Adroddiad Ras: 1/2 Marathon Llyn Efyrnwy (8/9/19)

Dwi’m yn hollol siŵr beth ydy fy hoff bellter.

Ro’n i’n arfer meddwl mai 10k oedd o – cyflym, ond digon pell i fod yn ras endurance hefyd. Ond dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf, dwi wedi dechrau tueddu’n fwy at yr hanner marathon – ydy, mae’n ras hir ond yn un sydd ddim angen cynllun hyfforddi 12 wythnos ar ei chyfer os ydy’r sylfaen yna ganddoch chi.

Dwi’n gwneud dwy hanner marathon y flwyddyn ers sawl blwyddyn bellach, sef Ras Cors Caron yn Nhregaron bob mis Chwefror a Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref. Un yn ras fach, gartrefol ei naws, ond caled iawn…a’r llall yr hanner marathon fwyaf yng Ngymru. Ond ers i mi ddechrau hyfforddi’n fwy o ddifrif dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf dwi wedi ychwanegu ail 1/2 Marathon yr un i raglen y gwanwyn a hydref.

Nes i redeg 1/2 Marathon Llyn Efyrnwy am y tro cyntaf llynedd wrth i mi drio gweld a oedd modd i mi dorri 75 munud ar gyfer y pellter ac ennill lle ‘Championship’ i fy hun ym Marathon Llundain. Ar y pryd roedd angen i mi dorri 5 munud oddi-ar y PB i wneud hynny, ac o ddeall bod Llyn Efyrnwy’n gwrs cyflym, roedd gwneud hon a Chaerdydd fis yn ddiweddarach yn ddau gyfle i gwrdd â’r nod.

Mae’r ras yn dechrau ym mhentref bach Abertidwr ger Llanwddyn, nid yn rhy bell o Lanfyllin. Ac mae’n eithaf gwallgof mewn gwirionedd, oherwydd gydag yn agos at fil a hanner o redwyr (gorffennodd 1286 eleni) mae’r ras yn meddiannu’r pentref bach cysglud yma’n llwyr am y diwrnod ar ddechrau mis Medi.

Un o’r maesydd parcio sydd ar gae pêl-droed y pentref

Oherwydd y cwrs cyflym, a lleoliad cyfleus, er yn wledig, mae’n denu rhedwyr o safon uchel o glybiau’r Canolbarth, Gogledd Cymru ac yn arbennig felly o dros y ffin. Mae vests o glybiau rhedeg enwog yn Lerpwl, Manceinion, Wolverhampton, Telford, Amwythig, Dudley a Chroesoswallt i’w gweld yn drwch yno. Gyda’r ras yn dathlu deng mlynedd ar hugain eleni, mae’r safon yn amlwg hyd yn oed yn uwch na’r arfer a dwi’n gweld ambell wyneb cyfarwydd wrth grwydro i HQ y ras yn neuadd y pentref, gan gynnwys un o redwyr marathon gorau Cymru, Andy Davies o Stockport Harriers.

Wastad rhywbeth does

Dwi wedi hyfforddi’n weddol drylwyr ar gyfer y ras, er bod diffyg rŵtîn mis Awst yn gallu gwneud hynny’n anos. Wedi dweud hynny, dwi heb osod nod penodol – nes i lwyddo i dorri’r 75 munud yn 1/2 Marathon Caerdydd llynedd, felly does dim pwysau i gael yr amser yna ar gyfer Llundain. Ond fel ma pob rhedwr yn gwybod, mae rhywyn wastad efo llygad ar wella eu hamser gorau, yn enwedig ar gwrs cyflym!

Y rhif wrth gefn!

Rhywbeth arall fydd yn gyfarwydd i redwyr ydy bod yna wastad rhyw stress cyn ras fawr! Roedd penwythnos y ras yn un prysur – taith i Gaerdydd gyda’r teulu i wylio Cymru’n curo Azerbaijan nos Wener, ac yna taro heibio Merthyr ar y ffordd adref ddydd Sadwrn ar gyfer y Rali Annibynniaeth fawr oedd yno. Wrth deithio nôl ger Llanelwedd mae rhyw atgof yn dod i’r meddwl o gael pecyn a rhif ar gyfer y ras ymlaen llaw llynedd…ond nad oes dim wedi cyrraedd y tro yma. Mae’r nodyn cofrestru wedi dod dros ebost, ond mae’r wefan yn cadarnhau bod y rhif i ddod yn y post – panic! Wrth gyrraedd y tŷ dwi’n gweld pecyn wedi cyrraedd yn y post, ffiw! Ond yna’n ei agor….pecyn a rhif Hanner Marathon Caerdydd – damia!

Ar ôl cael cadarnhad ar grŵp Facebook Aberystwyth AC bod pawb arall sy’n rhedeg wedi derbyn eu rhifau, does dim i wneud ond cysylltu â’r trefnwyr, er mod i’n gyndyn i wneud hynny gan wybod eu bod nhw siŵr o fod yn ei chanol hi noson cyn y ras. Chwarae teg, erbyn y bore, mae ateb gan y trefnydd, Janet, yn dweud nad oes problem ac ei bod am gadw rhif arall i mi gasglu ar y dydd. Diolch Janet!

Gwneud y grŵp

Ar ôl cwpl o filltiroedd ysgafn i gynhesu, dwi’n anelu am y llinell ddechrau. Dwi’n cofio ei bod hi’n gul iawn ar y dechrau, a mod i’n rhy bell nôl llynedd, felly’n aros mor hir a phosib nes mynd at y llinell. Er hynny, dwi rhyw dair neu bedair rhes o’r blaen a phrin fod lle i anadlu. Mae dechrau’r ras ar i lawr, ond yna’n dringo tipyn am y filltir gyntaf – hawdd iawn mynd yn rhy gyflym a chwythu, ond yr un mod hawdd dechrau’n rhy ofalus a cholli eich grŵp fel y gwnes i llynedd a gorfod rhedeg y 6 milltir olaf ar ben fy hun.

Gan gofio hynny, dwi’n penderfynu dechrau’n weddol gyflym, ac yn canfod fy hun mewn grŵp da o rhyw saith neu wyth rhedwr wrth i ni ddechrau cylchu’r llyn ar ôl croesi’r argae. Mae ‘na gwpl o wynebau cyfarwydd – bois ond dwi’n gyfforddus yn eu cwmni ac a ddylai fod yn anelu am amser tebyg i mi.

Mae’r 3-4 milltir cyntaf yn gyflym, ond yn agos at be dwi’n awyddus i redeg. Wedi dweud hynny, dwi’n teimlo’n eitha rybish! Ers y ffwtbol nos Wener mae gen i ddolur gwddw – dwi wedi hen arfer â theimlo bach yn sâl, neu rhyw anaf bach yn dod mlaen cyn ras ac yn gwybod bod y pen yn gallu chwarae gemau yn reit aml. Fel arfer, unwaith mae’r ras yn dechrau, mae popeth yn clirio, ond heddiw tydi hynny ddim yn wir ac erbyn milltir 5 dwi’n ei gweld hi’n anodd dal cyflymder y grŵp a dwi’n gwneud y penderfyniad bod rhaid i mi adael iddyn nhw fynd a rhedeg fy ras fy hun.

Yn aml mewn ras mae’n rhaid i chi wneud penderfyniad fel hyn – ydw i’n cadw at y cyflymder dwi wedi cynllunio neu’n gyfforddus efo fo, neu’n trio mynd bach yn gynt gyda grŵp neu redwr arall. Os ydach chi’n teimlo’n dda ac yn mynd amdani, mae’n gallu talu ar ei ganfed ond ar ddiwrnod arall, mae’r canlyniad yn gallu bod yn drychinebus! Yn ffodus, mae ‘na un rhedwr arall mewn vest streips glas a gwyn (Clwb Rhedeg Lerpwl dwi’n dysgu wedyn) yn llithro nôl gyda fi ac rydan ni’n rhedeg gyda’n gilydd am y pum milltir nesaf fwy neu lai. Mae rhain yn filltiroedd caled, arafach na’r hyn dwi isho, ac mae cwpl o redwyr yn dod o’r tu ôl rhywle ac yn hedfan heibio – o lle ddiawl ddaethon nhw?! Wedi dweud hynny, rydan ni hefyd yn pasio pedwar neu bump o redwyr o’r grwpiau blaen sydd wedi chwythu fyny ar ochr y ffordd hefyd – mae’n ddiwrnod anodd i sawl un yn amlwg!

Gyda’r hanner marathon mae’n rhaid i chi jyst gyrru mlaen, a chadw ffydd bod y cryfder yn y coesau diolch i’r holl ryns hir bore Sul. Cyn i mi fod yn gwneud ryns hir yn rheolaidd, ro’n i wastad yn ei chael hi’n anodd o 10 milltir ymlaen, ond mae gwneud 12+ milltir fwy neu lai bob dydd Sul wedi helpu hynny heb os. Dwi’n cael rhyw ail wynt ar 10 milltir heddiw, ac yn teimlo’n weddol gryf am rhyw ddwy filltir – milltir olaf y cwrs ydy’r un filltir a’r cyntaf, ond ar ei lawr wrth gwrs ac mae hynny’n rhoi’r hwb sydd angen i weithio’n galed nes cyrraedd yr argae eto. Unig wendid y ras ydy bod dim llawer o gefnogaeth ar rannau helaeth o’r cwrs, ond mae mwy o bobl yn gwylio ac yn cefnogi dros y cwpl o filltiroedd olaf, sy’n help.

A hithau lawr allt, y filltir olaf ydy’r gyflymaf ond dwi’n methu ffeindio’r cic i ddal y cwpl o redwyr sydd jyst o mlaen i, a gwasgu o dan y 75 munud. 1:15:10 ydy’r amser swyddogol – mi wna’i setlo am hynny, 47 eiliad ynghynt na llynedd, ond 12 safle’n is sy’n dweud y cyfan am safon y ras eleni. Jonny Mellor o Harriers Lerpwl ydy’r enillydd mewn amser o 1:04:36, gydag Andy Davies y Cymro ddeg eiliad y tu ôl iddo fo. Tipyn o frwydr rhwng dau o redwyr marathon gorau Prydain – mae gan Mellor amser gorau o 2:12:57 yn Berlin yn 2017, ac fe redodd 2:13:25 yn Llundain fis Ebrill. Amser gorau Davies am y marathon ydy 2:15:11, ond yn ddifyr iawn dyma ei amser gorau hyd yma dros hanner y pellter.

Gwerth crybwyll y gŵr ifanc yn y trydydd safle hefyd – Jack Pickett (1:07:58) o Wolverhampton & Bilston, oedd yn y categori dan 20 oed. Un i gadw golwg arno yn y dyfodol. Mensh hefyd i Tom Roberts o Feirionydd (1:09:58) yn yr wythfed safle ac yr ail Gymro, a Tim Iveson (1:11:51) o Lanelwedd sef y trydydd Cymro.

Yn ras y merched Alison Lavender sy’n mynd â hi mewn 1:17:56 gyda Lauren Cooper yn ail (1:20:39) ac Ailish Graham yn drydydd (1:21:00).

Fyswn i’n sicr yn argymell Hanner Marathon Llyn Efyrnwy fel ras dda i’w gwneud os ydach chi’n edrych am hanner marathon cyntaf heb ormod o elltydd, sydd heb dorfeydd Caerdydd neu Abertawe. Mae hi hefyd yn amlwg yn un dda ar gyfer rhedeg amser da – does dim ond angen edrych ar y canlyniadau ar Runbritain i weld hynny gyda 28 PB yn y 50 uchaf. Mae pobl yn dod yma i redeg yn gyflym! Wedi dweud hynny, mae teimlad cymunedol iawn i’r ras ac mae’n cael ei threfnu gan griw lleol er budd elusennol yn hytrach na gan gwmni masnachol, ac mae’n bwisig cefnogi rhain.

Canlyniadau llawn 1/2 Marathon Llyn Efyrnwy 2019.

Advertisements

Cyhoeddwyd gan Owain Schiavone

Boi bach o bob dim!

2 sylw ar “Adroddiad Ras: 1/2 Marathon Llyn Efyrnwy (8/9/19)

    1. Diolch am y sylw Ifor. Dwi’m yn meddwl bod ti’n unigryw – ma hanner marathon yn bellter hir ac mae’n hawdd i’r meddwl grwydro. Dwi’n meddwl bod hi’n haws cynnal y lefel canolbwyntio mewn ras fawr e.e. Hanner Marathon Caerdydd lle mae gen ti dorf fawr yr holl ffordd rownd a wastad rhywun i’w targedu o dy flaen di.

      Anoddach mewn ras lai gyda llai yn cefnogi a’r rhedwyr wedi eu gwasgaru mwy. Be dwi’n tueddu i neud ydy trio cloi mewn i rythm a chanolbwynio ar hynny – deud wrth fy hun i ddal i yrru mlaen. Ma’r cwpl o filltiroedd olaf wastad yn mynd i fod yn galed, a fy nghyngor i bryd hynny ydy atgoffa dy hun am y gwaith caled wyt ti wedi gwneud i baratoi ar gyfer y ras. Ma’r cryfder yn y pen yr un mor bwysig a’r cryfder yn y coesau, heb os.

      Pob hwyl yn dy ras nesa’ – rho wybod sut ddoi di mlaen.

      Hoffi

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Create your website at WordPress.com
Cychwyn arni
%d bloggers like this: