Gobeithio bod pawb bellach wedi cael cyfle i wrando ar ar y bennod ddiweddaraf o’r podlediad, a rhan gyntaf y sgwrs gyda Nia a Dai o bod Nawr yw’r Awr.
Dyma ail ran y sgwrs lle rydyn ni’n troi i drafod heriau rhedeg Dai dros y misoedd diwethaf, sy’n cynnwys marathon treadmill, rhedeg Llwybr Arfordir Ceredigion, a’r un mwyaf gwallgof, Rhedeg yr Adfent!
Rydyn ni hefyd yn cael cyfle i drafod beichiogrwydd Nia, a’r modd mae hi’n llwyddo i ddal ati i hyfforddi. Mae’r sgwrs yn ddilyniant bach da i’r podlediad a recordiwyd gydag Elliw Haf cyn y Nadolig – gwerth gwrando nôl os nad ydych wedi clywed hwn yn barod.
Cofiwch ddilyn Nawr yw’r Awr ar Twitter (@nawrywrawr) ac eu hoffi ar Facebook a chwiliwch am y pod ar eich chwaraewr podlediadau.
Cerddoriaeth y bennod: ‘Rhwng Dau’ gan Sywel Nyw gyda Casi Wyn (allan ar label Lwcus T)
