Ath hi braidd yn dynn yn y diwedd, ond ro’n i’n awyddus iawn i gyhoeddi pennod arall o bodlediad Y Busnes Rhedeg ‘Ma cyn y Nadolig, a nes i fwynhau sgwrsio gyda’r gwestai yn fawr.
Dwi’n gyfarwydd ag enw Elliw Haf ers sawl blwyddyn bellach ac mae hi wedi sefydlu eu hun fel un o redwyr gorau Cymru.
Yn aelod o glwb Harriers Eryri, tydi hi’n ddim syndod ei bod hi’n gryf yn y mynyddoedd ac fe redodd i dîm Cymru yn Ras yr Wyddfa 2018 a 2019 – mae gen i gof bod S4C wedi rhoi sylw arbennig iddi ar y darllediad teledu yn 2018.
Ond nid jyst rhedwr mynydd pur ydy Elliw, mae hi’n gryf iawn ar y trêls a lôn hefyd, ac fe redodd PB o 87:48 ar gyfer hanner marathon lôn i orffen ar y podiwm yn Hanner Marathon Amwythig ym mis Hydref 2019.
Yr hyn nad oedd Elliw’n ymwybodol ohono ar y pryd oedd ei bod hi’n feichiog wrth redeg y PB hwnnw, ac gyrhaeddodd ei phlentyn cyntaf, Mabon, ym mis Mai eleni – reit yng nghanol y clo mawr gwreiddiol.
Ro’n i’n arbennig o awyddus i siarad gydag Elliw gan wybod ei bod hi wedi dal i redeg nes yn hwyr (iawn!) yn ei beichiogrwydd, ac hefyd wedi llwyddo i ail-ddechrau’n fuan ar ôl i Mabon gyrraedd. Mae’n bosib y bydd rhai ohonoch wedi dod ar ei thraws ar y rhaglen ‘Ras y Cewri’ ar S4C a ddarlledwyd fis Hydref a ffilmiwyd ddim ond ychydig fisoedd wedyn.
Mae profiad Elliw fel rhedwraig yn ddifyr, a’i hagwedd at hyfforddi a’r gamp yn gyffredinol yn iach iawn. A dwi’n siŵr hefyd bydd ei chyngor a phrofiad yn ysbrydoliaeth i unrhyw rieni newydd sydd am ddal ati i redeg.
Cerddoriaeth y bennod yma ydy ‘Blwyddyn Arall’ gan Anya, sydd allan rŵan ar label Recordiau Côsh.
Mae’n bennod yma hefyd yn rhoi sylw i ddwy her redeg sy’n digwydd ar hyn o bryd ac yn codi arian at achosion da. Dyma’r dolenni os hoffech chi gyfrannu at yr achosion hynny:
Dyma’r pod isod, neu chwiliwch ar ba bynnag app podledu fyddwch chi’n defnyddio fel arfer. Croeso mawr i chi adael unrhyw sylwadau neu adolygu’r podlediad, a hefyd gysylltu os oes gennych unrhyw awgrymiadau.

Pennod 7 – Elliw Haf – Y Busnes Rhedeg 'Ma
Llun: Elliw yn rhedeg ei chymal ar raglen ‘Ras y Cewri’, S4C. Darllediad i’w weld ar Facebook S4C – https://fb.watch/2yLnLwwqNB/