Dyna’r cwestiwn…
Maddeuwch i mi am y defnydd o’r iaith fain ym mhennawd y blog yma, ond do’n i’n methu peidio o ystyried y testun!
Stori newyddion dros y dyddiau diwethaf sydd wedi gwneud i mi feddwl ynglŷn â’r pwnc – sef beth sy’n cyfrif fel amser gorau, neu ‘PB’ (‘PR’ os mai Americanwr ydach chi!)
Y PB hudol ar ba bynnag bellter ydy’r greal sanctaidd i bob rhedwr – boed ni’n cyfaddef hynny neu beidio, dwi’n grediniol ein bod ni i gyd yn y bob yn anelu at wella ein hameroedd ar bob pellter, a chryfhau ein gwaddol, neu record fel rhedwyr.
Yn sicr mae ‘na bwynt yn cyrraedd lle mae’n rhaid i bawb gydnabod nad ydyn nhw’n debygol o wella ar eu hamseroedd gorau, ac mae’r nod yn gorfod addasu rhyw ychydig ond dwi’n credu ei bod hi’n bwysig cael targed er mwyn ein gwthio ni i hyfforddi’n galed. Mae’r dathliad bob amser yn felys pan fyddwn ni’n llwyddo i gyrraedd nod.
Llanast yn Leeds
Mi wnaeth ‘na lawer iawn o redwyr, nifer dwi’n eu hadnabod, osod PBs newydd dros bellter 10k yn y ‘Leeds Abbey Dash’ ar 27 Hydref eleni. Un o’r rheiny oedd enillydd ras y merched, y Gymraeg Charlotte Arter a redodd amser anhygoel o 31:34.

Yn anffodus, yr wythnos hon fe dorrodd y newyddion fod y cwrs yn fyr. Dim ond 23 metr yn fyr cofiwch, ond yn ddigon byr i olygu na fydd yr amseroedd yn cyfri fel rhai swyddogol.
Fel nes i drydar, fyswn i’n gandryll petawn i’n un o’r rhedwyr hynny a redodd amser arwyddocaol. Dyma chi ras fawr, gyda llwyth o redwyr o’r safon uchaf yn rasio (byddai’n rhaid i chi fod wedi rhedeg dan 32:00 jyst i wneud y 100 uchaf) – pawb yn meddwl ei fod o’n gwrs wedi’i fesur yn swyddogol.
Yn yr oes dechnoleg gyfoethog sydd ohoni, ddylai o ddim digwydd – nid ras hwyl oedd hon yn Leeds.
Nid y tro cyntaf
Er hynny, nid dyma’r tro cyntaf i ni weld achos o’r fath mewn ras fawr – i’r gwrthwyneb. Bydd rhai o’r darllenwyr yn cofio Hanner Marathon Caerdydd yn 2010 pan oedd y cwrs 193m yn fyr. Ro’n i wastad yn mwynhau atgoffa fy mrawd bach o hynny ag yntau wedi rhedeg ei amser gorauyno y flwyddyn honno!
Neu hyd yn oed yn waeth, beth am Farathon Manceinion oedd 380m yn fyr rhwng 2013 a 2015? Os ydw i’n cofio’n iawn roedd ambell redwr wedi rhedeg eu hamseroedd i gael lle ar gyfer Gemau Olympaidd 2016 yno – disaster!
Yn anffodus, mae o wedi digwydd eto yn Leeds, ac mae ‘na lot fawr o redwyr siomedig wedi colli’r hyn oedden nhw’n credu oedd yn amser gorau dros 10k.
Neu ydyn nhw?
Ydy’r ffaith fod y mesur swyddogol yn brin o 10k yn golygu nad ydy o’n cyfri fel 10k llawn i’r rhedwyr? Wedi’r cyfan, beth ydy 23 metr pan rydach chi wedi rhedeg 10,000 (neu 9,977)? Ac os edrychwch chi ar Strava – a dw wedi bwrw golwg eto ar rai y bobl dwi’n adnabod neu ddilyn oedd yn rhedeg – maen nhw i gyd wedi clocio dros 10k mewn pellter.
Mae hyn wedi gwneud i mi feddwl am bôl piniwn diweddar yn Runners World oedd yn gofyn pryd mae PB yn cyfri fel PB (llun isod). Fe welwch chi fod dros hanner y rhai sydd wedi ymateb yn dweud ‘unrhyw bryd’, tra bod y mwyafrif o’r gweddill yn dweud ‘dim ond mewn ras’. Yn anffodus does dim mwy o fanylder ynglŷn ag os mai mewn ras wedi’i fesur yn swyddogol oedd dan sylw gan rhain.

Yn bersonol, er mod i’w mwynhau gwneud lot o rasus llai sydd efallai heb eu mesur yn iawn, dwi’n tueddu bellach i gyfri dim ond rasus ‘Power of 10’(sef y wefan sy’n cofnodi canlyniadau rhedwyr cofrestredig ym Mhrydain) trwyddedig fel PB go iawn.
Er enghraifft, digwydd bod yr un penwythnos a’r Leeds Abbey Dash, mi wnes i redeg ras 10k yng Ngherddi Botaneg Cymru, a gorffen mewn amser fyddai’n PB swyddogol…ond doedd hi ddim yn ras Power of 10 (a hefyd ddim ond yn 6 milltir yn ôl fy watch i) felly dwi wedi diystyrru’r amser yma.
Sefydliad o’r enw ar AUKCMsy’n gyfrifol am fesur a thrwyddedu cyrsiau ym Mhrydain, ac mae rhestr ddefnyddiol o’r rasus sydd wedi eu mesurganddyn nhw ar-lein.
Cofiwch chi, o edrych ar y pôl piniwn Runners World dwi’n reit genfigennus o’r 5% a ddywedodd nad ydyn nhw’n poeni am PBs – mae’n siŵr mai dyma’r agwedd iacha’!
Mae gen i ddiddordeb mawr mewn gwybod barn darllenwyr y blog yma wrth wynebu’r cwestiwn yma – be sy’n cyfri i chi?