Wedi cryn edrych ymlaen a dyfalu, o’r diwedd mae’r rhestr o redwyr wedi’i gyhoeddi ar gyfer y treialon i ddewis pwy fydd yn cynrychioli Prydain yn Marathon Gemau Olympaidd Tokyo.
Oherwydd cyfyngiadau Covid, nifer fach o redwyr elite fydd yn rhedeg yn y ras arbennig yng ngerddi Kew ddydd Gwener nesaf, 26 Mawrth. Ond y newyddion da ydy bod digon o ddiddordeb Cymreig ymysg y dynion a’r merched i’n cadw ni’n ddiddig.
Mae’r ddwy ras yn edrych yn hollol agored hefyd – mae unrhyw beth yn bosib dros bellter y marathon, ac mae hynny’n arbennig o wir yn yr achos yma gydag ychydig iawn o gyfleodd wedi bod i rasio, a’i bod felly bron yn amhosib gwybod sut siap sydd ar y rhedwyr.
Wedi dweud hynny, os ydy’r hyfforddi wedi mynd yn dda yna mae cyfle gwirioneddol gan rai o’r Cymry greu argraff, a hyd yn oed fachu lle ar yr awyren i Tokyo fis Gorffennaf yma.
Y drefn
Cyn trafod y rhedwyr, dyma geisio crynhoi’r sefyllfa a sut mae modd ennill lle yn nhîm Prydain ar gyfer y Marathon yn Siapan.
Yn gryno, bydd y ddau gyntaf yn y ddwy ras yn ennill lle yn nhîm Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd ar yr amod eu bod nhw eisoes wedi, neu yn llwyddo i redeg yr amser cymwys. Yr amser hwnnw ar gyfer y merched ydy 2:29:30, ac yna 2:11:30 ar gyfer y dynion.
Mae dwy ferch yn y ras sydd eisoes wedi rhedeg yr amser angenrheidiol yn ddigon diweddar sef Steph Davies (a redodd 2:27:40 ddiwedd 2019) a Jess Piasecki (a redodd 2:25:28 ym Marathon Fflorens yn 2019). Os ydy’r ddwy yma yn y ddau safle cyntaf yna maen nhw’n sicr o’u lle yn Tokyo. Felly y flaenoriaeth i’r merched ydy gorffen o flaen Davies a Piasecki, ond mae hefyd angen iddyn nhw redeg o dan 2:29:30 wrth wneud hynny gyda chyfleodd yn brin i wneud hynny mewn ras arall cyn mis Gorffennaf.
O ran y dynion, dim ond un rhedwr yn y ras sydd wedi rhedeg yr amser cymwys sef Ben Connor a redodd yr amser ym Marthon Elite Llundain fis Hydref diwethaf. Llwyddodd Jonny Mellor i’w guro y diwrnod hwnnw, ond yn anffodus mae’r athletwr Harriers Lerpwl wedi’i anafu ac yn methu rhedeg yn Kew.

Mae un rhedwr eisoes wedi ei ddewis i’r tîm yn barod sef Callum Hawkins – heb os y rhedwr marathon gorau o Brydain ers blynyddoedd, ar wahan i Mo Farah. Bydd Hawkins ar y llinell ddechrau gyda llaw, ond yn rhedeg fel pacemaker yn unig gyda disgwyl iddo osod y cyflymder hyd nes 30k. Mae Jake Smith, fu’n Gymro am gyfnod byr (!) hefyd yn pacemaker.
Tom Bedford, sy’n drefnydd rasys profiadol iawn, ydy cyfarwyddwr y ras ac mae wedi mynd i ati i geisio sicrhau cwrs mor gyflym â phosib o fewn cyfyngiadau Covid. Mae’r cwrs yn cynnwys un lap bach, ac yna 12 lap mwy sy’n tua 3.3km yr un – efallai bod hynny’n swnio’n ddiflas, ond fe ddylai ei gwneud hi’n haws i’r rhedwyr gynnal cysondeb eu cyflymder.
Ras y Merched
Os rhywbeth, mae ras y merched yn fwy cystadleuol nag un y dynion, ac mae pedwar enw Cymreig i chi gadw golwg amdanyn nhw sef Charlotte Arter, Natasha Cockram, Clara Evans a Rosie Edwards.
Efallai mai Charlotte Arter ydy’r enw amlycaf o safbwynt y Cymry. Arter sydd wedi arwain y gad o ran rhedeg pellter merched Cymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf – nes yn ddiweddar iawn roedd hi’n dal record y byd ar gyfer Parkrun (15:49 yn Parkrun Caerdydd) a hi oedd pencampwr Prydain ar gyfer y 10,000m yn 2018. Ond, ac mae hwn yn ‘ond’ mawr, dyma fydd y tro cyntaf iddi rasio pellter y marathon.
Wedi dweud hynny, mae Arter wedi torri 70 munud ar gyfer ½ Marathon (69:40) felly mae’r potensial yn sicr ganddi i gystadlu dros y pellter hirach. Roedd yn ddifyr clywed Martin Yelling ar bodlediad Marathon Talk wythnos diwethaf yn darogan mai Arter fyddai’n ennill – rhedodd ei wraig, Liz, ddwy waith yn y Gemau Olympaidd felly mae’n gwybod ei stwff. Mae amheuaeth bach dros ei ffitrwydd hefyd ar ôl iddi fethu â gorffen y ras 10,000m elite diweddar a drefnwyd gan Athletau Cymru yng Nghasnewydd.
Un arall sydd â chyfle gwirioneddol o orffen yn y ddau safle uchaf ydy Natasha Cockram o glwb rhedeg Micky Morris. Cockram ydy pencampwraig Prydain ar gyfer y marathon ar hyn o bryd ar ôl ei buddugoliaeth yn Llundain fis Hydref. 2:33:19 oedd ei hamser bryd hynny, ond roedd yr amgylchiadau’n arbennig o heriol i’r merched yn enwedig. Ei hamser blaenorol o 2:30:49 ydy record Cymru, ac os allai hi dynnu 80 eiliad oddi-ar yr amser hwnnw byddwn ni’n debygol o’i gweld yn Tokyo.
Mae Clara Evans i’w gweld yn mynd o nerth i nerth ac fe alla’i fod yn un i’w gwylio, yn enwedig ar ôl rhedeg PB enfawr ar gyfer y 10,000m yng Nghasnewydd i orffen yn drydydd ddechrau’r mis. Amser gorau Evans ar gyfer y marathon ydy 2:46:03, sy’n bell o’r hyn sydd angen arni er mwyn cyrraedd Tokyo. Ond, mae’r PB hwnnw’n bedair blwydd oed ac ers hynny mae hi wedi rhedeg 33:07 ar gyfer 10k a 72:21 ar gyfer Hanner Marathon, ac yn sicr wedi cryfhau tipyn.
Mae Rosie Edwards yn enw reit anghyfarwydd i mi, a hynny mae’n debyg gan ei bod yn byw yn yr Unol Daleithiau ers sawl blwyddyn. Er hynny, mae’r Gymraes yn gwneud yr ymdrech i deithio draw ar gyfer y ras ac wedi rhedeg PB newydd o 72:24 yn y Las Vegas Gold Half Marathon fis Ionawr, felly’n amlwg mewn siap da. Ei hamser gorau ar gyfer y marathon llawn hyd yma ydy 2:40:49 – yn rhyfedd iawn fe redodd yr union amser hwnnw yn Llundain yn 2017, a hefyd yn Frankfurt y flwyddyn ganlynol – dyna be ‘di cysondeb!
Ras y Dynion
Mae tri enw cyfarwydd iawn o Gymru’n cystadlu yn ras y dynion, sef Dewi Griffiths, Josh Griffiths ac Andrew Davies.
Mae Dewi Griffiths yn un o’r ffefrynnau ar gyfer y ras ymysg y gwybodusion, a hynny’n ddim synod ag yntau wedi rhedeg 2:09:49 yn ei farathon cyntaf erioed yn Frankfurt nôl yn 2017 – dyma’r amser cyflyma’ o ddigon gan unrhyw un sy’n rhedeg. Yn anffodus mae’r gŵr o Sir Gâr wedi bod yn anlwcus iawn gydag anafiadau a salwch ers hynny, ond rhaid cofio ei fod wedi rhedeg 2:11:46 yn Llundain yn 2019 ar ddiwrnod ‘gwael’. Os ydy o’n gallu rhedeg 16 eiliad yn arafach na’r amser sydd angen ar ddiwrnod gwael yna does dim amheuaeth y gall ennill ei le yn y tîm.
Gorffennodd Dewi’n drydydd yn 10,000m Athletau Cymru ddechrau’r mis mewn 28:45.72 sy’n amser soled ar gyfer ras ‘tune up’. Os ydy ei floc hyfforddi wedi mynd yn dda, yna mae gen i bob ffydd ynddo.
Mae cyd aelod Dewi yn Harriers Abertawe, Josh Griffiths, yn geffyl tywyll ac yn un i gadw golwg arno. Ffrwydrodd Josh i amlygrwydd ym Marathon Llundain 2017 wrth gipio Pencampwriaeth Prydain, ac ennill ei le ym Mhencampwriaethau’r Byd y flwyddyn honno. Hon oedd ei farathon cyntaf, ac yn sicr mae Josh wedi cael tipyn mwy o brofiad dros y pellter ers hynny, ac yn cryfhau trwy’r amser. Roedd ei 2:13:11 i orffen yn drydydd Prydeiniwr yn Llundain llynedd yn arbennig o drawiadol gan iddo gryfhau yn ystod y ras, a hynny mewn amgylchiadau anodd. Bydd y profiad o redeg cwrs aml lŵp a gafodd bryd hynny’n un gwerthfawr ar gyfer Kew hefyd gan bod y cwrs dros 12 lap.
Ac yna beth am obeithion y bytholwyrdd Andrew Davies? Dwi’n ffan mawr o’r gŵr o Faldwyn, ac yn gobeithio gall greu argraff. Ei amser gorau ar gyfer y marathon ydy 2:14:36, a bydd angen tynnu dros dair munud oddi-ar yr amser hwnnw i ennill ei le yn Tokyo. Er hynny, mae i’w weld yn cryfhau wrth heneiddio ac roedd ei PB yn Valencia ddiwedd 2019 yn record Brydeinig i ddynion dros 40 oed ac mae wedi rhedeg ei amseroedd cyflyma’ dros 5k a 5 milltir ers hynny!
Mae’n siŵr bydd un llygad gan Davies, a’r ddau Griffiths hefyd yn hynny o beth, ar Gemau’r Gymanwlad blwyddyn nesaf lle mae angen rhedeg 2:15:30 i gael eich hystyried ar gyfer tîm Cymru yn y Marathon. Mae’n siŵr bod hyn yn wir ymysg y merched hefyd – 2:35:30 ydy’r amser sydd angen iddyn nhw redeg.
Dim darogan
Gyda’r amgylchiadau mor anghyffredin, dwi ddim am drio darogan canlyniad y ddwy ras ddydd Gwener – gyda chyn lleied o rasio diweddar, mae’n anodd iawn barnu sut siap sydd ar y rhedwyr.
Wedi dweud hynny, byddai’n braf cael o leiaf un Cymro neu Gymraes i’w cefnogi yn marathon y Gemau Olympaidd eleni, yn enwedig gan bod safon ein athletwyr mor uchel dros y pellter ar hyn o bryd. Gan obeithio peidio temptio ffawd yn ormodol, dwi wir yn credu bod cyfle da iawn y gwelwn ni hynny.
Bydd modd gwylio ffrwd byw o’r marathon fore dydd Gwener am 08:00 ar wefan British Athletics.
Dyma restr lawn y rhedwyr sy’n mynd amdani.
