Design a site like this with WordPress.com
Cychwyn arni

Podlediad 10 – Andrew Davies

Roedd hi’n wythnos reit gyffrous i ffans rhedeg wythnos diwethaf wrth i dreialon tîm Prydain ar gyfer y marathon gael eu cynnal yng Ngerddi Kew ddydd Gwener diwethaf (26 Ebrill).

Gobeithio bod rhai ohonoch chi wedi cael cyfle i ddarllen y rhagolwg ar y blog, a bod hynny wedi codi blýs arnoch chi am y ras gyda saith o Gymry’n cystadlu rhwng y dynion a’r merched. 

Un o’r rhain oedd Andrew Davies o Faldwyn, sy’n un o redwyr marathon gorau Cymru ers sawl blwyddyn bellach ac wedi gwisgo’r fest coch yng Ngemau’r Gymanwlad ddwy waith, yn ogystal â chynrychioli Prydain ym Mhencampwriaethau Athletau’r Byd yn Athen yn 2017. Mae o hefyd yn dal y record Brydeinig ar gyfer y marathon i ddynion dros 40 oed

Dwi wedi bod isio trefnu sgwrs gydag Andy ers tro byd felly roedd hi’n gyfle perffaith i’w wahodd ar y podlediad ar ôl y ras ddydd Gwener. Cafodd Andy ras soled, gan orffen yn seithfed mewn 2:15:50 – amser ardderchog dan yr amgylchiadau, ond ychydig yn arafach na’r 2:15:30 byddai wedi gobeithio rhedeg, sef yr amser mae tîm Cymru’n gofyn amdano ar gyfer Gemau’r Gymanwlad blwyddyn nesaf. Daw cyfle arall yn fuan, ac mae hyn yn codi yn y sgwrs. 

Doedd dim lwc i’r Cymry eraill yn Kew chwaith o ran cyrraedd y Gemau Olympaidd yn anffodus. Natasha Cockram ddaeth agosaf gan orffen yn ail i’r Albanes Steph Davies mewn 2:30:02 – roedd ei safle’n ddigon da i gael ei dewis, ond yn anffodus yr amser yn 32 eiliad yn arafach na’r hyn oed yn ofynol. Mor, mor agos ond gobeithio y gall fodlonni gyda record Gymreig newydd. 

Yn ras y merched hefyd roedd PBs enfawr i Rosie Edwards oedd yn drydydd mewn 2:31:56, ac i Clara Evans yn y pumed safle mewn 2:32:42. Yn anffodus ni lwyddodd Charlotte Arter i orffen y ras ond fe ddaw ei hamser hithau eto. 

Dewi Griffiths oedd y gobaith gorau yn ras y dynion, ac roedd yn edrych yn hynod o gryf nes 30k. Yn anffodus fe gollodd fomentwm dros y 5k canlynol a llithro oddi ar gefn y grŵp blaen wrth i Chris Thompson gipio buddugoliaeth anhygoel. Gorffennodd Dewi’n bedwerydd mewn 2:13:42, ond roedd arwyddion clir ei fod yn dechrau dod dros ei broblemau salwch ac anafiadau diweddar. 

Roedd ei gyd-aelod o Harriers Abertawe, Josh Griffiths yn bumed mewn 2:15:08 felly ymdrech dda arall iddo yntau dros y pellter. 

Felly tair merch yn y pump uchaf, a thri dyn yn y saith uchaf – ddim yn ddrwg o gwbl i genedl fach ac mae gobaith gwirioneddol am fedal neu ddwy yn Gemau’r Gymanwlad 2022. Yn fy marn i ,mae llawer o’r diolch i Andrew Davies, oedd yn cario’r fflam Gymreig dros bellter y marathon am sawl blwyddyn nes yn ddiweddar – dwi’n weddol siŵr ei fod wedi helpu ysbrydoli’r holl Gymry sy’n llwyddo cystal erbyn hyn. 

Roedd yn bleser pur cael sgwrsio gydag o, mwynhewch y podlediad!

Pennod 1 (cyfres 2) – Dyfed Whiteside-Thomas Y Busnes Rhedeg 'Ma

Mae'r podlediad yn ôl yn dilyn saib fach, a gwestai cyntaf yr ail gyfres ydy ffrind mawr i'r pod, Dyfed Whiteside-Thomas. Mae Dyfed yn aelod o Glwb Harriers Eryri, ac yn bennaf gyfrifol am y 'Sesiwn Elltydd' enwog (Thursday Night Hills) yn Llanberis. Mae hefyd yn rhedwr arbennig ac rydan ni'n sgwrsio'n fuan ar ôl iddo redeg marathon wych yng Nghasnewydd gan orffen mewn 2:43:57 – y Cymro cyntaf yn ei gategori oedran, sy'n ei wneud yn bencampwr M45 Cymry yn ein tyb ni, gan bod y ras yn Bencampwriaeth Meistri Cymru eleni (canlyniadau llawn). Sgwrs ddifyr, gyda boi da.  Cyfle hefyd i grynhoi canlyniadau rhywfaint o'r rasys sydd wedi bod yn ddiweddar, wrth i bethau ail-ddechau o ddifrif. Lot mwy o hyn yn y gyfres gobeithio.  Cerddoriaeth y bennod yma ydy 'Dyma Kim Carsons' gan y grŵp newydd o ardal Pontypridd, Y Dail. Allan yn ddigidol rŵan. 
  1. Pennod 1 (cyfres 2) – Dyfed Whiteside-Thomas
  2. Pennod 13 – Adolygiad efo Arwel
  3. Pennod 12 – Dr Ioan Rees
  4. Pennod 11 (Rhan 2) – Angharad Mair
  5. Pennod 11 (Rhan 1) – Angharad Mair

Cyhoeddwyd gan Owain Schiavone

Boi bach o bob dim!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: