Dwi wedi bod yn chwarae efo’r syniad o lansio podlediad rhedeg ers sawl blwyddyn, a threulio sawl ryn hir yn pendroni dros enwau pobl i’w cyfweld.
Yn ddi-ffael, roedd un enw bob amser yn agos at frig y rhestr – Angharad Mair.
Mae Angharad wrth gwrs yn fwyaf cyfarwydd fel cyflwynwraig deledu fwyaf adnabyddus Cymru. Teg dweud ei bod yn gyfrannwr ac adolygydd papurau digon di-flewin ar dafod i Radio Cymru hefyd.
Ond mae’n siŵr bydd y mwyafrif o bobl sy’n darllen y blog yma’n ymwybodol ei bod hi hefyd yn rhedwraig dda iawn, er efallai ddim yn gwbl ymwybodol o’i llwyddiant yn y maes dros y blynyddoedd.
Er mai dechrau rhedeg yn gymharol hwyr mewn bywyd wnaeth Angharad, roedd cyflymder ei datblygiad, a’r llwyddiant rhyngwladol a ddaeth yn sgil hynny’n ddigon syfrdanol.
Mae ei hamser gorau o 2:38:47 dros bellter y marathon ym 1996 yn dal i’w gosod yn y 10 Uchaf o ferched Cymreig erioed, ac fe gafodd y cyfle i redeg ym Mhencampwriaethau Athletau’r Byd yn Athen y flwyddyn ganlynol. Roedd hi hefyd yn bencampwraig Cymru dros bellteroedd llai fel y 5k, a hefyd mewn traws gwlad.
Er iddi roi’r gorau i redeg am 15 mlynedd flwyddyn yn dilyn anaf ym 1998, fe ail-gydiodd ynddi fel rhedwr hŷn, a llwyddo i dorri record Ewrop yn y categori oedran V55!
Felly roedd yn bleser mawr cael cyfle am sgwrs iawn gydag Angharad am ei hanes a phrofiadau dros y blynyddoedd. Gan bod cymaint o hanesion difyr, a jyst pethau difyr ganddi i’w dweud yn gyffredinol, dwi wedi penderfynu cyhoeddi’r cyfweliad fel pennod ddwy ran.
Yn y gyntaf, rydan ni’n canolbwyntio ar sut y decheuodd redeg, a sut y datblygodd i fod yn rhedwraig marathon gorau Cymru, a Phrydain. Bydd yr ail ran yn cael ei gyhoeddi wythnos nesaf, felly cadwch olwg am hwnnw’n fuan.
Cerddoriaeth y bennod yma ydy sengl Griff Lynch, ‘Os Ti’n Teimlo’, sydd allan ar label Lwcus T nawr. Mwy o wybodaeth ar wefan Y Selar.
