Nid pob dydd mae rhywun yn cael cyfle i gyweld rhywun sy’n dal record arwyddocaol.
A heb os mae record, neu FKT (Fastest Know Time) Rownd y Paddy Buckley yn arwyddocaol dros ben…epig hyd yn oed!
Bydd unrhyw un sydd wedi darllen y blog yma’n rheolaidd yn gwybod am fy niddordeb yn y ‘rownds mawr’ mynyddig Prydeinig – y Bob Graham Round yn ardal y Llynnoedd, y Ramsey Round yn yr Alban, a’r Paddy Buckley yn Eryri.
Dwi wedi ysgrifennu amdanyn nhw sawl gwaith mewn cyd-destun gwahanol, gan gynnwys drafod y ffaith fod yr ardderchog Damian Hall wedi torri’r record ar gyfer rownd haf y Paddy Buckley yn 2019…ac yna ar gyfer yr FKT gaeaf yn hwyrach yn y flwyddyn.
Wel, ddiwedd mis Awst roedd si am Gymro oedd a’i lygad ar gipio’r record, a’i bachu nôl i ddwylo Cymreig. Y rhedwr dan sylw oedd Matthew Roberts o glybiau Calder Valley ac Eryri Harriers, ac ar 30 Awst fe gyflawnodd ei her.
Mi wnes i ysgrifennu darn am y gamp ar y pryd, ac ers hynny dwi wedi bod yn trio trefnu cyfweliad efo fo ar gyfer y podlediad. Mae’r gremlins technoleg wedi’n trechu ni gwpl o weithiau, ond o’r diwedd dyma lwyddo i recordio sgwrs iawn wythnos diwethaf.
Fel y rhan fwyaf o redwyr mynydd go iawn, mae Math yn dipyn o gymeriad ac mi wnes i wir fwynhau’r sgwrs efo fo. Ni rhedwr mynydd mohonof, ond heb os mae’r sgwrs wedi ysgogi mwy fyth o awydd yndda’i i gael ymgais ar y Paddy Buckley ryw ddydd…os alla’i ffeindio rhywrai caredig i ddangos y ffordd (achos dwi’n tueddu i fynd ar goll pan dwi’n rasio oddi-ar y lôn!)
Ta waeth, gobeithio bydd y podlediad diweddaraf yn codi rhyw awydd ynddoch chi hefyd i drio rhywbeth gwahanol.
Cofiwch adael adolygiad ar gyfer y podlediad os oes modd, ac mae croeso mawr i chi gysylltu gyda sylwadau ac awgrymiadau o bobl i’w cyfweld neu ffyrdd y gallwn ni wella’r podlediad.
Mwynhewch y podlediad diweddaraf!
