Design a site like this with WordPress.com
Cychwyn arni

Gochelwch rhag y PB Strava!

Dwi’n ail-ymweld â chwpl o bynciau trafod o’r gorffennol ar y blog yma yn y post yma, gan ail-ofyn cwpl o gwestiynau. 

Yn Nhachwedd 2019 (waw, cofio’r dyddiau yna!) mi wnes i redeg pôl piniwn Twitter cyn ysgrifennu darn yn holi beth sy’n cyfri fel ‘PB’, a hynny’n dilyn y newyddion bod cwrs 10k Leeds Abbey Dash y flwyddyn honno’n fyr, a llwyth o redwyr wedi colli yr hyn oedden nhw’n credu oedd yn amseroedd gorau. 

Mae pawb yn wahanol, ond i mi’n bersonol, mae amser gorau, neu PB (personal best) yn gorfod bod mewn ras go iawn ar gwrs wedi’i fesur a’i drwyddedu’n swyddogol (h.y. un sy’n ymddangos ar broffil Power of 10 rhywun – beibl y rhedwyr). Wrth reswm, mae hynny wedi gwneud y flwyddyn ddiwethaf hyd yn oed yn fwy heriol heb unrhyw gyfle i rasio. 

Yn ôl y pôl piniwn bach, ond dethol, ar Twitter roedd 34.6% o’r un farn a mi. Yr ail ddewis mwyaf poblogaidd oedd ‘Pan ma Strava’n deud’ gyda 26.9% o’r bleidlais. 

Dwi’n parchu’r farn honno, yn enwedig os ydy rhywun yn mesur eu gwelliant personol ar yr un cwrs er enghraifft, ond os oes un peth mae’r holl rasio rhithiol wedi cadarnhau dros y flwyddyn ddiwethaf yna’r ffaith bod GPS a Strava ddim wastad yn dweud y stori’n llawn ydy hwnnw. 

Dwi am gyfeirio nôl fan hyn at flog am y ‘Ross Barkley 5K’ ym mis Ebrill 2020 oedd yn trafod a oedd y pêl-droediwr wir wedi rhedeg 5k mewn amser trawiadol o 16:11. Ro’n i’n amheus ar y pryd, ac mae ymchwil pellach wedi awgrymu’n gryf iawn ei fod wedi stopio ei oriawr i ddal ei wynt am gyfnodau yn ystod ei ymdrech! 

Stori fawr oedd yn pontio’r byd seiclo a rhedeg rhyw bythefnos nôl oedd honiad y seiclwr traws ardderchog Tom Pidcock ei fod wedi llwyddo i redeg 5k mewn 13:25 – 5 eiliad yn fyr o record Prydeinig Marc Scott ar gyfer y pellter ar y lôn, a 34 eiliad yn arafach na record byd Joshua Cheptegei

Mae seiclwyr elite yn hynod o ffit wrth gwrs, a seiclwyr traws yn gorfod bod yn rhedwyr cryf hefyd, ond 13:25 ar ben ei hun, rownd strydoedd lleol….hmmm.

Un seiclwr sy’n gwybod ei stwff am redeg ydy Michael Woods o Ganada, oedd yn rhedwr o safon uchel iawn cyn troi at seiclo, ac fe wnaeth ei farn yn glir

Mae ‘na ambell gyfrif Twitter wedi cael dipyn o hwyl dros y flwyddyn ddiwethaf yn gwrthbrofi honiadau o gampau rhedeg rhyfeddol ar Strava – @stravawankers ydy’r amlycaf. 

Mae Strava wedi’i gwneud hi’n haws sgriwtineiddio’r honiadau yma ers dechrau’r Clo Mawr, gan wneud gwybodaeth am bethau fel ‘elapsed time’ ac ystadegau eraill sesiynau pobl yn agored. Roedd hyn wrth gwrs yn angenrheidiol gyda’r twf cyflym mewn rasio rhithiol er mwyn lleihau’r cyfleoedd i dwyllo.

Mae cyfrif newydd wedi mynd â phethau gam ymhellach na @stravawankers, sef @stravapoliceUK (gyda diolch i Rhys James am dynnu fy sylw at hwn).

Aeth pwy bynnag sy’n gyfrifol am y cyfrif hwn allan gydag olwyn fesur er mwyn mesur cwrs ‘5k Pidcock’ yn gywir, a chanfod bod ei bellter yn fyr, gan amcangyfrif mai 15:38 fyddai ei amser petai wedi rhedeg y pellter yn llawn. Mae hyn dal yn gyflym iawn wrth gwrs, ond yn amser byddai rhedwr clwb o safon uchel yn ei redeg, ac ymhell iawn o unrhyw record Prydeinig neu byd!

Allwn ni ddim bod 100% yn sicr bod @StravaPoliceUK wedi mynd ati i wneud hyn go iawn wrth gwrs, felly mae angen pinsied o halen, ond maen nhw wedi cyhoeddi fideo fel rhyw fath o brawf. 

Mae oriawr GPS yn arf hyfforddi gwych, ac yn sicr y ffordd dda o fonitro gwelliant personol. Wedi dweud hynny, mae’n hysbys iawn nad ydy’r dechnoleg bob amser yn gywir o bell ffordd, ac mae pethau fel adeiladau, coed uchel a chyrsiau gyda lŵps niferrus (fel un Pidcock) yn gallu drysu’r GPS yn lân. 

Felly, lle mae hyn yn gadael pawb sydd wedi bod yn hawlio PBs diolch i’w hamseroedd a phellteroedd Strava a GPS dros y flwyddyn ddiwethaf? 

Wel, mae fy marn i’n parhau gyson – mae GPS a Strava yn grêt ar gyfer monitro eich sesiynau a chynnal TTs (time trials) personol, a mesur gwelliant, ond dylid gochel rhag hawlio neu frolio unrhyw PBs ‘swyddogol’.

Anghofiwch y dywediad “Os dio ddim ar Strava, nath o ddim digwydd”, efallai mai  gwell fyddai “Os dio ddim ar Power of 10, dio ddim yn PB.”

Cyhoeddwyd gan Owain Schiavone

Boi bach o bob dim!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: