Un peth dwi’n awyddus i’w wneud gyda’r blog yma ydy ysgrifennu am redwyr o Gymru – boed nhw ar y lefel uchaf, elite, neu ar lefelau is.
Dwi’m yn credu bod rhedeg pellter yn cael digon o sylw ar y cyfryngau yn gyffredinol y tu hwnt i’r prif bencampwriaethau, ac yn arbennig felly ar y cyfryngau Cymreig.
Dwi wedi ysgrifennu pytiau newyddion am Dewi Griffiths a Josh Griffiths yn barod, a bydd mwy i ddod amdanyn nhw yn y dyfodol dwi’n siŵr. Dyma ddau redwr pellter enwocaf Cymru ar hyn o bryd mae’n debyg, ond pan ddaw hi at bellter y marathon, mae un Cymro wedi bod yn cario’r fflam ymhell cyn i’r ddau Griffiths droi at 26.2 milltir dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf.
Andrew Davies ydy’r gwr dan sylw, a bydd llawer wedi colli’r ffaith ei fod wedi torri record go arbennig ym Marathon Valencia wythnos diwethaf. Dyma foi sy’n haeddu tipyn mwy o sylw yn fy marn i.
Diwrnod am record yn Valencia
Mae’n ymddangos ei bod yn ddiwrnod ar gyfer torri recordiau yn Ne Ddwyrain Sbaen ddydd Sul diwethaf.
Roedd ras 10k yn Valencia hefyd, a sôn ymlaen llaw fod Joshua Cheptegei o Uganda yn targedu record y byd dros y pellter. Roedd y record flaenorol ar y lôn yn eiddo i Leonard Komon ers 2010, ond fe lwyddodd Cheptegei i dorri’r record o 6 eiliad – 26:38…wowzer!
Gyda llaw…oedd, roedd o’n gwisgo Nike Vaporflys!
Cheptegei enillodd ras y 10,000 ar y trac ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Doha ym mis Hydref, a gyda’r newyddion bod Mo Farah am ddychwelyd i’r trac i gystadlu yn y ras honno yn y Gemau Olympaidd blwyddyn nesaf, bydd tipyn o frwydr am y fedal aur yn Tokyo.
Anheg fyddai dweud fod ymdrech Farah i gamu i’r marathon yn fethiant, ond mae’n wir nad yw wedi bod mor llwyddiannus a’r gobaith. I rhwbio halen yn y briw, collodd ei record Ewropeaidd dros bellter y marathon yn Valencia ddydd Sul wrth i Kaan Kigen Özbilen o Dwrci redeg 2:04:16 i gipio’r ail safle tu ôl i Kinde Atanaw o Ethiopia.
Dal i wella wedi’r deugain
Ond roedd record llawer mwy diddorol i ni fel Cymry yn y Marathon, wrth i Andy Davies, sydd newydd droi’n 40 oed, dargedu record Prydain ar gyfer y categori M40 (h.y. dynion dros 40 oed).

Ac fe lwyddodd yr aelod o glwb Stockport Harriers i wneud hynny’n gyfforddus gan redeg ei amser gorau dros y pellter hyd yma sef 2:14:36. Y Sais Steve Way, rhedwr anhygoel sydd wedi troi at bellteroedd ultra bellach, oedd yn dal y record flaenorol o 2:15:16 ers Gemau’r Gymanwlad 2014.
Ag yntau’n siaradwr Cymraeg o’r canolbarth, ac yn gyn beldroediwrfel fi, dwi wedi bod yn cadw golwg ar yrfa Davies dros y blynyddoedd. Mae gen i ryw gof ei fod o wedi ymddangos ar gyfres ’10 Jonathan’ (cofio’r gyfres yna?) ar S4C flynyddoedd yn ôl hefyd…ond dwi’n methu ffeindio tystiolaeth o hynny ar-lein yn anffodus!
Mi wnes i grybwyll Davies yn fy adroddiad ras Llyn Efyrnwy. Roedd yn ail agos i Jonny Mellor y diwrnod hwnnw, ac o’r hyn dwi’n deall roedd Mellor yn pacemakeri’r Cymro yn Valencia. Ei ganlyniad yn Efyrnwy oedd ei amser gorau Davies dros bellter Hanner Marathon, ac mae hynny’n aml yn arwydd da cyn rhedeg marathon llawn, er bod tipyn o fwlch rhwng y ddwy ras.
O glywed ei fod yn anelu am y record ddydd Sul felly ro’n i’n weddol hyderus y gallai ei gwneud hi.
Un peth amdano ydy ei fod o’n gyson iawn dros y pellter – mae ganddo fo farathon 2:20 neu gynt i’w enw bob blwyddyn ers 2012, a hawdd anghofio ei fod wedi gorffen yn yr unfed safle ar ddeg yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2018.
Fyswn i’n dychmygu bod ei gefndir fel pel-droediwr, a’r ffaith ei fod yn redwr mynydd arbennig o dda, yn rhan fawr o’r rheswm am ei gysondeb – byddai hyn yn rhoi cryfder ‘craidd’ (core strength) da iddo. Mae hyn yn werth cofio i unrhyw un sydd am wella fel rhedwr – mae’n bwysig amrywio’r math o redeg rydach chi’n gwneud, ac yn delfrydol dylech chi fod yn gwneud rhyw chwaraeon arall hefyd h.y. cross training.
Dal i ddatblygu
Yr hyn dwi’n hoffi am stori Davies, yn enwedig fel rhywun sy’n troi’n 40 yn fuan fy hun, ydy ei fod o’n rhoi gobaith i ni gyd, ac yn arbennig felly y rhai sy’n troi at redeg o ddifrif yn hwyrach mewn bywyd. Rhedodd Andy ei farathon cyntaf yn 2006 mewn 2:52:32, ac ers hynny mae wedi cyflymu’n raddol gan gyrraedd 2:15:11 yn Llundain yn 2017, ac yna wrth gwrs wella eto ar yr amser yma ar ôl troi’n ddeugain!
O, a gyda llaw…doedd o ddim yn gwisgo Vaporflys!
Mae o’n cael ei noddi gan New Balance, ac wrth reswm felly roedd o’n gwisgo esgidiau ei noddwr.
Dwi’n gobeithio ei weld yn dal i ddatblygu gyda’r marathon am dipyn eto, ond o gofio ei gefndir rhedeg mynydd, fyswn i ddim yn synnu gweld Davies yn dilyn Steve Way ac yn symud i gyfeiriad ultra’s yn y dyfodol. Cawn weld.
Fyswn i wrth fy modd yn cyfweld Andy ar gyfer y blog rhywdro, a gobeithio daw’r cyfle’n fuan.
Amseroedd da i Gymry eraill

Cyn cloi, mae’n werth sôn am gwbl o berfformiadau Cymreig trawiadol eraill yn Valencia. Yn gyntaf, y Gymraeg, Eli Kirk a redodd PB ardderchog o 2:34:36, a sydd fel Davies yn aelod o dîm New Balance Manceinion.
Yna, yn ei farathon cyntaf, y gogleddwr Charlie Hulson a redodd 2:14:23. Ag yntau wedi ennill teitlau 10k Caerdydd, Caer a Telford llynedd ynghyd â’r ras draws gwlad fawr ‘Cross Caerdydd’, mae o’n amlwg i fyny yna gyda’r gorau o’r Cymry. Wedi dweud hynny, mae’n gam mawr o 10k i’r marathon, ond mae’r canlyniad yma’n awgrymu y gall wella eto – dyma’r seithfed cyflymaf ym Mhrydain eleni, a tybed fydd ei lygad ar farathon Gwanwyn i weld oes cyfle ganddo wneud y tîm ar gyfer y Gemau Olypaidd yn Tokyo?
Canlyniadau llawn Marathon Valencia.
Diolch i Team New Balance Manchester (@TeamNBMCR) am y lluniau.
One thought on “Davies yn dymchwel record yn Valencia”