Podlediad newydd – sgwrs gydag Angharad Davies

Dwi’n falch iawn i gyhoeddi bod trydydd pennod podlediad Y Busnes Rhedeg ‘Ma bellach wedi’i gyhoeddi ar-lein.

Mae cyfweliadau’r ddau bennod gyntaf gyda Gwyndaf Lewis, ac yna gydag Alaw Beynon-Thomas ac Arwel Evans wedi bod yn grêt a gobeithio byddwch chi’n cytuno bod y diweddaraf llawn cystal.

Yn y bennod yma dwi’n sgwrsio gydag Angharad Davies sy’n dod yn wreiddiol o Sir Gâr ond sydd bellach yn byw yn Galicia yn Sbaen.

Mae Angharad yn redwraig trac o safon uchel iawn ac wedi cynrychioli Cymru sawl gwaith dros y blynyddoedd. Ar ôl egwyl o’r gamp, mae nôl yn hyfforddi ac yn cystadlu ers diwedd 2019, wedi cael cryn lwyddiant cyn y clo mawr.

Mae’r sgwrs gydag Angharad yn mynd i sawl cyfeiriad ac yn amserol iawn o safbwynt ei phrofiadau yn Galicia yn ystod y cloi mawr, a’i barn ynglŷn â chydraddoldeb i ferched yn y byd rhedeg.

Cafodd y podlediad ei recordio jyst cyn iddi gystadlu ym Mhencampwriaethau Galicia, ac mae’n rhaid cymryd y cyfle i’w llongyfarch ar ei llwyddiant yn y pencampwriaethau hynny dros yr 800m a’r 1500. Llwyddodd Angharad i ennill y ddwy ras yn gyfforddus gyda’i hamser gorau erioed yn yr 800m, 2:13.02, yn ogystal â PB hefyd yn y 1500m sef 4:32.42.

Does dim amheuaeth fod Angharad yn mynd o nerth i nerth ac mae’n werth cadw golwg arni dros y misoedd nesaf.

Mwynhewch y podlediad:

Pennod 5 – Matthew Roberts Y Busnes Rhedeg ‘Ma

Ym mhennod ddiweddaraf podlediad Y Busnes Rhedeg ‘Ma mae Owain Schiavone yn cael cwmni’r rhedwr mynydd, Matthew Roberts. Ers diwedd mis Awst, Matthew Roberts sy’n dal y record am amser cyflyma’ Rownd y Paddy Buckley yn Eryri – yr her 60+ o filltiroedd sy’n cynnwys 47 o gopaon Eryri. Hon yn ôl llawer, ydy’r galeta’ o’r dair rownd glasurol ym Mhrydain sy’n cynnwys y Bob Graham (Ardal y Llynnoedd) a’r Ramsey Round (Yr Alban). Roedd darn am y record ar flog Y Busnes Rhedeg ‘Ma ar y pryd – https://rhedeg.wordpress.com/2020/09/03/math-yn-chwalu-record-y-paddy-buckley/  Cerddoriaeth y bennod yma ydy sengl ddiweddaraf Betsan, ‘Ti Werth y Byd’, sydd allan ers 2 Hydref 2020.  Cofiwch roi adolygiad bach i’r podlediad os allwch chi, a cysylltwch gydag unrhyw sylwadu. 
  1. Pennod 5 – Matthew Roberts
  2. Pennod 4 – Peter Gillibrand
  3. Pennod 3 – Angharad Davies
  4. Pennod 2 – Alaw Beynon-Thomas ac Arwel Evans
  5. Pennod 1 – Gwyndaf Lewis

Cyhoeddwyd gan Owain Schiavone

Boi bach o bob dim!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Create your website at WordPress.com
Cychwyn arni
%d bloggers like this: