Penwythnos hanesyddol y marathon

Fuodd yna erioed benwythnos mwy cofiadwy yn hanes rhedeg marathon?

Anodd iawn cystadlu dwi’n tybio wrth i ddau redwr o Kenya greu hanes dros 26.2 milltir yn Fienna a Chicago.

Rhaid dechrau yn Fienna fore Sadwrn, ac ro’n i allan yn rhedeg yn gynnar er mwyn bod nôl adre mewn da bryd i wylio ymgais Eliud Kipchoge i roi ei enw yn y llyfrau hanes am byth fel y person cyntaf i redeg marathon dan ddwy awr.

Os ydych chi wedi darllen fy nghofnodion blaenorol am yr ymdrech, byddwch yn gwybod fy mod i dawel hyderus y gallai Kipchoge ei gwneud hi y tro hwn ar ôl dod mor agos ym Monza yn 2017.

Cysondeb

Ro’n i wedi fy ngludo i’r sgrin am y ddwy awr, wedi hudo gan rythm ac effeithlonedd y tîm anhygoel o pacers, a phrydferthwch steil rhedeg heb ei debyg y dyn ei hun. Roedd trefn y rhedwyr cefnogol bron yn berffaith, a’r modd roedden nhw’n llithro’n llyfn i un tîm i’r llall yn hyfryd i’w wylio…ar wahân i un bagliad bach yn y newid olaf un!

Roedd y splits yn hynod gyson. 2:50 am bob cilomedr oedd y nod – roedd y split arafa yn 2:52, a’r cyflyma yn 2:48, ond roedd y mwyafrif helaeth yn union 2:50. Dros 26 millttir, mae’r cysondeb yna’n rhyfeddol a rhaid talu teyrnged, fel y gwnaeth Kipchoge yn syth, i’r 41 o redwyr oedd yn rhan o’r prosiect.

Dyma’r splits 5k ar gyfer yr ymdrech:

5k – 00:14.10

10k – 00:28:20

15k – 00:42:34

20k – 00:56:47

25k – 01:10:59

30k – 01:25:11

35k – 01:39:23

40k – 01:59:40

Tua hanner ffordd, roedd yn ymddangos fel petai o’n cael rhyw wobl fach, gan golli rhyw lathen ar ei pacers, a rhoi hanner gwên, sydd fel arfer yn arwydd ei fod yn ei chael hi’n anodd. Bryd hynny nes i feddwl bod y 5k nesaf yn allweddol – mae Kipchoge’n aml yn cynyddu’r pwysau mewn ras ar ôl croesi hanner ffordd, a’i ymateb ddydd Sadwrn oedd taro pob cilomedr ar eu pen.

Moment arbennig

O hynny ymlaen ro’n i’n hyderus y byddai’n ei gwneud hi, ac wrth i’r cilomedrau olaf wibio heibio roeddech chi’n synhwyro’r cyffro ymysg y dorf gyda’r sylwebwyr yn adrodd am bobl yn dringo coed ac arwyddion i gael golwg gwell ar y llinell derfyn. Gyda’r llinell yn ei olwg, cyflymodd Kipchoge gan basio’i dîm olaf o pacemakers a hwythau’n dathlu’n barod – doedd dim amheuaeth ei fod am ei gwneud hi y tro yma.

Roedd Eliud yn gwenu o hapusrwydd erbyn hyn. Pwyntiodd at y dorf, pwyntiodd ar y llinell, dyrnodd ei frest a chroesi’r llinell yn syth i freichiau ei wraig Grace, oedd yn ei wylio’n ‘rasio’ marathon am y tro cyntaf.

01:59:40.2

Go brin fod unrhyw un yn gwylio, hyd yn oed y nifer sydd wedi bod yn feirniadol o’r holl beth, na deimlodd ias lawr ei gefn, ac mi wna’i gyfaddef mod i dan deimlad wrth weld y balchder ar wyneb y rhedwr arbennig, diymhongar, yma a’r bobl sy’n agos iddo.

Roedd yr ymateb yn rhyfeddol gan bobl yn y byd rhedeg, a phobl sy’n dangos dim diddordeb mewn rhedeg fel arfer. Wrth weld pobl rownd y dre yn Aberystwyth yn hwyrach yn y dydd, dyma’r peth cyntaf roedd pawb eisiau trafod. Dyma brif nod Kipchoge ddydd Sadwrn yn fy marn i – cyrraedd cynulleidfa ehangach, eu cyffwrdd a’u hysbrydoli. Does gen i ddim amheuaeth ei fod wedi llwyddo, a bod llawer iawn o bobl wedi’u hysbrydoli i redeg, neu brofi eu hunain mewn ffordd newydd.

Dyma gwpl o frawddegau gan Eliud ar ôl croesi’r llinell:

“I wanted to run under two hours and show human beings can do a good job and lead a good life. It shows the positivity of sport.

“I want to make the sport an interesting sport whereby all the human beings can run and together we can make this world a beautiful world.”

Mae ‘na sawl testun dadl mewn blogiau eraill ynglŷn â ffactorau’r gamp yma, a nod y cwmnïau oedd yn ariannu’r cyfan. Ond anghofiwch hynny i gyd am eiliad…roedd nod Kipchoge yn gwbl glir – ysbrydoli eraill, a phrofi nad oes terfyn i’r hyn gallwn ni wneud fel pobl.

Dyma’i gynhadledd i’r wasg yn llawn – gwerth gwylio:

Record byd i farathon y merched

Rŵan, doedd marathon 01:59:40.2 ddim yn record byd swyddogol gan eu bod nhw’n torri nifer o reolau, ac nid torri record oedd y nod. Ond, fe gwympodd record y byd swyddogol arall ar gyfer y marathon ddydd Sul, wrth i Brigid Kosgei gwblhau marathon Chicago mewn 2:14:04.

Brigid Kosgei – llun gan Paul Hudson [CC BY 2.0 (https://creativecommons.org/licenses/by/2.0)%5D

Mae’r amser 81 eiliad yn gynt na’r record flaenorol i ferched gan Paula Radcliffe o Loegr, sydd wedi sefyll yn gyfforddus ers 16 o flynyddoedd – 02:15:25.

Camp ryfeddol arall, ond rhywsut mae dyn yn synhwyro na chafodd yr un math o groeso, na sylw ag ymdrech Kipchoge. Roedd llawer iawn o heip i her Kipchoge, a pheiriant marchnata cryf tu ôl i’r cyfan.

Dwi’n credu i raddau hefyd bod bai o hyd ar y cyfryngau am eu diffyg sylw i chwaraeon merched. Ond nid dyna’r stori i gyd.

Mae dau brif reswm arall dros yr ymateb llugoer hyd y gwela i:

  • Mae sawl un wedi tynnu sylw at welliant rhyfeddol Kosgei ers ei marathon cyntaf yn Porto yn 2015, pan redodd 02:47:59
  • Yn anffodus, mae asiant Kosgei, Federico Rosa yn gymeriad dadleuol, ac wedi bod yn gysylltiedig â sawl athletwr sydd wedi eu gwahardd

Gwrth-ddadleuon

Dwi ddim am fynegi barn gan nad ydw i’n gwybod llawer am hanes Kosgei, ond dyma gynnig cwpl o wrth-ddadleuon.

Mae’r naid o 02:47:59 i 02:14:04 yn un sylweddol iawn ar yr olwg gyntaf, ond dwi ddim yn credu ei fod yn hollol anghredadwy. Maen nhw’n dweud nad oes modd i chi wybod sut beth ydy rhedeg marathon, nes i chi redeg un!

Felly mae’r marathon cyntaf yn gallu bod yn un anodd ei hoelio – esiampl Cymreig diweddar dwi’n gallu meddwl amdano ydy’r rhedwr gwych o Glwb Athletau Caerdydd, Matt Clowes a redodd ei farathon cyntaf yn Llundain llynedd mewn 02:43:16, ac yna ei ail ym Merlin bythefnos yn ôl mewn 02:13:57. Roedd disgwyl i Clowes wneud yn dda yn Llundain llynedd, ond yn amlwg aeth rhywbeth o’i le ac fe ddysgodd o’r profiad a rhedeg ras berffaith ym Merlin. Dwi’n credu fod hyn yn brofiad cyffredin iawn, hyd yn oed ar y lefel uchaf.

Dim ond 21 oed oedd Kosgei yn 2015, a hi orffennodd yn gyntaf yn Porto. Ei marathon cyntaf, ac fe wnaeth beth oedd rhaid iddi er mwyn ennill. Dwi’n credu mai dros y flwyddyn ar ôl hynny y llwyddodd i wneud y naid gwirioneddol fawr, gan redeg 02:27:45 yn ei hail farathon Milan (Ebrill) ac yna 02:24:45 i ddod yn ail ym Marathon Lisbon (Hydref). 

Bu’r datblygiad ers hynny’n gyson, gan ennill Chicago llynedd, ennill Llundain fis Ebrill eleni, a thorri record cwrs y Great North Run (hanner marathon) fis diwethaf mewn 01:14:28 – yr amser gorau yn byd i ferched ar gyfer hanner marathon, ond nid record swyddogol gan nad ydy cwrs  y GNR yn gymwys. 

Roedd y form book yn awgrymu y gallai Kosgei beri bygythiad i record Radcliffe. Wedi dweud hynny, go brin y byddai llawer wedi rhagweld torri dros bedair munud oddi-ar ei hamser gorau cyn hyn, sef 2:18:20 yn Llundain eleni.

Dyma’i hymateb ar ôl y ras:

Mae’r drafodaeth am y ddwy gamp yn siŵr o rygnu ymlaen dros yr wythnosau a misoedd nesaf a cawn weld beth fydd gwir waddol penwythnos cofiadwy. Am y tro cawn fwynhau llwyddiant dau athletwr arbennig iawn.

Un peth sy’n gyffredin am y ddau wrth gwrs ydy eu bod yn dod o Kenya, a dwi am dynnu sylw unwaith eto at gyfrol ardderchog Running With the Kenyans (Anharanand Finn) i ddysgu mwy am arwyddocâd hynny.

Y peth arall sy’n gyffredin ydy bod y ddau yn gwisgo fersiwn o’r esgid ‘hud’ Nike Vaporfly…ond mae hynny’n sicr yn destun blog arall!

Cyhoeddwyd gan Owain Schiavone

Boi bach o bob dim!

3 sylw ar “Penwythnos hanesyddol y marathon

  1. Beth o’n i’n meddwl oedd yn anhygoel oedd cysondeb y splits bob cilomedr – 2.50, 2.50, 250…Weles i rhywun hefyd yn awgrymu fod Roger Bannister wedi defnyddio pacers pan yn gwneud milltir mewn 4 munud ond fod y record honno’n sefyll – unrhyw wirionedd yn hynny? Wedi darllen Running with the Kenyans flynyddoedd yn ol – un peth fi’n cofio yw pa mor bwysig yw cwsg iddyn nhw – weithiau yn cysgu hyd at 16 awr y dydd – wedi trio yr esgus hynny gyda ngwaith ond dim yn tycio. Am fynd i chwilio am bar o Nike Vaporfly nawr ar gyfer 10k Aber!

    Hoffi

    1. Cysondeb anhygoel, yn enwedig ar lôn yn hytrach na thrac. Ond dwi’n tybio bod y golau gwyrdd yn help mawr. O ran record 4 munud am y filltir Bannister, mi wnaeth Chataway a Brasher ymddwyn fel pacemakers yn sicr, ond yn swydfogol roedden nhw’n ran o’r ras hefyd. Os dwi’n cofio’n iawn roedd rhaid iddyn nhw orffen y ras i’ r record sefyll a cafodd un drafferth cyrraedd y llinell wrth i bawb mobio Bannister. Roedd sawl rheol arall yn cael ei dorri ddydd Sadwrn fel natur y cwrs a’r system fwydo h.y. y beic yn rhoi diod iddo fo. Blog arall yn crynhoi hyn oll ella? Ti’n iawn am y cwsg…ond dwi’n stryglo i gael 6 awr heb sôn am 16!!

      Hoffi

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Create your website at WordPress.com
Cychwyn arni
%d bloggers like this: