Hir yw pob ymaros meddai rhywun, rywdro.
Wel, o’r diwedd, mae’r aros ar ben ac mae pennod gyntaf podlediad Y Busnes Rhedeg ‘Ma yn gweld golau dydd!
Efallai bydd rhai yn cofio darllen fy narn blog cyntaf beth amser nôl, oedd yn sôn am fy nyhead i gyhoeddi podlediad yn trafod rhedeg yn y Gymraeg. Yn wir, dwi’n sôn am wneud hynny ers sawl blwyddyn bellach, a hyd yn oed wedi dechrau recordio ambell waith ers hynny!
Am resymau amrywiol, nes i byth lwyddo i gymryd y cwpl o gamau olaf yna, sef golygu a chyhoeddi’r podlediau peilot yma. Mae’n ymddangos mai’r hyn oedd angen i wneud hynny yn y diwedd oedd stori wirioneddol dda gan redwr sydd, yn fy marn i beth bynnag, wedi llwyddo i ysbrydoli.
Dwi’n falch iawn felly mai gwestai cyntaf podlediad Y Busnes Rhedeg ‘Ma felly ydy Gwyndaf Lewis. Mae cyfnod y cloi mawr wedi bod yn heriol i Gwyndaf mewn sawl ffordd, ac mae’n trafod hynny mewn mwy o fanylder yn y podlediad. Heb ymhelaethu’n ormodol, mae wedi defnyddio rhedeg, a dwy her redeg eithafol fel arf i fynd i’r afael â chyfnod anodd, a helpu eraill wrth wneud hynny. Ysbrydoliaeth heb os.
Y gobaith ydy cyhoeddi podlediad yn weddol rheolaidd, unwaith y mis yn sicr. Cyfweliadau gyda rhedwyr fydd asgwrn cefn y podlediadau, ond gydag ambell eitem yn ymwneud â rhedeg, ynghyd â cyflwyniad i bach o gerddoriaeth hefyd!
Mae gen i restr hyd fy mraich o bobl fyswn i’n hoffi sgwrsio â nhw ar y pod, ond fyswn i’n falch iawn i glywed awgrymiadau gan ddarllenwyr/gwrandawyr hefyd – sylwadau isod neu gyrrwch nodyn ar Facebook / Twitter.
Gobeithio bydd y podlediad ar gael ar y llwyfannau arferol, ond fe alla gymryd bach yn hirach i gyrraedd rhai o’r rhain (yn enwedig iTunes mae’n debyg). Mae o ar Anchor, Spotify, Castbox, Pocket Casts a chwpl o lefydd eraill yn barod.
Dwi allan o bractis braidd, felly ma’r ymdrech gyntaf yma fymryn yn amrwg…ond gobeithio bydd y podlediadau’n gwella wrth fynd yn eu blaen.
Gobeithio byddwch chi’n mwynhau’r bennod gyntaf, ond plîs, rhowch wybod eich barn a gadewch adolygiad os yn bos!
