski o Wlad Pwyl a’r anhygoel Jakob Ingebrigtsen ydy’r enwau amlycaf i gadw golwg arnyn nhw.
Mae 10,000m y merched yn debygol o fod yn gyffrous hefyd gyda’r frwydr rhwng Letesenbet Gidey a Sifan Hassan o’r Iseldiroedd yn dod a dŵr i’r dannedd!
Sul 8 Awst
Tua 1:05 – Diwedd Marathon y Dynion (sy’n dechrau am 23:00 nos Sadwrn)
Methu aros i weld Eliud Kipchoge’n rasio eto ar ôl siom Marathon Llundain 2020. One off oedd y ras honno yn fy marn i ac fe welwn ni y rhedwr marathon gorau erioed yn cipio aur. Shura Kitata, enillydd Marathon Llundain 2020, Lawrence Cherono o Kenya a Sisay Lemma o Ethiopia sy’n fwyaf tebygol o frwydro am y medalau hefyd.
Ras gyntaf ers dros bron 14 mis! Y tro cyntaf allan o Geredigion ers dros flwyddyn! Marathon cyntaf erioed!
Wrth i’r llwch setlo, a’r cyhyrau poenus ddechrau llacio, mae’n anodd crynhoi’r teimladau. Er mor naff mae hyn yn mynd i swnio…mae o’n teimlo bach fel breuddwyd.
Nid dyma oedd y cynllun ar gyfer fy marathon llawn cyntaf, roedd hynny i fod yn Llundain union flwyddyn yn ôl. Yn sicr roedd hwn yn achlysur gwahanol iawn i’r hyn ro’n i’n disgwyl ei brofi yng nghanol torfeydd Llundain, ond rywsut, roedd o’n teimlo’r un mor arbennig, ac yn llawer mwy arwyddocaol.
Y cefndir
Roedd Marathon Elite Wrecsam i fod i ddigwydd ym mis Hydref diwethaf a hynny, fel mae’r enw’n awgrymu, mewn ystâd ddiwydiannol yn Wrecsam. Syniad Michael Harrington, sef trefnydd ras Hanner Marathon flynyddol Wrecsam, ynghyd â nifer o rasys eraill dros y ffin yn Swydd Gaer.
Y bwriad oedd cynnal ras gyda nifer cyfyngedig o redwyr oedd a’r gallu i redeg marathon dan 2 awr 40 munud i ddynion, a thair awr i ferched. Y gobaith oedd y byddai modd cael caniatâd a thrwydded arbennig iddi allu digwydd dan y cyfyngiadau Covid, trwy roi statws elite iddi. O’r hyn dwi’n deall, roedd trafodaeth ar un pryd i’w defnyddio fel un o ddigwyddiadau ‘prawf’ y Llywodraeth i weld sut fyddai modd cynnal digwyddiadau chwaraeon yn ddiogel.
Yn anffodus, daeth y clo clec yng Nghymru yr union amser roedd y ras i fod i ddigwydd a rhoi stop ar y cynlluniau.
Doedd gohirio nes y gwanwyn ddim yn ddrwg i gyd, ac yn sicr fe roddodd gyfle i’r trefnwyr atgyfnerthu’r casgliad o redwyr fyddai’n rasio, gan hefyd roi cyfle i rai geisio rhedeg amser cymwys i gystadlu yng Ngemau Olympaidd Tokyo. Roedd y rhestr rhedwyr yn gryf…yn gryf iawn, gyda nifer o redwyr clwb gorau Cymru a Lloegr, ynghyd â llu o redwyr cryf o Iwerddon a rhannau eraill o’r byd.
Wrth i’r clo mawr diweddaraf rygnu ymlaen ar ddechrau’r flwyddyn, roedd dal amheuaeth a fyddai’r ras yn digwydd nes yn hwyr yn y dydd, rhyw bythefnos cyn y dyddiad mewn gwirionedd. Yn y diwedd, bu’n rhaid symud y cwrs ychydig filltiroedd o Wrecsam a dros y ffin i Loegr ble roedd y rheolau wedi dechrau llacio, a setlwyd ar gwrs ym mhentref Pulford – yn llythrennol ychydig lathenni dros y ffin, yn wir, roedd HQ y ras yn Rossett yng Nghymru!
Dal rhai o redwyr y grŵp nesaf ar yr ail lap – doedd dim gwên erbyn y 7fed!
Y trefniadau
Yn gyntaf, mae’n rhaid i mi ganmol dewrder a dyfalbarhad Michael Harrington a’i dîm wrth iddynt fynd ati i sicrhau y byddai’r ras yn digwydd. Gyda chymaint o ansicrwydd a heriau i’w goresgyn, alla’i ddim dychmygu sawl awr o waith y treuliodd Michael ar y prosiect ac roedd gwerthfawrogiad y rhedwyr ar y cyfryngau cymdeithasol a’r grŵp Strava yn amlwg iawn.
Roedd y trefniadau ymlaen llaw ac ar y dydd yn ddi-fai, ac yn esiampl wych o’r modd y gellir cynnal digwyddiadau fel hyn yn ddiogel dan yr amgylchiadau presennol.
Yn gryno, roedd y cwrs yn un triongl, tua 3.5 milltir felly roedd rhaid i redwyr y marathon gwblhau 7 lap a hanner (roedd hanner marathon ar y dydd hefyd).
Roedd pawb yn dechrau mewn tonnau o ryw 20-25 o redwyr oedd wedi nodi amcan amser gorffen tebyg i’w gilydd, gyda rhyw 20 eiliad rhwng pob ton. Roedd pawb yn gwybod ym mha don oedden nhw i fod ymlaen llaw, gyda lliw (e.e. gwyrdd o’n i) a llythyren (A, B, C) ar gyfer pob ton. Roedd ardal benodol tu ôl i’r llinell ar gyfer pob lliw, a llythyren o fewn y lliw hwnnw – gyda smotyn unigol i bawb sefyll arno er mwyn sicrhau cadw pellter.
Y rhedwyr cyflymaf oedd agosaf i’r llinell ddechrau, a nhw oedd yn dechrau gyntaf, gyda’r grŵp nesaf yn symud ymlaen i’r llinell yn barod i fynd pan oedd y gorchymyn yn dod. Roedd hyn yn hynod o slic diolch i’r cyfathrebu clir dros yr uchelseinydd. Unwaith roeddech chi’n rhedeg, roedd hi’n teimlo (bron!) fel ras arferol.
Yr hyfforddi
Rhwng paratoi ar gyfer Marathon Llundain llynedd, ac yna dyddiad gwreiddiol y ras yma yn yr hydref, rhaid cyfaddef nad oedd gen i lawer o frwdfrydedd ym mis Ionawr tuag at drydydd bloc hyfforddi marathon heb sicrwydd o ras ar y diwedd. Doedd rhyw anaf bach oedd yn gwrthod cilio ers dechrau mis Rhagfyr ddim yn help, ac ro’n i’n teimlo ymhell o ble y dyliwn i fod o ran milltiroedd yn y coesau erbyn diwedd Ionawr.
Fe wellodd pethau’n raddol ym mis Chwefror, er ei bod hi’n anodd gwthio’r sesiynau caled i’r eithaf wrth hyfforddi ar ben dy hun. Ond ro’n i’n dechrau teimlo’i bod hi’n dod erbyn dechrau mis Mawrth nes i’r achilles dde ddechrau mynd yn boenus a golygu gorfod gostwng y milltiroedd am wythnos.
Doedd hyn ddim yn ddiwedd y byd, yn enwedig gan fy mod i wedi cael tipyn o flas ar ddefnyddio’r beic ar Zwift dros y gaeaf, ac yn defnyddio seiclo’n fwy i draws-hyfforddi yn hytrach na nofio gan fod y pyllau ar gau.
Wnaeth yr anaf ddim cilio’n llwyr, ond doedd o ddim yn rhy boenus i fy stopio a ddim i’w weld yn gwaethygu wrth redeg, felly doedd dim amdani ond dal ati a gobeitho’r gorau. Cliriodd yr anaf yn raddol, ac mi wnes i lwyddo i gael ychydig o wythnosau da yn banc, gyda rhai o’r prif sesiynau mawr yn mynd yn dda hefyd – roedd gobaith!
Ro’n i’n teimlo’n dda wrth i mi orffen y sesiwn fawr olaf bythefnos union cyn y ras, ond yna wrth i’r diwrnod hwnnw fynd ymlaen dechreuodd yr achilles arall deimlo’n boenus, a chwyddo – damia. Effeithiodd hyn dipyn ar gynllun y bythefnos olaf a gorfod troi nôl at y beic gryn dipyn, ond doedd hyn ddim yn ddrwg i gyd gan fy mod i wedi cyrraedd y cyfnod taper erbyn hyn, ac angen tynnu nôl rhywfaint, er efallai ddim cweit gymaint.
Ddim y paratoad perffaith, ond o’r hyn dwi’n ddeall, mae bloc marathon di-anaf yn beth prin iawn.
Y ras ei hun
Dwi’n arfer â theimlo’n nerfus cyn ras fawr, ac roedd cymaint o gyffro ynglŷn â’r ras yma ymysg rhedwyr eraill ar y cyfryngau cymdeithasol nes bod rhywun yn teimlo eu bod yn ran o ddigwyddiad arwyddocaol.
Mi wna’i gyfaddef hefyd, er mai rhywbeth dwi wedi sylweddoli wedyn ydy hyn, fy mod i’n reit betrus am resymau ôl-Covid. Hynny ydy, dwi heb fod o Geredigion ers dros flwyddyn, wedi cadw’n gaeth at y rheolau, a ddim hyd yn oed wedi bod i archfarchnad dros y cyfnod yma. Felly roedd teithio i Loegr, aros noson mewn gwesty, a bod yng nghanol pobl (er yn cadw pellter) yn brofiad rhyfedd iawn. Wrth gwrs, fe ddyliwn i fod wedi sylweddoli y byddai hyn yn ychwanegu straen gwahanol i unrhyw beth dwi wedi’i brofi o’r blaen cyn ras.
Y tonnau: ro’n i’n eithaf hoffi’r syniad o ddechrau mewn grŵp bach o redwyr oedd yn disgwyl rhedeg amser tebyg i mi – grêt o ran pacing. Er hynny, daeth hi’n amlwg iawn i mi’n syth, o fewn 200 llath i fod yn onest, nad oedd unrhyw un yn y grŵp yn mynd i fod yn rhedeg ar fy nghyflymder i. Anlwc llwyr mae’n debyg, ond fe olygodd fy mod i ar ben fy hun o’r dechrau gyda’r grŵp nesaf 20 eiliad o fy mlaen. Ro’n i’n dal rhedwyr o’r grŵp nesaf trwy’r ras, ond wrth gwrs roedd hynny’n golygu eu bod nhw’n rhedeg yn arafach na mi, ac felly ro’n i’n mynd heibio iddyn nhw’n syth i bob pwrpas.
Bwyd a diod: yr her fawr i mi fel rhywun sydd ddim wedi arfer ag yfed na bwyta dros bellteroedd llai. Ro’n i wedi ymarfer, ac mi wnes i drio sticio ar y cynllun gan gymryd ychydig o ddŵr bob cyfle posib, a dechrau cymryd ychydig o danwydd (Clif Bloks) ar ôl rhyw hanner awr. Dwn i ddim ai’r strategaeth oedd ar fai, ond nes i ddechrau teimlo stitch yn fy ochr o gwmpas 12 milltir, a barodd am gwpl o filltiroedd, nes i mi deimlo stitch yn yr ochr arall!! Yn amlwg mae gen i bach i ddysgu eto am yr hyn sy’n gweithio i mi.
Y pacing: dwi’n weddol fodlon gyda’r modd y gwnes i reoli fy nghyflymder. Nes i ddechrau ychydig eiliadau’r filltir yn gyflymach na’r hyn angen i mi redeg i gyrraedd fy nharged amser, er yn teimlo y gallwn i fod wedi cyflymu ar adegau. Ro’n i’n weddol fodlon gyda’r splits hyd at 21 milltir, ond wedyn….
Y wal: mae pawb wedi clywed am ‘y wal’, ac yn gwybod i’w ddisgwyl o…i’w groesawu o hyd yn oed. Ond pan mae’r wal yn taro, mae’r holl gynllunio’n mynd ar chwâl ac mae jyst yn fater o oroesi. Nes i deimlo rhyw hanner wobyl ar 16 milltir, ond llwyddo i ddod trwy hynny, er ei fod o’n dal i chwarae ar y meddwl. Ro’n i’n gwybod bod y wal go iawn yn dod tua milltir 21 wrth i’r egni ddechrau mynd yn brin, a theimlad bod y coesau’n drwm…roedd y pinnau bach ym mysedd y dwylo’n gliw hefyd! Roedd y dair milltir olaf yn artaith llwyr, ac fe ddiflannodd y targed amser, gyda chroesi’r llinell o gwbl yn darged newydd.
Y wal yn taro a’r ‘form’ yn llithro
Ffactorau eraill: pan ddaeth y wal, dwi ddim yn credu bod y diffyg rasio diweddar wedi helpu. Mae rhywun yn dysgu sut i wthio trwy’r eiliadau gwirioneddol galed yna mewn ras, ac mae dros flwyddyn heb rasio’n amser hir heb y profiad hwnnw. Yn seicolegol, doedd gweld rhedwyr yr hanner marathon yn gorffen ddim yn help, na chwaith gweld llawer iawn o redwyr wedi stopio neu’n cerdded – “os ydyn nhw’n cerdded yna ma’n iawn i mi wneud tydi?” Mae’n anodd gwybod faint o ffactor oedd y diffyg torf hefyd o’i gymharu â marathon mawr arferol. Roedd rhywfaint o bobl allan yn gwylio ac yn cefnogi, ond roedd bylchau hir ac unig rhwng rhain. Doedd dim hawl i ni fynd â chefnogwyr, felly doedd yr hwb yna sy’n dod o weld wynebau cyfarwydd…heblaw Andy Davies (diolch Andy!)
Yr esgidiau: nes i wisgo fy fflats rasio arferol (Adidas Adizero Adios) ar gyfer y ras, ond fel ro’n i’n disgwyl roedd o leiaf 90% o’r rhedwyr eraill yn gwisgo esgidiau bownsiog gyda phlât carbon. Er i mi basio sawl un, mi wnes i hefyd sylwi pa mor gryf oedd nifer o’r yn gorffen yn yr esgidiau yma…ac roedd pob un yn dweud eu bod nhw’n gwneud gwahaniaeth sylweddol.
Er jyst yn falch i orffen yn y diwedd, ro’n i braidd yn siomedig i fethu’r targed amser wrth groesi’r llinell. Ond yn raddol mae’r siom hwnnw wedi lleihau, a dwi wedi penderfynu bod yr amser yn ddigon parchus, yn enwedig o ystyried yr amgylchiadau unigryw, ac mai hon oedd fy marathon llawn cyntaf. Yn y bon, mae 26.2 milltir yn ffordd bell i redeg yn gyflym, ac mae’r marathon yn fwystfil gwahanol iawn i unrhyw bellter arall.
Dwi’n teimlo’n falch iawn o’r cyfle i fod wedi cymryd rhan mewn digwyddiad arbennig, ac arwyddocaol. Dwi hefyd wedi dysgu lot…ond yn edrych ymlaen at gael egwyl o’r milltiroedd mawr am ychydig!
Dwi wedi bod yn chwarae efo’r syniad o lansio podlediad rhedeg ers sawl blwyddyn, a threulio sawl ryn hir yn pendroni dros enwau pobl i’w cyfweld.
Yn ddi-ffael, roedd un enw bob amser yn agos at frig y rhestr – Angharad Mair.
Mae Angharad wrth gwrs yn fwyaf cyfarwydd fel cyflwynwraig deledu fwyaf adnabyddus Cymru. Teg dweud ei bod yn gyfrannwr ac adolygydd papurau digon di-flewin ar dafod i Radio Cymru hefyd.
Ond mae’n siŵr bydd y mwyafrif o bobl sy’n darllen y blog yma’n ymwybodol ei bod hi hefyd yn rhedwraig dda iawn, er efallai ddim yn gwbl ymwybodol o’i llwyddiant yn y maes dros y blynyddoedd.
Er mai dechrau rhedeg yn gymharol hwyr mewn bywyd wnaeth Angharad, roedd cyflymder ei datblygiad, a’r llwyddiant rhyngwladol a ddaeth yn sgil hynny’n ddigon syfrdanol.
Mae ei hamser gorau o 2:38:47 dros bellter y marathon ym 1996 yn dal i’w gosod yn y 10 Uchaf o ferched Cymreig erioed, ac fe gafodd y cyfle i redeg ym Mhencampwriaethau Athletau’r Byd yn Athen y flwyddyn ganlynol. Roedd hi hefyd yn bencampwraig Cymru dros bellteroedd llai fel y 5k, a hefyd mewn traws gwlad.
Er iddi roi’r gorau i redeg am 15 mlynedd flwyddyn yn dilyn anaf ym 1998, fe ail-gydiodd ynddi fel rhedwr hŷn, a llwyddo i dorri record Ewrop yn y categori oedran V55!
Felly roedd yn bleser mawr cael cyfle am sgwrs iawn gydag Angharad am ei hanes a phrofiadau dros y blynyddoedd. Gan bod cymaint o hanesion difyr, a jyst pethau difyr ganddi i’w dweud yn gyffredinol, dwi wedi penderfynu cyhoeddi’r cyfweliad fel pennod ddwy ran.
Yn y gyntaf, rydan ni’n canolbwyntio ar sut y decheuodd redeg, a sut y datblygodd i fod yn rhedwraig marathon gorau Cymru, a Phrydain. Bydd yr ail ran yn cael ei gyhoeddi wythnos nesaf, felly cadwch olwg am hwnnw’n fuan.
Mae'r podlediad yn ôl yn dilyn saib fach, a gwestai cyntaf yr ail gyfres ydy ffrind mawr i'r pod, Dyfed Whiteside-Thomas. Mae Dyfed yn aelod o Glwb Harriers Eryri, ac yn bennaf gyfrifol am y 'Sesiwn Elltydd' enwog (Thursday Night Hills) yn Llanberis. Mae hefyd yn rhedwr arbennig ac rydan ni'n sgwrsio'n fuan ar ôl iddo redeg marathon wych yng Nghasnewydd gan orffen mewn 2:43:57 – y Cymro cyntaf yn ei gategori oedran, sy'n ei wneud yn bencampwr M45 Cymry yn ein tyb ni, gan bod y ras yn Bencampwriaeth Meistri Cymru eleni (canlyniadau llawn). Sgwrs ddifyr, gyda boi da.
Cyfle hefyd i grynhoi canlyniadau rhywfaint o'r rasys sydd wedi bod yn ddiweddar, wrth i bethau ail-ddechau o ddifrif. Lot mwy o hyn yn y gyfres gobeithio.
Cerddoriaeth y bennod yma ydy 'Dyma Kim Carsons' gan y grŵp newydd o ardal Pontypridd, Y Dail. Allan yn ddigidol rŵan.
Roedd hi’n wythnos reit gyffrous i ffans rhedeg wythnos diwethaf wrth i dreialon tîm Prydain ar gyfer y marathon gael eu cynnal yng Ngerddi Kew ddydd Gwener diwethaf (26 Ebrill).
Gobeithio bod rhai ohonoch chi wedi cael cyfle i ddarllen y rhagolwg ar y blog, a bod hynny wedi codi blýs arnoch chi am y ras gyda saith o Gymry’n cystadlu rhwng y dynion a’r merched.
Un o’r rhain oedd Andrew Davies o Faldwyn, sy’n un o redwyr marathon gorau Cymru ers sawl blwyddyn bellach ac wedi gwisgo’r fest coch yng Ngemau’r Gymanwlad ddwy waith, yn ogystal â chynrychioli Prydain ym Mhencampwriaethau Athletau’r Byd yn Athen yn 2017. Mae o hefyd yn dal y record Brydeinig ar gyfer y marathon i ddynion dros 40 oed.
Dwi wedi bod isio trefnu sgwrs gydag Andy ers tro byd felly roedd hi’n gyfle perffaith i’w wahodd ar y podlediad ar ôl y ras ddydd Gwener. Cafodd Andy ras soled, gan orffen yn seithfed mewn 2:15:50 – amser ardderchog dan yr amgylchiadau, ond ychydig yn arafach na’r 2:15:30 byddai wedi gobeithio rhedeg, sef yr amser mae tîm Cymru’n gofyn amdano ar gyfer Gemau’r Gymanwlad blwyddyn nesaf. Daw cyfle arall yn fuan, ac mae hyn yn codi yn y sgwrs.
Doedd dim lwc i’r Cymry eraill yn Kew chwaith o ran cyrraedd y Gemau Olympaidd yn anffodus. Natasha Cockram ddaeth agosaf gan orffen yn ail i’r Albanes Steph Davies mewn 2:30:02 – roedd ei safle’n ddigon da i gael ei dewis, ond yn anffodus yr amser yn 32 eiliad yn arafach na’r hyn oed yn ofynol. Mor, mor agos ond gobeithio y gall fodlonni gyda record Gymreig newydd.
Yn ras y merched hefyd roedd PBs enfawr i Rosie Edwards oedd yn drydydd mewn 2:31:56, ac i Clara Evans yn y pumed safle mewn 2:32:42. Yn anffodus ni lwyddodd Charlotte Arter i orffen y ras ond fe ddaw ei hamser hithau eto.
Dewi Griffiths oedd y gobaith gorau yn ras y dynion, ac roedd yn edrych yn hynod o gryf nes 30k. Yn anffodus fe gollodd fomentwm dros y 5k canlynol a llithro oddi ar gefn y grŵp blaen wrth i Chris Thompson gipio buddugoliaeth anhygoel. Gorffennodd Dewi’n bedwerydd mewn 2:13:42, ond roedd arwyddion clir ei fod yn dechrau dod dros ei broblemau salwch ac anafiadau diweddar.
Roedd ei gyd-aelod o Harriers Abertawe, Josh Griffiths yn bumed mewn 2:15:08 felly ymdrech dda arall iddo yntau dros y pellter.
Felly tair merch yn y pump uchaf, a thri dyn yn y saith uchaf – ddim yn ddrwg o gwbl i genedl fach ac mae gobaith gwirioneddol am fedal neu ddwy yn Gemau’r Gymanwlad 2022. Yn fy marn i ,mae llawer o’r diolch i Andrew Davies, oedd yn cario’r fflam Gymreig dros bellter y marathon am sawl blwyddyn nes yn ddiweddar – dwi’n weddol siŵr ei fod wedi helpu ysbrydoli’r holl Gymry sy’n llwyddo cystal erbyn hyn.
Roedd yn bleser pur cael sgwrsio gydag o, mwynhewch y podlediad!
Mae'r podlediad yn ôl yn dilyn saib fach, a gwestai cyntaf yr ail gyfres ydy ffrind mawr i'r pod, Dyfed Whiteside-Thomas. Mae Dyfed yn aelod o Glwb Harriers Eryri, ac yn bennaf gyfrifol am y 'Sesiwn Elltydd' enwog (Thursday Night Hills) yn Llanberis. Mae hefyd yn rhedwr arbennig ac rydan ni'n sgwrsio'n fuan ar ôl iddo redeg marathon wych yng Nghasnewydd gan orffen mewn 2:43:57 – y Cymro cyntaf yn ei gategori oedran, sy'n ei wneud yn bencampwr M45 Cymry yn ein tyb ni, gan bod y ras yn Bencampwriaeth Meistri Cymru eleni (canlyniadau llawn). Sgwrs ddifyr, gyda boi da.
Cyfle hefyd i grynhoi canlyniadau rhywfaint o'r rasys sydd wedi bod yn ddiweddar, wrth i bethau ail-ddechau o ddifrif. Lot mwy o hyn yn y gyfres gobeithio.
Cerddoriaeth y bennod yma ydy 'Dyma Kim Carsons' gan y grŵp newydd o ardal Pontypridd, Y Dail. Allan yn ddigidol rŵan.
Byth ers clywed y newyddion am hanes hynod o drist Sarah Everard yn gynharach yn y mis, mae diogelwch merched ar y strydoedd, a’r ymddygiad mae merched wedi gorfod dioddef yn gyffredinol gan ddynion wedi pwyso’n drwm ar fy meddwl.
Fel llawer iawn dwi’n siŵr, dwi’n aml yn defnyddio rhedeg fel cyfle i glirio’r meddwl, neu o leiaf i roi trefn ar y meddyliau. Mae’n deg dweud bod y pwnc yma, ynghyd ag ymgyrchoedd fel ‘Reclaim The Night / Streets’ wedi meddiannu fy meddyliau’n llwyr ar sawl run, ond yn wahanol i’r arfer tydi rhedeg ddim i’w weld yn cynnig yr atebion dwi’n chwilio amdanyn nhw y tro yma.
Pwrpas y blog yma, a phodlediad Y Busnes Rhedeg Ma, ydy codi ymwybyddiaeth o redeg yng Nghymru, ond hefyd ysgogi pobl i ddechrau a dal ati i redeg. Er fy mod i eisoes yn ymwybodol o hynny, mae sylweddoliad llawn o’r heriau sy’n wynebu 50% o’r boblogaeth i wneud hynny wedi bod yn gliriach nag erioed dros yr wythnosau diwethaf.
Dwi’n ymwybodol ers amser fy mod i’n freintiedig iawn yn gallu mynd i redeg pryd bynnag, a lle bynnag (o fewn rheswm) sy’n gyfleus. Mae clywed am brofiadau merched, a’r ystyriaethau maen nhw’n gorfod gwneud cyn camu trwy’r drws BOB TRO maen nhw’n mynd allan i redeg wedi bod yn agoriad llygad, ac yn dorcalonnus i fod yn gwbl onest.
Er fy mod i’n awyddus iawn i gynnal trafodaeth am y pwnc yma ar y llwyfannau rhedeg yma, dwi wedi dod i’r canlyniad fy mod i, fel dyn, yn hollol anghymwys i wneud hynny gydag awdurdod. Felly, dwi wedi penderfynu gofyn i 5 o ferched sy’n rhedwyr dwi’n parchu’n fawr i ysgrifennu ar fy rhan, gan obeithio bydd hynny’n cynnal y sgwrs, ac yn ysgogi mwy o drafodaeth am broblem sydd wir angen ei datrys.
Dyma eu profiadau…
Mae pawb wedi clywed beth mae rhaid i ni fel merched gwneud neu feddwl erbyn nawr. Yr edrych am y tipiau diogelwch “rhag ofn ein bod ni eu hangen”, y “mynd a’r ffon – rhag ofn”, y “mynd gyda fy ffrindiau – rhag ofn”, y “mynd yng ngolau dydd yn unig – rhan ofn”. Presenoldeb y “rhag ofn” yng nghefn fy meddwl sy’n fy ngwylltio i. Y rheswm dros hyn yw’r anghydbwysedd beth mae’r “rhag ofn” yno’n feddwl i ddynion a merched sy’n rhedeg. Fel merch sydd wedi bod yn rhedeg ers bron i saith mlynedd rwyf wedi gwneud a dweud pob un o rain ac er fy mod wedi gwneud pob un (yn ddyddiol / wythnosol) does dim gymaint o ryddhad o’r “ofn” yno. Pan ofynnais i fy ngŵr (sy’n rhedeg yn ddyddiol yn yr un cynefin) os oedd o’n dweud a gwneud y rhain hefyd, yr ateb syml oedd “na”. Dechreuodd sgwrs am ein gwahanol brofiadau wrth redeg yn annibynnol a’r pryderon gwahanol sydd gennym. Roeddwn i gallu rhesi degau o bryderon oedd gen i am fy niogelwch fy hun a hefyd profiadau o ddychryn neu o agwedd sarhaus ataf. Ei bryder mwyaf ef oedd y potensial o ddychryn rhywun arall i boeni am eu diogelwch nhw. Eglurodd ei fod yn ymdrech i osgoi – “rhag ofn”, gwneud ei bresenoldeb yn ymwybodol i eraill – “rhag ofn”, dweud helo yn gyfeillgar – ond ddim rhy gyfeillgar “rhag ofn” a tipyn mwy. Roedd y “rhag ofn” yma yn ei feddwl wrth redeg, ond nid yn bwysau ar ei feddwl. Dwi’n gwybod ei fod e’n un o’r mwyafrif o ddynion a bysau byth yn meddwl dychryn neu frifo merch – ond mae’n rhaid i mi, fel merch, feddwl am y lleiafrif – rhag ofn. Rhag ofn nad ydyn nhw mor gwrtais neu mor feddylgar am brofiadau eraill. Rhag ofn i mi ddweud helo yn gyfeillgar i’r un anghywir, rhag ofn i mi dderbyn coment sarhaus, rhag ofn i mi gael fy mrifo, rhag ofn i mi fethu dod adre i fy ngŵr a fy mhlant. Nid yw hwn i ddweud nad yw dynion yn dychryn neu’n teimlo yn yr un “rhag ofn” yno ar adegau ond mae’r pryder i ni’n fyw neu yng nghefn ein meddyliau yn aml ar bob un run. Felly, wrth fynd ati yn fy ‘On Clouds’ lliwgar, gyda fy nillad llachar, gyda fy ffon mewn poced gudd, y Garmin neu’r Strava gyda ‘beacon’ yn actif, mae’r ffocws o’r pace, pellter, elevation a’r route delfrydol yn cael ei gymylu BOB TRO gyda’r gweithredai neu’r meddyliau yno mae’n rhaid i mi fod yn fwy iddyn nhw i fy nghadw i’n saff – rhag ofn.
NME
Dwi ddim yn rhedwr cystadleuol. Dwi ddim yn rhedwr cyflym chwaith. Ond dwi yn mwynhau rhedeg. A’r hyn dwi’n mwynhau yn fwy na dim yw’r teimlad o ryddid a ddaw o roi un droed o flaen y llall. Y teimlad o fod ar fy mhen fy hun.
Dwi’n rhedwr ‘gwrando ar gerddoriaeth’ hefyd. Dwi’n llwyr ymwybodol bod yna elfen o snobyddrwydd tuag at redwyr sy’n gwneud hynny, a chonsyrn gwirioneddol efallai fod sŵn y gerddoriaeth yn gwneud rhywun yn llai ymwybodol o’u hamgylchedd, boed hynny’n bobl eraill neu yn draffig. Un tro yn unig es i heb y clustffonau. Wn i ddim ai cyd-ddigwyddiad ydoedd, ond wrth gael dyn yn gweiddi’n anweddus arnaf o’i fan, a dyn arall yn gwneud yr un fath o’i gar boy racer, y penderfyniad naturiol oedd sodro’r clustffonau i’r clustiau bob tro o hynny ymlaen. O leiaf dwi ddim yn medru clywed os oes unrhywun yn gweiddi…
Dwi ddim yn medru siarad dros pob merch, ond dyma’r fath o benderfyniadau mae nifer o’r merched dwi’n adnabod yn gwneud. Dewisiadau rydym ni’n gwneud yn anymwybodol bron, sgyrsiau sy’n digwydd yn y meddwl. Y dewis rhwng diogelwch a chau allan y byd yn bwrpasol. Dewis gwisgo’r hyn sy’n gyfforddus neu’r hyn fydd yn denu’r lleiaf o sylw. A yw’n saff i fapio run gwledig rheolaidd ar Strava? Tua phryd yn yr Hydref mae’n mynd yn rhy dywyll i fentro lawr hoff route a gorfod ildio i strydoedd goleuedig y dref? Neu dylwn i brynu torch pen? Yw en saff i fynd i lefydd lle mae angen torch pen?
Dwi’n rhedwr araf ond dwi’n rhedwr hapus. Felly dwi’n dueddol o wenu wrth gydnabod rhedwyr eraill, allai ddim helpu’r peth! Yn y gorffennol, lleiafrif o ddynion fyddai’n fy nghydnabod i, gyda’r rhan fwyaf a’u llygaid yn edrych yn syth ymlaen, yn ddwfn yn eu zone. Ond ers marwolaeth drasig Sarah Everard, dwi yn sicr wedi gweld newid. Mae pob dyn, yn ddi-fael yn gwenu arnaf yn fel giât yn garedig, fel petaent yn trio mynegi ‘does dim rhaid i ti boeni amdanaf fi, dwi ddim yn ddyn felly’. Ac er mor ddiolchgar ydw i am y sensitifrwydd a’r empathi, mae rhywbeth cwbl torcalonnus am y peth.
KW
Dwi wedi bod yn rhedeg ers ryw dair blynedd ac yn mynd ar fy mhen fy hun fel arfer. Yn yr haf dwi’n tueddu i fynd yn y bore cyn gwaith ond wedi teimlo’n anghyfforddus sawl gwaith wrth basio dynion yn cerdded ar eu pen eu hunain ar hyd y llwybr beics lle fydda i’n rhedeg. Mae’n siŵr nad oedd sail dros deimlo’n anghyfforddus o gwbl, ond mae’n naturiol teimlo felly rywsut. Wna i byth basio dyn ar ei ben ei hun heb drio cofio sut oedd o’n edrych wedyn er mwyn rhoi disgrifiad i’r heddlu pe bai raid. Dwi wedi gwneud hyn erioed, a dim ond yn ddiweddar dwi wedi sylweddoli pa mor ‘rong’ ydy hynny mewn gwirionedd.
BE
Pan ofynnodd Owain Sch. i mi sgwennu pwt am ddiogelwch merched wrth redeg ar ben eu hunain yn dilyn hanes ofnadwy Sarah Everard mi roeddwn i’n teimlo braidd yn anghymwys, nad oedd gennyf ddim i’w gynnig, dim cyngor doeth, dim profiad drwg i adrodd ac erioed wir wedi teimlo’n ofnus wrth redeg o gwmpas y lle ar fy mhen fy hun, a bo fi byth bron yn meddwl am ‘y beth all ddigwydd’.
Ond wedi eistedd lawr a chysidro, sylweddolais gymaint mae’r ‘y beth all ddigwydd’ YN rheoli fy ryns. Y ffordd, y lle a’r pryd dwi’n rhedeg a fy mhrofiad o’r ryn yna. Fy mod yn teimlo’n ofnus ar brydiau yn rhedeg ar fy mhen fy hun, a hynny heb i mi sylweddoli bron os ydw i’n bod yn hollol onest hefo fi fy hun. Mae hynny wedi bod yn gryn ddychryn i mi.
Dwi wrth fy modd yn rhedeg yn y bore bach, pan fydd gweddill y byd yn cysgu a dim ond natur yn ei holl ogoniant allan yn chwarae. Ond bydd amser y ‘bore bach’ yma yn newid o dymor i dymor. Fyddai ddim yn hoffi rhedeg yn y tywyllwch ‘rhag ofn’. Mi fyddai’n newid yr amser i siwtio’r haul yn codi. Dwi ddim yn siŵr pam y byddai pethau gwaeth yn digwydd yn y tywyllwch, ond fel yna dwi wedi cael fy nysgu, da ni wedi cael ein rhybuddio a’n siarsio i gadw ein hunain mewn mannau goleuedig, mewn llefydd prysur gyda phobl eraill o gwmpas. Fyddai hefyd yn dewis fy llwybr, ddim yn mynd ar hyd llwybrau cuddiedig. Nid rhywbeth dwi’n gwneud penderfyniad ymwybodol ohono, ond rhywbeth dwi jyst yn ei neud. Heb feddwl. Os fyddai’n gweld unigolyn (dyn) ar ben ei hun ar hyd llwybr, mi fyddai’n ceisio mynd rhyw ffordd arall. Fyddai hefyd os ydw i’n digwydd pasio unrhyw un ar ei ben ei hun, yn codi fy spid, ceisio edrych yn fwy ffres nac ydw i wir yn ei deimlo, nid er mwyn dangos fy hun ond fel y bydd yn meddwl eilwaith am geisio fy nal. Mae hyn yn neud i fi deimlo’n hynod o euog. Dwi’n barnu’r unigolyn am ddim rheswm heblaw ei fod ar ben ei hun.
Ac os fyddai’n bod yn onest dwi hefyd wedi derbyn sawl profiad annifyr tra’n rhedeg ar fy mhen fy hun. Pam na feddyliais am y rhain? Ydyn nhw efallai yn rhan o bethau i’w disgwyl tra allan yn rhedeg ac yn ‘fel yna y mae petha’. Fel arfer mae’r episodau hyn yn cynnwys dynion yn gweiddi o’u ceir neu o’u faniau. Dwi rili ddim eisiau swnio’n ystrydebol a chollfarnu dynion. Dwi ddim eisiau rhoi bai ar gam nac ychwaith ddwyn anfri ar ddynion yn gyffredinol, ond wir, dynion ydi’r rhai sydd wedi bod yn rhan o bob profiad annifyr dwi wedi ei gael tra’n rhedeg ar fy mhen fy hun.
Dwi wedi cael car yn gyrru yn araf ac hynod o agos ataf yr ochr anghywir i’r ffordd tra’n rhedeg ar hyd ochr ffordd dawel. Mi wnaeth hyn fy ypsetio i yn fwy na dim un digwyddiad arall. Gwneud i mi deimlo fy mod i wedi neud rhywbeth o’i le, na ddyliwn i fod yma yn rhedeg. Teimlad hynod o anghyfforddus sydd yn bendant wedi gneud i mi ail feddwl rhedeg ar hyd ffordd anghysbell.
Un profiad ble dychrynais fy hun yn fy ymateb iddo oedd pan oeddwn yn rhedeg i lawr y stryd fawr un noson. Er ei bod yn hwyr mi roeddwn i’n rhedeg lawr stryd gyda digon o olau ac er nad oedd yn brysur mi roedd yna ambell i berson o gwmpas y lle. Y munud nesaf mi daflodd bachgen mewn criw o fois yn eu harddegau hwyr wy arnai. Mi roeddwn wedi dychryn, ac er mai wy a daflwyd, iasgob mi wnaeth o frifo, good shot go iawn! Mi redon i ffwrdd ac yn yr eiliad yna am ryw reswm penderfynais fynd i chwilio amdanynt gan fynd rownd y strydoedd cefn. Mi welais i nhw tu allan i’r siop lyfrau Cristnogol! Rhedodd un i ffwrdd ac mi arhosodd y ddau arall i wrando ar fy nghwyn. Mi roeddent yn hynod o ymddiheurol. Hwyl oedd o i fod, doedd dim bwriad ganddyn nhw i fy ypsetio nac i’m brifo ond dyna yn union oedden nhw wedi ei neud. Dwi wir yn teimlo fod y sgwrs yna wedi helpu nhw a fi. Dwi’n deud y stori yma oherwydd, ia, mi fedrwn ni gyd gadw ein hunain yn saffach drwy wneud yr holl bethau mae’r holl bobl yma yn ei gynghori i ni wneud fel merched, cadw mewn lle goleuedig, gyda phobl o gwmpas, gadael i bobl wybod lle yda ni’n mynd ac ati. Ond wn i ddim sut mae hyn yn mynd i roi stop ar bethau rhag digwydd. Dyma yn union a wnaeth Sara Everard.
Nid gan y dioddefwr mae’r pwer i roi stop ar hyn, drwy ddilyn y ‘rheolau cadw’n saff’ yma nac ychwaith yr ymosodwr ei hun, drwy osod cyrffyw er enghraifft (fel y cynigiodd rhai), ond yn hytrach gan y gwylwyr, y ni sydd o gwmpas, yn gymuned o ddynion ac o ferched.
EG
Oes pwynt sôn am yr amser y wnaeth bechgyn fy nilyn ar moped I smacio fy mhen-ôl, yn ganol y dydd, tra mas am rhediad? Hwyl a sbri I nhw, dwi’n siwr. Am y tro wnaeth tri neu bedwar bachgen ifanc fy nilyn ar eu beiciau am milltir neu ddwy? Am bach o sbort? Yr amser ‘na wnaeth tri hen ŵr blocio’r ffordd a gweud wrthai I “fod yn ofalus, dylse ti ddim fod allan ar dy hunan fach”? Yn “poeni amdanaf”, wrth gwrs. Neu sôn efallai am y chant a mil o weithiau mae rhyw foi a’I fêt yn hongian mas o ffenest eu car i chwibanu neu gwneud sŵn cysanu ataf? Efallai bod fi ddim yn gwneud digon? Strava i preifat, rhedeg heb headphones, altro oriau rhedeg, pendroni am gwisgo crop top ar diwrnod poethaf y blwyddyn er osgoi sylw dieisiau? Neu efallai, efallai, nid ni y merched sydd a’r cyfrifoldeb i newid pethau, i ysteried pob manylder cyn gadael y ty? Falle taw’r bechgyn sydd angen meddwl dwywaith: odi fy sylwadai yn addas? Efallai bod beth sy’n bach o sbort I fi yn ei hofni hi? Galla’I defnyddio fy llais er mwyn newid er daioni? Un peth sydd yn glir: mae’n hen bryd iddyn ni newid y naratif: nid canolbwyntio ar ddiogelwch merched sydd angen, ond canolbwyntio ar agwedd ac ymddygiad tuag at merched, menywod a menywod drans. Meddwl dwywaith, dysgu empathi, a gadael I ni’n llonydd I rhedeg yn rhydd.
AD
Diolch i bawb am eu cyfraniadau gwerthfawr – gadewch i ni gadw’r drafodaeth yma’n fyw.
Wedi cryn edrych ymlaen a dyfalu, o’r diwedd mae’r rhestr o redwyr wedi’i gyhoeddi ar gyfer y treialon i ddewis pwy fydd yn cynrychioli Prydain yn Marathon Gemau Olympaidd Tokyo.
Oherwydd cyfyngiadau Covid, nifer fach o redwyr elite fydd yn rhedeg yn y ras arbennig yng ngerddi Kew ddydd Gwener nesaf, 26 Mawrth. Ond y newyddion da ydy bod digon o ddiddordeb Cymreig ymysg y dynion a’r merched i’n cadw ni’n ddiddig.
Mae’r ddwy ras yn edrych yn hollol agored hefyd – mae unrhyw beth yn bosib dros bellter y marathon, ac mae hynny’n arbennig o wir yn yr achos yma gydag ychydig iawn o gyfleodd wedi bod i rasio, a’i bod felly bron yn amhosib gwybod sut siap sydd ar y rhedwyr.
Wedi dweud hynny, os ydy’r hyfforddi wedi mynd yn dda yna mae cyfle gwirioneddol gan rai o’r Cymry greu argraff, a hyd yn oed fachu lle ar yr awyren i Tokyo fis Gorffennaf yma.
Y drefn
Cyn trafod y rhedwyr, dyma geisio crynhoi’r sefyllfa a sut mae modd ennill lle yn nhîm Prydain ar gyfer y Marathon yn Siapan.
Yn gryno, bydd y ddau gyntaf yn y ddwy ras yn ennill lle yn nhîm Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd ar yr amod eu bod nhw eisoes wedi, neu yn llwyddo i redeg yr amser cymwys. Yr amser hwnnw ar gyfer y merched ydy 2:29:30, ac yna 2:11:30 ar gyfer y dynion.
Mae dwy ferch yn y ras sydd eisoes wedi rhedeg yr amser angenrheidiol yn ddigon diweddar sef Steph Davies (a redodd 2:27:40 ddiwedd 2019) a Jess Piasecki (a redodd 2:25:28 ym Marathon Fflorens yn 2019). Os ydy’r ddwy yma yn y ddau safle cyntaf yna maen nhw’n sicr o’u lle yn Tokyo. Felly y flaenoriaeth i’r merched ydy gorffen o flaen Davies a Piasecki, ond mae hefyd angen iddyn nhw redeg o dan 2:29:30 wrth wneud hynny gyda chyfleodd yn brin i wneud hynny mewn ras arall cyn mis Gorffennaf.
O ran y dynion, dim ond un rhedwr yn y ras sydd wedi rhedeg yr amser cymwys sef Ben Connor a redodd yr amser ym Marthon Elite Llundain fis Hydref diwethaf. Llwyddodd Jonny Mellor i’w guro y diwrnod hwnnw, ond yn anffodus mae’r athletwr Harriers Lerpwl wedi’i anafu ac yn methu rhedeg yn Kew.
Cwrs y marathon yng Ngerddi Kew
Mae un rhedwr eisoes wedi ei ddewis i’r tîm yn barod sef Callum Hawkins – heb os y rhedwr marathon gorau o Brydain ers blynyddoedd, ar wahan i Mo Farah. Bydd Hawkins ar y llinell ddechrau gyda llaw, ond yn rhedeg fel pacemaker yn unig gyda disgwyl iddo osod y cyflymder hyd nes 30k. Mae Jake Smith, fu’n Gymro am gyfnod byr (!) hefyd yn pacemaker.
Tom Bedford, sy’n drefnydd rasys profiadol iawn, ydy cyfarwyddwr y ras ac mae wedi mynd i ati i geisio sicrhau cwrs mor gyflym â phosib o fewn cyfyngiadau Covid. Mae’r cwrs yn cynnwys un lap bach, ac yna 12 lap mwy sy’n tua 3.3km yr un – efallai bod hynny’n swnio’n ddiflas, ond fe ddylai ei gwneud hi’n haws i’r rhedwyr gynnal cysondeb eu cyflymder.
Ras y Merched
Os rhywbeth, mae ras y merched yn fwy cystadleuol nag un y dynion, ac mae pedwar enw Cymreig i chi gadw golwg amdanyn nhw sef Charlotte Arter, Natasha Cockram, Clara Evans a Rosie Edwards.
Efallai mai Charlotte Arter ydy’r enw amlycaf o safbwynt y Cymry. Arter sydd wedi arwain y gad o ran rhedeg pellter merched Cymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf – nes yn ddiweddar iawn roedd hi’n dal record y byd ar gyfer Parkrun (15:49 yn Parkrun Caerdydd) a hi oedd pencampwr Prydain ar gyfer y 10,000m yn 2018. Ond, ac mae hwn yn ‘ond’ mawr, dyma fydd y tro cyntaf iddi rasio pellter y marathon.
Wedi dweud hynny, mae Arter wedi torri 70 munud ar gyfer ½ Marathon (69:40) felly mae’r potensial yn sicr ganddi i gystadlu dros y pellter hirach. Roedd yn ddifyr clywed Martin Yelling ar bodlediad Marathon Talk wythnos diwethaf yn darogan mai Arter fyddai’n ennill – rhedodd ei wraig, Liz, ddwy waith yn y Gemau Olympaidd felly mae’n gwybod ei stwff. Mae amheuaeth bach dros ei ffitrwydd hefyd ar ôl iddi fethu â gorffen y ras 10,000m elite diweddar a drefnwyd gan Athletau Cymru yng Nghasnewydd.
Un arall sydd â chyfle gwirioneddol o orffen yn y ddau safle uchaf ydy Natasha Cockram o glwb rhedeg Micky Morris. Cockram ydy pencampwraig Prydain ar gyfer y marathon ar hyn o bryd ar ôl ei buddugoliaeth yn Llundain fis Hydref. 2:33:19 oedd ei hamser bryd hynny, ond roedd yr amgylchiadau’n arbennig o heriol i’r merched yn enwedig. Ei hamser blaenorol o 2:30:49 ydy record Cymru, ac os allai hi dynnu 80 eiliad oddi-ar yr amser hwnnw byddwn ni’n debygol o’i gweld yn Tokyo.
Mae Clara Evans i’w gweld yn mynd o nerth i nerth ac fe alla’i fod yn un i’w gwylio, yn enwedig ar ôl rhedeg PB enfawr ar gyfer y 10,000m yng Nghasnewydd i orffen yn drydydd ddechrau’r mis. Amser gorau Evans ar gyfer y marathon ydy 2:46:03, sy’n bell o’r hyn sydd angen arni er mwyn cyrraedd Tokyo. Ond, mae’r PB hwnnw’n bedair blwydd oed ac ers hynny mae hi wedi rhedeg 33:07 ar gyfer 10k a 72:21 ar gyfer Hanner Marathon, ac yn sicr wedi cryfhau tipyn.
Mae Rosie Edwards yn enw reit anghyfarwydd i mi, a hynny mae’n debyg gan ei bod yn byw yn yr Unol Daleithiau ers sawl blwyddyn. Er hynny, mae’r Gymraes yn gwneud yr ymdrech i deithio draw ar gyfer y ras ac wedi rhedeg PB newydd o 72:24 yn y Las Vegas Gold Half Marathon fis Ionawr, felly’n amlwg mewn siap da. Ei hamser gorau ar gyfer y marathon llawn hyd yma ydy 2:40:49 – yn rhyfedd iawn fe redodd yr union amser hwnnw yn Llundain yn 2017, a hefyd yn Frankfurt y flwyddyn ganlynol – dyna be ‘di cysondeb!
Ras y Dynion
Mae tri enw cyfarwydd iawn o Gymru’n cystadlu yn ras y dynion, sef Dewi Griffiths, Josh Griffiths ac Andrew Davies.
Mae Dewi Griffiths yn un o’r ffefrynnau ar gyfer y ras ymysg y gwybodusion, a hynny’n ddim synod ag yntau wedi rhedeg 2:09:49 yn ei farathon cyntaf erioed yn Frankfurt nôl yn 2017 – dyma’r amser cyflyma’ o ddigon gan unrhyw un sy’n rhedeg. Yn anffodus mae’r gŵr o Sir Gâr wedi bod yn anlwcus iawn gydag anafiadau a salwch ers hynny, ond rhaid cofio ei fod wedi rhedeg 2:11:46 yn Llundain yn 2019 ar ddiwrnod ‘gwael’. Os ydy o’n gallu rhedeg 16 eiliad yn arafach na’r amser sydd angen ar ddiwrnod gwael yna does dim amheuaeth y gall ennill ei le yn y tîm.
Gorffennodd Dewi’n drydydd yn 10,000m Athletau Cymru ddechrau’r mis mewn 28:45.72 sy’n amser soled ar gyfer ras ‘tune up’. Os ydy ei floc hyfforddi wedi mynd yn dda, yna mae gen i bob ffydd ynddo.
Mae cyd aelod Dewi yn Harriers Abertawe, Josh Griffiths, yn geffyl tywyll ac yn un i gadw golwg arno. Ffrwydrodd Josh i amlygrwydd ym Marathon Llundain 2017 wrth gipio Pencampwriaeth Prydain, ac ennill ei le ym Mhencampwriaethau’r Byd y flwyddyn honno. Hon oedd ei farathon cyntaf, ac yn sicr mae Josh wedi cael tipyn mwy o brofiad dros y pellter ers hynny, ac yn cryfhau trwy’r amser. Roedd ei 2:13:11 i orffen yn drydydd Prydeiniwr yn Llundain llynedd yn arbennig o drawiadol gan iddo gryfhau yn ystod y ras, a hynny mewn amgylchiadau anodd. Bydd y profiad o redeg cwrs aml lŵp a gafodd bryd hynny’n un gwerthfawr ar gyfer Kew hefyd gan bod y cwrs dros 12 lap.
Ac yna beth am obeithion y bytholwyrdd Andrew Davies? Dwi’n ffan mawr o’r gŵr o Faldwyn, ac yn gobeithio gall greu argraff. Ei amser gorau ar gyfer y marathon ydy 2:14:36, a bydd angen tynnu dros dair munud oddi-ar yr amser hwnnw i ennill ei le yn Tokyo. Er hynny, mae i’w weld yn cryfhau wrth heneiddio ac roedd ei PB yn Valencia ddiwedd 2019 yn record Brydeinig i ddynion dros 40 oed ac mae wedi rhedeg ei amseroedd cyflyma’ dros 5k a 5 milltir ers hynny!
Mae’n siŵr bydd un llygad gan Davies, a’r ddau Griffiths hefyd yn hynny o beth, ar Gemau’r Gymanwlad blwyddyn nesaf lle mae angen rhedeg 2:15:30 i gael eich hystyried ar gyfer tîm Cymru yn y Marathon. Mae’n siŵr bod hyn yn wir ymysg y merched hefyd – 2:35:30 ydy’r amser sydd angen iddyn nhw redeg.
Dim darogan
Gyda’r amgylchiadau mor anghyffredin, dwi ddim am drio darogan canlyniad y ddwy ras ddydd Gwener – gyda chyn lleied o rasio diweddar, mae’n anodd iawn barnu sut siap sydd ar y rhedwyr.
Wedi dweud hynny, byddai’n braf cael o leiaf un Cymro neu Gymraes i’w cefnogi yn marathon y Gemau Olympaidd eleni, yn enwedig gan bod safon ein athletwyr mor uchel dros y pellter ar hyn o bryd. Gan obeithio peidio temptio ffawd yn ormodol, dwi wir yn credu bod cyfle da iawn y gwelwn ni hynny.
Bydd modd gwylio ffrwd byw o’r marathon fore dydd Gwener am 08:00 ar wefan British Athletics.
Gobeithio bod pawb bellach wedi cael cyfle i wrando ar ar y bennod ddiweddaraf o’r podlediad, a rhan gyntaf y sgwrs gyda Nia a Dai o bod Nawr yw’r Awr.
Dyma ail ran y sgwrs lle rydyn ni’n troi i drafod heriau rhedeg Dai dros y misoedd diwethaf, sy’n cynnwys marathon treadmill, rhedeg Llwybr Arfordir Ceredigion, a’r un mwyaf gwallgof, Rhedeg yr Adfent!
Rydyn ni hefyd yn cael cyfle i drafod beichiogrwydd Nia, a’r modd mae hi’n llwyddo i ddal ati i hyfforddi. Mae’r sgwrs yn ddilyniant bach da i’r podlediad a recordiwyd gydag Elliw Haf cyn y Nadolig – gwerth gwrando nôl os nad ydych wedi clywed hwn yn barod.
Mae'r podlediad yn ôl yn dilyn saib fach, a gwestai cyntaf yr ail gyfres ydy ffrind mawr i'r pod, Dyfed Whiteside-Thomas. Mae Dyfed yn aelod o Glwb Harriers Eryri, ac yn bennaf gyfrifol am y 'Sesiwn Elltydd' enwog (Thursday Night Hills) yn Llanberis. Mae hefyd yn rhedwr arbennig ac rydan ni'n sgwrsio'n fuan ar ôl iddo redeg marathon wych yng Nghasnewydd gan orffen mewn 2:43:57 – y Cymro cyntaf yn ei gategori oedran, sy'n ei wneud yn bencampwr M45 Cymry yn ein tyb ni, gan bod y ras yn Bencampwriaeth Meistri Cymru eleni (canlyniadau llawn). Sgwrs ddifyr, gyda boi da.
Cyfle hefyd i grynhoi canlyniadau rhywfaint o'r rasys sydd wedi bod yn ddiweddar, wrth i bethau ail-ddechau o ddifrif. Lot mwy o hyn yn y gyfres gobeithio.
Cerddoriaeth y bennod yma ydy 'Dyma Kim Carsons' gan y grŵp newydd o ardal Pontypridd, Y Dail. Allan yn ddigidol rŵan.
Dwi’n ail-ymweld â chwpl o bynciau trafod o’r gorffennol ar y blog yma yn y post yma, gan ail-ofyn cwpl o gwestiynau.
Yn Nhachwedd 2019 (waw, cofio’r dyddiau yna!) mi wnes i redeg pôl piniwn Twitter cyn ysgrifennu darn yn holi beth sy’n cyfri fel ‘PB’, a hynny’n dilyn y newyddion bod cwrs 10k Leeds Abbey Dash y flwyddyn honno’n fyr, a llwyth o redwyr wedi colli yr hyn oedden nhw’n credu oedd yn amseroedd gorau.
Mae pawb yn wahanol, ond i mi’n bersonol, mae amser gorau, neu PB (personal best) yn gorfod bod mewn ras go iawn ar gwrs wedi’i fesur a’i drwyddedu’n swyddogol (h.y. un sy’n ymddangos ar broffil Power of 10 rhywun – beibl y rhedwyr). Wrth reswm, mae hynny wedi gwneud y flwyddyn ddiwethaf hyd yn oed yn fwy heriol heb unrhyw gyfle i rasio.
Yn ôl y pôl piniwn bach, ond dethol, ar Twitter roedd 34.6% o’r un farn a mi. Yr ail ddewis mwyaf poblogaidd oedd ‘Pan ma Strava’n deud’ gyda 26.9% o’r bleidlais.
Dwi’n parchu’r farn honno, yn enwedig os ydy rhywun yn mesur eu gwelliant personol ar yr un cwrs er enghraifft, ond os oes un peth mae’r holl rasio rhithiol wedi cadarnhau dros y flwyddyn ddiwethaf yna’r ffaith bod GPS a Strava ddim wastad yn dweud y stori’n llawn ydy hwnnw.
Dwi am gyfeirio nôl fan hyn at flog am y ‘Ross Barkley 5K’ ym mis Ebrill 2020 oedd yn trafod a oedd y pêl-droediwr wir wedi rhedeg 5k mewn amser trawiadol o 16:11. Ro’n i’n amheus ar y pryd, ac mae ymchwil pellach wedi awgrymu’n gryf iawn ei fod wedi stopio ei oriawr i ddal ei wynt am gyfnodau yn ystod ei ymdrech!
Mae seiclwyr elite yn hynod o ffit wrth gwrs, a seiclwyr traws yn gorfod bod yn rhedwyr cryf hefyd, ond 13:25 ar ben ei hun, rownd strydoedd lleol….hmmm.
Un seiclwr sy’n gwybod ei stwff am redeg ydy Michael Woods o Ganada, oedd yn rhedwr o safon uchel iawn cyn troi at seiclo, ac fe wnaeth ei farn yn glir.
I've been getting a number of messages asking if @Tompid 13:25 5km was legit. I don't mean to knock the guy, as he is an incredible athlete, but based off that vid and his GPS data, I'd bet a lot of money he was running far closer to 15 min pace (still very respectable time).
Mae ‘na ambell gyfrif Twitter wedi cael dipyn o hwyl dros y flwyddyn ddiwethaf yn gwrthbrofi honiadau o gampau rhedeg rhyfeddol ar Strava – @stravawankers ydy’r amlycaf.
Mae Strava wedi’i gwneud hi’n haws sgriwtineiddio’r honiadau yma ers dechrau’r Clo Mawr, gan wneud gwybodaeth am bethau fel ‘elapsed time’ ac ystadegau eraill sesiynau pobl yn agored. Roedd hyn wrth gwrs yn angenrheidiol gyda’r twf cyflym mewn rasio rhithiol er mwyn lleihau’r cyfleoedd i dwyllo.
Mae cyfrif newydd wedi mynd â phethau gam ymhellach na @stravawankers, sef @stravapoliceUK (gyda diolch i Rhys James am dynnu fy sylw at hwn).
We got a complaint so we measured the loop with a wheel. It was about 1005m (measured 3 times). Based on his Strava data and the wheeled course measurement we estimated he ran about 15:38 for 5km. Video evidence: https://t.co/399ZjhKFW9@Tompid@_MarcScott
Aeth pwy bynnag sy’n gyfrifol am y cyfrif hwn allan gydag olwyn fesur er mwyn mesur cwrs ‘5k Pidcock’ yn gywir, a chanfod bod ei bellter yn fyr, gan amcangyfrif mai 15:38 fyddai ei amser petai wedi rhedeg y pellter yn llawn. Mae hyn dal yn gyflym iawn wrth gwrs, ond yn amser byddai rhedwr clwb o safon uchel yn ei redeg, ac ymhell iawn o unrhyw record Prydeinig neu byd!
Allwn ni ddim bod 100%yn sicr bod @StravaPoliceUK wedi mynd ati i wneud hyn go iawn wrth gwrs, felly mae angen pinsied o halen, ond maen nhw wedi cyhoeddi fideo fel rhyw fath o brawf.
Mae oriawr GPS yn arf hyfforddi gwych, ac yn sicr y ffordd dda o fonitro gwelliant personol. Wedi dweud hynny, mae’n hysbys iawn nad ydy’r dechnoleg bob amser yn gywir o bell ffordd, ac mae pethau fel adeiladau, coed uchel a chyrsiau gyda lŵps niferrus (fel un Pidcock) yn gallu drysu’r GPS yn lân.
Felly, lle mae hyn yn gadael pawb sydd wedi bod yn hawlio PBs diolch i’w hamseroedd a phellteroedd Strava a GPS dros y flwyddyn ddiwethaf?
Wel, mae fy marn i’n parhau gyson – mae GPS a Strava yn grêt ar gyfer monitro eich sesiynau a chynnal TTs (time trials) personol, a mesur gwelliant, ond dylid gochel rhag hawlio neu frolio unrhyw PBs ‘swyddogol’.
Anghofiwch y dywediad “Os dio ddim ar Strava, nath o ddim digwydd”, efallai mai gwell fyddai “Os dio ddim ar Power of 10, dio ddim yn PB.”
Yn y cofnod cyntaf ar y blog yma mi wnes i sôn mai cam cyntaf oedd y blog at lansio podlediad rhedeg rhywbryd yn y dyfodol.
Dwi wastad wedi dilyn nifer o bodlediadau, ac hyd yn oed wedi cyflwyno un pêl-droed Cymraeg am gyfnod rhwng tua 2013 a 2016. Ro’n i’n teimlo bod angen mwy o bodlediadau chwarae yn y Gymraeg, ac yn awyddus i wneud un am redeg yn benodol.
Ond er gwaetha’r awydd, y gwir amdani oedd fod angen cic arna’i i ddechrau arni. Un o’r pethau wnaeth fy ysgogi yn y diwedd oedd gweld cwpl o Aberteifi yn dechrau pod triathlon yn y Gymraeg dan yr enw Nawr yw’r Awr.
Ers i Nia Davies a Davd Cole lansio Nawr yw’r Awr ym mis Mehefin, dwi wedi bod yn wrandawr selog, ac wir wedi mwynhau’r sgyrsiau amrywiol. Dwi hefyd wedi rhyfeddu ar eu cysondeb gan gyhoeddi pennod wythnosol rhwng 15 Mehefin a 30 Tachwedd – 25 pennod yn y gyfres gyntaf, ymdrech anhygoel!
Mae’r ail gyfres ar y gweill ers dechrau Ionawr, ac maen nhw wedi setlo ar gyhoeddi bob pythefnos…sydd dal yn dipyn o gomitment, a her.
Dwi wedi bod yn awyddus i wahodd y ddau am sgwrs ers sbel, yn enwedig gan fod Dai wedi ymgymryd â sawl her redeg anhygoel dros y misoedd diwethaf. Roedd hefyd yn teimlo’n amserol gan fod Nia’n feichiog, ac ro’n i’n awyddus i’w holi am ei hyfforddi ar hyn o bryd, a’i gobeithion ar ôl i’r babi gyrraedd.
Ro’n i’n gwybod bod gen i lot i drafod gyda’r ddau, felly dwi wedi penderfynu rhannu’r sgwrs yn ddau – bydd yr ail ran yn dilyn dros y dyddiau nesaf.
Dwi’n awgrymu’n gryf eich bod chi’n chwilio am Nawr yw’r Awr ar ba bynnag app podledu rydach chi’n defnyddio a dwi’n argymell ambell bennod yn arbennig ar ddiwedd y pod yma.
Mae'r podlediad yn ôl yn dilyn saib fach, a gwestai cyntaf yr ail gyfres ydy ffrind mawr i'r pod, Dyfed Whiteside-Thomas. Mae Dyfed yn aelod o Glwb Harriers Eryri, ac yn bennaf gyfrifol am y 'Sesiwn Elltydd' enwog (Thursday Night Hills) yn Llanberis. Mae hefyd yn rhedwr arbennig ac rydan ni'n sgwrsio'n fuan ar ôl iddo redeg marathon wych yng Nghasnewydd gan orffen mewn 2:43:57 – y Cymro cyntaf yn ei gategori oedran, sy'n ei wneud yn bencampwr M45 Cymry yn ein tyb ni, gan bod y ras yn Bencampwriaeth Meistri Cymru eleni (canlyniadau llawn). Sgwrs ddifyr, gyda boi da.
Cyfle hefyd i grynhoi canlyniadau rhywfaint o'r rasys sydd wedi bod yn ddiweddar, wrth i bethau ail-ddechau o ddifrif. Lot mwy o hyn yn y gyfres gobeithio.
Cerddoriaeth y bennod yma ydy 'Dyma Kim Carsons' gan y grŵp newydd o ardal Pontypridd, Y Dail. Allan yn ddigidol rŵan.
Dwi wedi bod yn ystyried dechrau podlediad rhedeg Cymraeg ers sawl blwyddyn – ers dechrau gwrando ar bodlediad Marathon Talk tua 2014 neu 2015 mae’n siŵr.
Ma rhywun (neu rydw i beth bynnag!) yn tueddu o dindroi a chwarae gyda syniadau yn hytrach na jyst bwrw mewn i wneud pethau’n syth. O’n i’n aml yn meddwl am fformat podlediad posib yn ystod fy ryn hir, ac am dipyn o amser y bwriad oedd i gael cyfres benodol am gerddorion oedd yn rhedeg a’i alw’n ‘Tempo’ (gweld be o’n i’n gwneud yn fana?)
Ro’n i wedi dechrau llunio rhestr golew o westeion cyn penderfynu bod y syniad braidd yn rhy niche, a bod podlediad Cymraeg am redeg yn beth digon unigryw!
Er hynny, mae’n debyg mai nid damwain ydy’r ffaith mai gwestai diweddaraf podlediad Y Busnes Rhedeg Ma – yr ail o’r gyfres hyd yma…ac mae’n siŵr bydd mwy!
Dwi’n cael y pleser o gwmni Math Llwyd yn y bennod ddiweddaraf – aelod o fand ardderchog Y Reu, ac aelod o glwb rhedeg Harriers Eryri.
Mae Math yn athro yn y Bari, ond hefyd wedi treulio dipyn o amser yn teithio gan ymweld ag Awstralia am gyfnod yn lled ddiweddar.
Er bod Y Reu yn cael rhyw hiatus fach, mae o’n dal i weithio ar ei gerddoriaeth ac yn dal i wneud tipyn gyda’r aelodau eraill. Yn wir, llynedd aeth yr aelodau i gyd ati i ymgymryd â her rhedeg High and Dry er budd elusen Achub Mynydd Llanberis. Mwy am hyn yn y clip Hansh isod (rhybudd iaith gref!)
Eleni, maen nhw wrth eto gyda her debyg, ac yn codi arian at elusen Banc Bwyd Arfon y tro hwn – gallwch gefnogi ar eu tudalen Just Giving.
Yn y pod, mae Math yn trafod yr her, sut aeth ati i ddechrau rhedeg, gwneud Parkruns yn Awstralia, Marathon Rock & Roll Lerpwl a sawl peth arall.
Cerddoriaeth y bennod yma ydy ‘Mhen i’n Troi’ gan Y Reu (wrth gwrs) ond mae rheswm da am hynny gan iddi gael ei defnyddio ar hysbyseb darllediad Ras yr Wyddfa rai blynyddoedd nôl – un o’r goreuon i mi weld ar S4C heb os.
Hysbys Ras yr Wyddfa gyda tiwn Y Reu
Beth bynnag, gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r sgwrs – mwy o bodlediadau’n fuan, gan obeithio bydd ambell ras i’w trafod yn y dyfodol agos!
Mae'r podlediad yn ôl yn dilyn saib fach, a gwestai cyntaf yr ail gyfres ydy ffrind mawr i'r pod, Dyfed Whiteside-Thomas. Mae Dyfed yn aelod o Glwb Harriers Eryri, ac yn bennaf gyfrifol am y 'Sesiwn Elltydd' enwog (Thursday Night Hills) yn Llanberis. Mae hefyd yn rhedwr arbennig ac rydan ni'n sgwrsio'n fuan ar ôl iddo redeg marathon wych yng Nghasnewydd gan orffen mewn 2:43:57 – y Cymro cyntaf yn ei gategori oedran, sy'n ei wneud yn bencampwr M45 Cymry yn ein tyb ni, gan bod y ras yn Bencampwriaeth Meistri Cymru eleni (canlyniadau llawn). Sgwrs ddifyr, gyda boi da.
Cyfle hefyd i grynhoi canlyniadau rhywfaint o'r rasys sydd wedi bod yn ddiweddar, wrth i bethau ail-ddechau o ddifrif. Lot mwy o hyn yn y gyfres gobeithio.
Cerddoriaeth y bennod yma ydy 'Dyma Kim Carsons' gan y grŵp newydd o ardal Pontypridd, Y Dail. Allan yn ddigidol rŵan.