Un o ffads ynysu’r wythnos ddiwethaf ydy’r her ‘5 5 5’ lle mae pobl wedi bod yn rhedeg 5k a rhoi £5 i elusen cyn enwebu 5 ffrind i wneud yr un peth ar y cyfryngau cymdeithasol.
Fydd rhedeg 5k ddim yn ormod o her i’r rhan fwyaf o ddarllenwyr y blog yma, ond yn sicr mae llawer o redwyr newydd wedi ymddangos dros yr wythnosau diwethaf, ac mae’r her yn siŵr o fod yn darged bach da i lawer o’r rhain.
Wrth gwrs, mae llawer o selebs wedi bod yn ymuno â’r hwyl, ac yn arbennig felly pêl-droedwyr mae’n ymddangos.
Mae’n siŵr ei bod yn gyfnod heriol iawn i bêl-droedwyr gydag ansicrwydd ynglŷn â gemau olaf y tymor, a’r ffaith nad oes modd iddynt hyfforddi fel tîm ar hyn o bryd. Yn sicr mae rhedeg pellter yn ffordd dda o gadw’n ffit iddynt mewn cyfnod fel hyn, ac ro’n i’n sicr yn gweld budd rhedeg yn rheolaidd pan o’n i’n chwarae pêl-droed.
Un peth dwi’n casau yn yr oes sydd ohoni ydy’r diwylliant one up-manship ‘ma ar y cyfryngau cymdeithasol, ac er bod lot o bethau da’n digwydd ar-lein dros y cyfnod yma, mae’r diwylliant yna dal yn drwch boed, yn arddangos sgiliau pobi ar Instagram neu frolio am amseroedd 5k ar Twitter!
Dros y penwythnos mae ambell bêl-droediwr amlwg wedi dod o dan y lach gan y gymuned redeg am frolio amseroedd 5k amheus yn eu tyb nhw. Yr un sydd wedi dal fy llygad yn benodol, ac wedi’i drafod tipyn ar-lein, ydy amser 5k Ross Barkley, chwaraewr canol cae Chelsea, o 16:11.
Tydi hwn ddim yn amser gwallgof o gyflym wrth gwrs – byddai rhywbeth dan 15 munud yn sicr yn anghredadwy – ond mae o’n amser cyflym iawn i rywun sydd ddim yn hyfforddi rhedeg pellter yn benodol. Ac mae o’n sicr wedi bod yn ddigon i godi aeliau ambell burudd yn y byd rhedeg – ‘sut mae’r ffwtbolar yma’n meiddio honni ei fod o’n gallu rhedeg amser cynt na llawer o redwr clwb da?’
Amser yn pasio
Un peth sydd wedi ychwanegu tanwydd i’r tân ydy ychwanegiad diweddar gan Strava – bellach mae modd i chi weld ‘elapsed time’ sesiynau pobl, yn ogystal â faint mae’r oriawr wedi clocio. Hynny ydy, mae modd i chi weld os ydy rhywun wedi pwyso ‘pause’ am egwyl ar ganol ryn! Mae cyfrif Twitter @stravawankers yn cael llawer o hwyl yn tynnu sylw at bobl sy’n brolio am eu gorchestion ‘PBs’ ar bellteroedd, ond sydd mewn gwirionedd jyst yn cael sawl egwyl yn y canol!
Yn sicr mae @stravawankers wedi rhoi sylw arbennig i ymdrech 5k Ross Barkley, ac er bod ei gyfrif Strava wedi cloi, mae cwpl o screenshots wedi ymddangos sy’n dangos elapsed time o 22:31 ar gyfer 5k Barkley. Wrth gwrs, mae’n anodd gwybod os ydy’r llun sgrin yma’n un go iawn, yn enwedig gydag un diweddarach yn dangos elapsed time o 1:05:23. Mae’r cyn chwaraewr cegog, Joey Barton, hefyd wedi cael pop ar ambell bêl-droediwr sydd wedi bod yn brolio.
Beth bynnag ydy’r gwirionedd, mae gen i ddiddordeb mawr yn y cwestiwn ehangach, sef ydy rhedeg 5k cyflym yn rywbeth ddylai fod o fewn cyrraedd pêl-droediwr proffesiynol?
Mae hyn o ddiddordeb arbennig i mi fel rhywun chwaraeodd bêl-droed dynion am 20 mlynedd rhwng 16 a 36 oed, cyn troi at redeg. Ro’n i’n chwarae ar lefel llawer is na Barkley wrth reswm, ond am sawl blwyddyn ar lefel digon cystadleuol Cynghrair Spar y Canolbarth. Do’n i ddim y chwaraewr mwya naturiol dalentog yn sicr, ond oherwydd hynny, fel chwaraewr canol cae roedd ffitrwydd a rhedeg lot yn hollol ganolog i fy ngêm. Ro’n i wastad yn benderfynol i fod y chwaraewr mwya ffit yn y tîm, ac os yn bosib ar y cae.
Ro’n i wastad wedi bwriadu troi at redeg ar ôl gorffen chwarae ffwtbol, a nes i ambell 10k a chwpl o hanneri marathon pan o’n i’n chwarae pêl-droed – dim byd arbennig, ond amseroedd parchus o 83 munud ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd yn 2015 a 10k Aberystwyth mewn 37:55 yr un flwyddyn (ges i flwyddyn ffwrdd o ffwti gydag anaf y flwyddyn honno a dechrau rasio mwy wrth wella). Nes i drio jyglo rhedeg a phêl-droed yn fy nhymor olaf ac, o sbio nôl, lwyddo i dorri 18 munud ar gyfer Parkrun gwpl o weithiau, ond yn sicr, ar ôl rhoi’r gorau i ffwtbol a dechrau hyfforddi rhedeg yn iawn dwi wedi gweld y naid go iawn yn fy amseroedd rhedeg.
Y gwir plaen amdani ydy fod mathau gwahanol o ffitrwydd, a gallwch chi fod yn ffit iawn ar gyfer un camp, ond dal fod yn chwythu trwy’r pen ôl wrth ymgymryd â champ arall. Ro’n ystyried fy lefel ffitrwydd fel pêl-droediwr yn uchel iawn, ond o safbwynt ffitrwydd cardio, ac endurance yn benodol mae’r ffitrwydd ar lefel llawer uwch erbyn hyn…ond fyswn i siŵr o fod yn stryglo i chwarae 90 munud o gêm ffwtbol galed!
Hyfforddi pwrpasol
Ro’n i wastad o’r farn y dylai chwaraewr canol cae ffit allu rhedeg hanner marathon yn weddol gyfforddus. Nes i fy hanner cyntaf yng Nghaerdydd (2008) ar ôl chwarae gêm (aeth i amser ychwanegol!) y diwrnod blaenorol, a heb redeg mwy na rhyw 5 milltir wrth hyfforddi – roedd y ffitrwydd pêl-droed yn ddigon i mi allu gwneud hi rownd mewn 1:42 heb ormod o drafferth. Ro’n i’n ddigon bodlon gyda hyn, ond petaech chi wedi dweud y bydden i’n rhedeg y pellter 27 munud yn gynt ddeng mlynedd yn ddiweddarach fyswn i wedi meddwl eich bod chi’n wallgof. Dyna’r gwahaniaeth mae hyfforddi pwrpasol, a rhywfaint o brofiad dros y pellter, yn gallu gwneud.
Ond os ydw i’n credu y dylai pêl-droediwr ffit allu bod yn redwr pellter da, pam nad ydw i’n gallu meddwl am lawer ohonyn nhw sydd wedi llwyddo i wneud y switch yn llwyddiannus? Mae digon o gyn-chwaraewyr rygbi wedi troi’n weddol llwyddiannus at triathlon ac Ironman yn benodol – Shane Williams a Ryan Jones yr amlycaf mae’n siŵr – ond ychydig iawn ydy’r esiamplau o’r byd pêl-droed hyd y gwela i.
Yr esiampl agosaf at bêl-droediwr proffesiynol yn troi’r redwr elite o’r hyn dwi’n gwybod ydy’r Cymro Andrew Davies. Dwi wedi sôn am Andy o’r blaen – roedd yn chwaraewr lled broffesiynol yn Uwch Gynghrair Cymru gyda Chaersws cyn troi i ganolbwyntio ar redeg. Mae bellach wedi rhedeg dan 2:15 ar gyfer y marathon.
Tu hwnt i hynny, yr unig Gymro dwi’n gwybod amdano sy’n dod yn agos ydy cyn chwaraewr Aberystwyth a Phenrhyn-coch, Carwyn Jones, sydd wedi troi at redeg ers blynyddoedd gan hawlio PB o 14:30 ar gyfer 5k a 30:24 ar gyfer 10K.
Un boi dwi wedi cyfarfod ar gae pêl-droed ambell waith pan oedd yn chwarae i dîm Prifysgol Aberystwyth, a sydd bellach wedi troi at redeg ydy Arwel Evans. Tynnodd Arwel fy sylw at y ffaith fod Aaron Ramsey’n rhedwr 800m handi pan oedd yn iau, gan redeg 2:05.25 yn 16 oed. Mae Rambo yr union fath o chwaraewr fyswn i’n gweld yn gwneud rhedwr da – injan dda yn ganol cae, llwyth o egni a byth yn stopio rhedeg.
Byddai’n grêt gweld Ramsey’n dychwelyd at athletau ar ôl gorffen ei yrfa bêl-droed, ond petai’n cael hwyl arni, byddai’n esiampl prin iawn o bêl-droediwr proffesiynol sydd wedi gwneud hynny. Mae’r unig erthyglau dwi’n gallu ffeindio am y pwnc yn brolio amseroedd marathon fel 3:22 Muzzy Izzet o Gaerlyr gynt, sy’n amser parchus, ond ddim yn drawiadol o bell ffordd.
Mae’n debyg mai un ateb syml o ran y diffyg pêl-droedwyr elite yn troi at redeg yn gystadleuol ydy ‘pam ddylen nhw’! Go brin y bydden nhw’n gallu cyrraedd safon cyfatebol i’r hyn roedden nhw’n chwarae pêl-droed arno felly byddai’n anodd cael yr un buzz o gamp newydd. Ond eto i gyd, pam felly bod y bois rygbi ma’n mynd mor frwd am eu triathlons? Yn sicr i mi, mae rhedeg wedi mwy na llenwi’r angen cystadleuol yna roedd pêl-droed yn ei fodlonni cyhyd.
Dwi wedi dod ar draws lot o fois oedd yn chwarae ffwtbol ar lefel tebyg i mi mewn rasys wrth gwrs, ond er eu bod nhw’n ffit iawn fel pêl-droedwyr, dydyn nhw ddim fel petaen nhw’n gallu efelychu hynny wrth redeg. Dwn i ddim pam fo hynny.
Beth am Barkley felly? Allwn ni gredu ei amser o 16:11 ar gyfer 5k? Dwi heb ei weld yn chwarae ddigon yn ddiweddar, ond rhaid cyfaddef nad ydy o’n ffitio’r proffil yn fy mhên i o bêl-droediwr fyddai’n gallu rhedeg yr amser yna…ddim heb hyfforddi tipyn ar gyfer gwneud hynny beth bynnag. Mae o wastad wedi fy nharo i fel ‘rhif 10 bywiog’ yn hytrach na chwaraewr canol cae ‘box to box’.
Yn y gêm fodern, dwi’n amau mai cefnwyr fel Trent Alexander-Arnold o Lerpwl neu Connor Roberts i Gymru, fyddai’n addasu orau i redeg pellter – ma’r bois yma’n cyfro lot o dir ac yn rhedeg yn ddi-baid am 90 munud.
Mae un peth yn bendant sef fod @stravawankers yn sicr eu barn nad ydy ei amser yn un i gredu – gymaint felly nes eu bod wedi gosod her ‘Ross Barkley 5K’ i’w dilynwyr!
Ydw i wedi methu unrhyw bêl-droedwyr sydd wedi troi’n llwyddiannus at redeg? Sylwadau isod plîs!
Prif lun: Wikipedia Commons – https://www.flickr.com/photos/cfcunofficial/ / CC BY-SA (https://creativecommons.org/licenses/by-sa/2.0)
Iawn Sgiv? Pwnc diddorol…o edrych yn sydyn ar y wê mi redodd Dwight Yorke Marathon Llundain mewn 3:31 a Michael Owen, oedd yn enwog am gyflymder o fath gwahanol, 3:45! Mi wnaeth Gary Speed gyflymder o dan 4 awr hedyd! Sylw diddorol o ran y ‘one up manship’….onid dyna ydi Strava?? Pwynt arall i’w drafod ella….😉
HoffiHoffi
Iawn Arch? Ia, nes i weld am Yorke yn yr un erthygl a Muzzy Izzet. Fysa lot fawr o redwyr yn falch iawn efo unrhyw beth dan 4 awr wrth gwrs, ond pan ti’n gweld rhywun fel James Cracknell (sy’n hogyn mawr!) yn rhedeg 2:50, fysa ti’mn disgwyl gweld ambell ffwtbolar yn rhedeg sub 3 yn bysat. Ma’n ymddangos bod Lousi Enrique wedi rhedeg dan 3 awr (https://sport360.com/gallery/football/226268/from-luis-enrique-to-pavel-nedved-10-footballers-who-have-ran-marathons) – hyn ddim yn synnu fi llawer, boi efo lot o redeg ynddo fo ar y cae.
HoffiHoffi