Dim marathon, dim mojo

Wel, dwi’n disgwyl y newyddion ers cwpl o wythnosau, ac er gwaethaf ambell lygedyn o obaith, o’r diwedd ddydd Gwener daeth cadarnhad fod Marathon Llundain eleni wedi’i ohirio oherwydd y sefyllfa enbyd gyda’r coronavirus. 

Doedd o ddim yn syndod ac er nad ydw i’n gwybod digon am y peth mewn gwirionedd (oes unrhyw un?) dwi ddim yn credu fod unrhyw ddewis gan y trefnwyr. 

Dwi’n siŵr nad oedd o’n benderfyniad hawdd i’r trefnwyr o gwbl, ac mae angen eu canmol am wneud y cyhoeddiad ddigon ymlaen llaw i roi cyfle i ni oedd yn rhedeg a chefnogi allu newid ein trefniadau…yn wahanol i rai trefnwyr campau eraill wna’i ddim enwi! 

Yr hyn ddyliwn i deipio yma rŵan ydy nad ydy o’n ddiwedd y byd, mae ‘na rai pethau sy’n llawer pwysicach na chwaraeon, ac mae mwy i redeg na rasio a chymryd rhan mewn digwyddiadau mawr fel hyn. Mae hynny i gyd wrth gwrs yn wir…ond y gwir ydy mod i dal yn siomedig iawn, ac yn gwybod fod llawer iawn o bobl yn teimlo’r un peth. 

Chwalu’r freuddwyd

Tydi hyfforddi o ddifrif ar gyfer marathon ddim yn hawdd – mae o’n gam mawr i fyny o’ch 10K neu hanner marathon ac yn golygu gwaith caled, aberth a chryn dipyn o boen dros gyfnod sylweddol o amser. Mae rhan fwyaf ohonom ni oedd i fod i redeg yn Llundain wedi bpd yn dilyn cynllun hyfforddi ers y dechrau’r flwyddyn, a gyda chwech wythnos i fynd yn dod at dair neu bedair wythnos allweddol cyn dechrau’r taper cyn y ras. 

Yn bersonol, dwi’n paratoi ar gyfer Marathon Llundain eleni ers tua ugain blynedd!

Wrth wylio’r ras rhyw fore Sul ar ôl dathlu fy mhen-blwydd tua 2000 neu 2001, am rhyw reswm nes i ddeud wrth fy hun y byswn i’n rhedeg Marathon Llundain i ddathlu fy mhen-blwyddyn ddeugain oed. Dwn i ddim pam, achos do’n i ddim yn rhedwr bryd hynny, a dwi ddim yn un i ddathlu pen-blwyddi! Dwi’m yn siwr pam ‘40’ chwaith – am wn i, ro’n i’n tybio byswn i wedi rhoi’r gorau i chwarae ffwtbol erbyn hynny ac yn barod am her wahanol.  Ond roeddwn i’n breuddwydio am redeg yn y ras eiconig rhyw ddydd, a’r achlysur yn teimlo’n briodol…a digon pell yn y dyfodol

A wedyn unwaith ro’n i’n rhedeg o ddifrif, nes i weithio’n galed er mwyn rhedeg yr amser oedd angen mewn hanner marathon i gael lle Pencampwriaeth yn Llundain eleni. Ac os nad oedd hynny’n ddigon cyffrous, roedd rhai o fy arwyr mawr yn y byd rhedeg yn mynd i fod ar y llinell hefyd – yn benodol Eliud Kipchoge, a’r Cymro, Dewi Griffiths – perffaith. 

Wrth gwrs, do’n i ddim yn mynd i gymryd unrhyw beth yn ganiataol nes mod i’n sefyll yna ar y llinell ar 26 Ebrill. Dwi’n ymwybodol iawn fod salwch neu anaf yn aml yn chwalu cynlluniau rhywun wrth hyfforddi ar gyfer marathon. Ond do’n i, na neb arall, yn disgwyl yr hyn sydd wedi digwydd – mae’n sefyllfa hollol ddi-gynsail. 

Ond fel’na ma hi, a does dim oll allwn ni wneud am y sefyllfa heblaw gobeithio am y gorau, a bod pethau ddim yn mynd i fod mor ddrwg a’r hyn mae pawb yn ofni. 

Be di’r pwynt?

I redwyr, rydan ni’n ffodus fod dal modd i ni hyfforddi. Ond er ein bod ni’n hoffi brolio mai’r ‘broses sy’n bwysig, nid y canlyniad’…mewn gwirionedd, ma’r rhan fwyaf ohonom ni’n hyfforddi’n galed er mwyn rasio ac angen yr abwyd, y targed o ras fawr, er mwyn ein hysgogi i roi 100%. 

Dwi’n mwynhau fy ryn hir wythnosol fel rheol, ond rhaid i mi gyfaddef fod y ryn hir 21 milltir fore Sul yma’n anodd. Ro’n i wedi cael hen ddigon erbyn tua 8 milltir, ac yn ffeindio fy hun yn gofyn ‘beth ydy’r pwynt’, yn enwedig ar ôl y cadarnhad fod fy mhrif ras cyn Llundain, sef 10K Bae Caerdydd, hefyd wedi’i gohirio. 

Ond y peth da am redeg, ac am y ryn hir yn enwedig, ydy ei fod o’n gyfle da i glirio pen a bron yn ddi-ffael, dwi wastad yn teimlo’n well yn feddyliol, ac yn fwy positif ar ôl rhedeg. Roedd yr un peth yn wir ddydd Sul, ac erbyn cyrraedd adre ro’n i wedi gallu ystyried sawl peth, ac yn dechrau ffurfio cynllun. 

Dyma rai meddyliau:

  1. Mae pawb yn yr un twll – be di’r pwynt teimlo’n ddig mewn sefyllfa mor unigryw sy’n effeithio ar bob un ohonom ni? Mae ‘na 42,000 o bobl, a llawer mwy mae’n siŵr, sy’n siomedig am ohirio Marathon Llundain eleni. 
  2. Does dim y fath beth a ‘gwastraff’ wrth hyfforddi – mae rhywun yn gallu teimlo fel petai 10 wythnos neu fwy o hyfforddi marathon heb ras ar y diwedd yn wastraff. I’r gwrthwyneb – mae’r bloc hyfforddi’n brofiad gwerth chweil, a daw’r milltiroedd yn y coesau’n handi yn y dyfodol. 
  3. Cyfle unigryw – fyddai ddim yn rhedeg marathon Llundain i ddathlu fy mhen-blwydd, ond, fis Hydref fydd y tro cyntaf erioed i’r ras gael ei chynnal yn yr hydref. Mae’n gyfle i fod yn ran o hanes felly! (Cofiwch chi, dwi’n anhapus iawn eu bod nhw’n cynnal y ras ar yr un diwrnod a Hanner Marathon Caerdydd!)
  4. Heneiddio – erbyn i’r argyfwng ma basio, mae’n weddol sicr y bydda i mewn categori oedran hŷn…sy’n dod â chyfleoedd newydd cyffrous!

Y cynllun rŵan

Y gwir amdani ydy nad ydan ni’n gwybod beth fydd yn digwydd dros y cyfnod nesaf. Does wybod pryd fydd cyfleoedd i rasio dros yr wythnosau a misoedd nesaf, felly mae’n anodd iawn cynllunio ar hyn o bryd. Dyma fydda i’n gwneud felly:

  1. Gorffen y bloc – dwi 10 wythnos mewn i floc hyfforddi 16 wythnos ar gyfer y marathon. Dwi am orffen y bloc, ac os fydd cyfle i redeg marathon arall, neu unrhyw ras hirach na ½ Marathon, ddiwedd Ebrill fyddai’n trio manteisio ar hynny. 
  2. Rasio’n lleol – dwi’n hoffi cefnogi rasys bach lleol, ond rasys mwy, a phencampwriaethau Cymru’n arbennig, oedd y prif ffocws i fod eleni. Mae hynny wedi newid rhywfaint bellach, ac os fydd unrhyw gyfleoedd i rasio’n lleol yna dwi am fanteisio arnyn nhw. 
  3. Amrywio – ro’n i’n ystyried gwneud triathlon neu ddau ar ôl y marathon, ac efallai bod hwn yn gyfle i bwmpio teiars y beic a mynd allan ar y lôn. Heb y pwysau o baratoi ar gyfer ras benodol, gall hefyd fod yn gyfle i wneud bach o redeg mynydd neu trêl am chenj hefyd.
  4. Shifftio’r ffocws – yn draddodiadol dwi wedi canolbwyntio fy egni ar baratoi ar gyfer prif rasys, yr ‘A races’, yn y gwanwyn a’r hydref a heb rasio o ddifrif dros yr haf a’r Gaeaf. Gan obeithio bydd COVID-19 yn cilio erbyn hynny, dwi am drio targedu cwpl o rasys mawr dros yr haf. 

Y fantais fawr o newid dyddiad Marathon Llundain ydy bod cyfle rŵan i fanteisio ar dywydd brafiach, ac oriau dydd hirach, yr haf ar gyfer y bloc hyfforddi a bydd y siom o ohirio fis Ebrill yn ysgogiad pellach i wneud sioe dda ohoni fis Hydref.

O ia, ac un peth sydd bob amser yn codi calon ydy ychydig eiriau gan Eliud…

Cyhoeddwyd gan Owain Schiavone

Boi bach o bob dim!

One thought on “Dim marathon, dim mojo

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Create your website with WordPress.com
Cychwyn arni
%d bloggers like this: