Dwi wedi bod yn ystyried dechrau podlediad rhedeg Cymraeg ers sawl blwyddyn – ers dechrau gwrando ar bodlediad Marathon Talk tua 2014 neu 2015 mae’n siŵr.
Ma rhywun (neu rydw i beth bynnag!) yn tueddu o dindroi a chwarae gyda syniadau yn hytrach na jyst bwrw mewn i wneud pethau’n syth. O’n i’n aml yn meddwl am fformat podlediad posib yn ystod fy ryn hir, ac am dipyn o amser y bwriad oedd i gael cyfres benodol am gerddorion oedd yn rhedeg a’i alw’n ‘Tempo’ (gweld be o’n i’n gwneud yn fana?)
Ro’n i wedi dechrau llunio rhestr golew o westeion cyn penderfynu bod y syniad braidd yn rhy niche, a bod podlediad Cymraeg am redeg yn beth digon unigryw!
Er hynny, mae’n debyg mai nid damwain ydy’r ffaith mai gwestai diweddaraf podlediad Y Busnes Rhedeg Ma – yr ail o’r gyfres hyd yma…ac mae’n siŵr bydd mwy!
Dwi’n cael y pleser o gwmni Math Llwyd yn y bennod ddiweddaraf – aelod o fand ardderchog Y Reu, ac aelod o glwb rhedeg Harriers Eryri.
Mae Math yn athro yn y Bari, ond hefyd wedi treulio dipyn o amser yn teithio gan ymweld ag Awstralia am gyfnod yn lled ddiweddar.
Er bod Y Reu yn cael rhyw hiatus fach, mae o’n dal i weithio ar ei gerddoriaeth ac yn dal i wneud tipyn gyda’r aelodau eraill. Yn wir, llynedd aeth yr aelodau i gyd ati i ymgymryd â her rhedeg High and Dry er budd elusen Achub Mynydd Llanberis. Mwy am hyn yn y clip Hansh isod (rhybudd iaith gref!)
Eleni, maen nhw wrth eto gyda her debyg, ac yn codi arian at elusen Banc Bwyd Arfon y tro hwn – gallwch gefnogi ar eu tudalen Just Giving.
Yn y pod, mae Math yn trafod yr her, sut aeth ati i ddechrau rhedeg, gwneud Parkruns yn Awstralia, Marathon Rock & Roll Lerpwl a sawl peth arall.
Cerddoriaeth y bennod yma ydy ‘Mhen i’n Troi’ gan Y Reu (wrth gwrs) ond mae rheswm da am hynny gan iddi gael ei defnyddio ar hysbyseb darllediad Ras yr Wyddfa rai blynyddoedd nôl – un o’r goreuon i mi weld ar S4C heb os.
Beth bynnag, gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r sgwrs – mwy o bodlediadau’n fuan, gan obeithio bydd ambell ras i’w trafod yn y dyfodol agos!
