Math yn chwalu record y Paddy Buckley

Bydd unrhyw un sy’n darllen y blog yma’n rheolaidd yn gwybod fy mod i wedi datblygu bach o obsesiwn gyda’r ‘rownds mawr’ dros y blynyddoedd diwethaf. 

Efallai bod ‘obsesiwn’ yn air rhy gryf…ond yn sicr mae gen i chwilfrydedd mawr ynglŷn â’r Bob Graham Roundyn Ardal y Llynnoedd, y Ramsey Round yn Yr Alban, ac yn arbennig felly’r Paddy Buckley Round yn Eryri. 

Dwi’m yn rhedwr mynydd o gwbl, ond mae gen i barch mawr iawn at redwyr mynydd ac er bod y gamp yn llawer mwy niché, dwi’n ystyried y goreuon i fod yn llawn cystal athletwyr ag Eliud Kipchoge a Kenenisa Bekele. 

Copaon y Paddy Buckley

Mae’r tair rownd fawr yn tua 60 milltir yr un, gyda rhwng 27,000 a 30,000 troedfedd o ddringo, gan ddibynnu ar eich dewis o gwrs ond sy’n gorfod cynnwys hyn a hyn o gopaon mynyddoedd heriol. 

Yr her fawr i’r mwyafrif ydy cwblhau’r rownd dan 24 awr, ond gyda’r Paddy Buckley, sy’n fwy heriol na’r ddwy arall yn ôl pob sôn, mae’n debyg bod cymryd mwy na 24 awr yn ddigon derbyniol. 

Un o ganlyniadau’r cyfnod clo, a’r diffyg cyfleoedd i rasio, ydy gweld llawer iawn o redwyr yn troi at heriau FKT(Fastest Known Time) ac rydan ni wedi gweld sawl record arwyddocaol iawn yn cael eu gosod

Chwalu recordiau

Gosododd Beth Pascall record newydd anhygoel i ferched ar y Bob Graham ym mis Gorffennaf, ond mae FKT y rhedwr mynydd gorau yn y byd, Kilian Jornet (12 awr 52 munud) ar gyfer y B.G. yn mynd i fod yn anodd iawn, os nad amhosib, i’w guro. 

Ond o dipyn i beth, mae’r record ar gyfer y ddau rownd arall wedi cwympo dros yr wythnos diwethaf. 

Un o redwyr mynydd amlycaf Ewrop ar hyn o bryd ydy’r Albanwr Finlay Wild, sydd wedi ennill ras enwog Ben Nevis 10 gwaith yn olynol. Bu iddo hefyd dorri record y ‘Welsh 3000s’ llynedd, oedd yn sefyll ers 1988. 

Dros y penwythnos, ar 31 Awst, chwalodd Wild y record ar gyfer y Ramsey Round gan redeg y cwrs mewn 14 awr 42 munud a 40 eiliad. Roedd hyn dros awr a hanner yn gyflymach na record flaenorol Es Tresidder sef 16 awr 12 munud. Ac os nad ydy’r gamp yn ddigon anhygoel, fe wnaeth hynny’n llwyr ar ei liwt ei hun heb gefnogaeth. Anhygoel. 

Chapeu Math

O fwy o ddiddordeb personol i mi, ac i nifer o ddarllenwyr dwi’n siŵr, ydy’r ffaith bod FKT y Paddy Buckley wedi cwympo wythnos diwethaf hefyd. 

Ymdrech gyntaf Math Roberts

Nes i sgwennu darn ar ddechrau’r flwyddyn am y ffaith bod Damian Hall wedi gosod yr FKT ar gyfer y rownd ‘aeafol’, ac yntau hefyd oedd yn dal y record gyffredinol hefyd sef 17 awr 31 munud a 39 eiliad ers haf 2019.

Ro’n i’n ymwybodol fod y Cymro Math Roberts, sy’n rhedwr mynydd adnabyddus o Eryri, wedi rhoi crac ar y record ym mis Gorffennaf eleni a jyst methu gydag amser o 17:37:39 – cwta chwe munud yn brin!! 

Dwi’n siŵr i mi glywed sgwrs radio efo fo ar y pryd yn awgrymu ei fod o’n bwriadu rhoi tro arall arni ac fe ddaeth yr ymdrech honno ddydd Sadwrn (30 Awst). A’r tro hwn, fe redodd bron i awr yn gyflymach na’r ymdrech flaenorol gan osod record newydd o 16:38:30. Ymdrech aruthrol, a record fydd yn anodd iawn i’w guro.

Gyda’r Tour de France wedi dechrau, un peth sy’n teimlo’n briodol i’w ddweud – chapeau Math Roberts!

Yr ymdrech lwyddiannus o Strava Math Roberts

Cyhoeddwyd gan Owain Schiavone

Boi bach o bob dim!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Create your website at WordPress.com
Cychwyn arni
%d bloggers like this: