Design a site like this with WordPress.com
Cychwyn arni

Uchafbwyntiau Athletau’r Gemau Olympaidd

Gan fy mod i wedi crybwyll gwneud hynny ar bodlediad diweddaraf Y Busnes Rhedeg Ma, ro’n i’n meddwl bod hi’n well i mi gyhoeddi darn bach yn crynhoi amserlen rhai o uchafbwyntiau athletau’r Gemau Olympaidd yn Siapan. 

Mae’r athletau’n dechrau yfory, a llwyth o bethau difyr i gadw golwg arnyn nhw. Gan mai blog rhedeg ydy hwn, dwi’n canolbwyntio ar y rasys rhedeg pellter canol a hir…ond gydag ambell beth bach arall ddylai fod yn hwyl!

Heb os mae’r cwpl o ddyddiau olaf yn llawn dop o rowndiau terfynol cyffrous, ond mae digon o ddanteithion dyddiol cyn hynny hefyd. 

Dyma ddetholiad o’r hyn y dylech gadw golwg amdano felly (amseroedd GMT):

Gwener 30 Gorffennaf  

1:55 – 800m Merched (rownd ragbrofol)

11:00 – 5000m Merched (rownd ragbrofol)

12:00 – 4 x 400m cymysg (rownd ragbrofol)

12:30 – 10,000m Dynion (y ffeinal)

Uchafbwynt y diwrnod cyntaf heb os ydy rownd derfynol 10,000m y dynion. All unrhyw un ddod yn agos at yr anhygoel Joshua Cheptegei o Uganda, pencampwr y byd 2019, record y byd 5000m, record y byd 10,000m a record y byd 10k ar y ffordd! Does dim Mo Farah y tro yma, ond mae’n werth cadw golwg ar y sais Mark Scott sy’n mynd o nerth i nerth. Jacob Kiplimo  o Uganda a Geoffrey Kamworor o Kenya fydd y prif fygythiad i Cheptegei. 

Bydd hi’n ddifyr gweld yr Albanes Eilish McColgan yn dechrau ei hymgyrch yn y 5000m, ac mae’r 800m i ferched yn hynod gystadleuol….ond bydd rhaid chi aros fyny’n hwyr, neu godi’n gynnar iawn!

Sadwrn 31 Gorffennaf

1:50 – 800m Dynion (rownd ragbrofol)

12:50 – 800m Merched (rwond gyn-derfynol) 

13:35 – 4 x 400m Cymysg (rownd derfynol) 

13:50 – 100m Merched (Rownd derfynol) 

Dwi wrth fy modd efo’r 4 x 400m, does dim ras debyg o ran cyffro ac mae fformat y timau cymysg yn gwneud hi hyd yn oed yn fwy diddorol! 

Sul 1 Awst

1:40 – 3000m Steeplechase Merched (rownd ragbrofol)

12:25 – 800m Dynion (rownd gyn-derfynol)

13:05 – 400m dros y clwydi Dynion (rownd gyn-derfynol)

13:50 – 100m dynion (rownd derfynol)

Diwrnod cymharol dawel o ran uchafbwyntiau, ond bydd ffeinal y 100m yn siŵr o ddenu sylw’r cyfryngau. 

Llun 2 Awst

1:35 – 1500m Merched (rownd ragbrofol)

2:30 – 200m Merched (rownd ragbrofol)

12:05 – 400m Dynion (Rownd gyn-derfynol)

12:35 – 400m dros y clwydi Merched (rownd gyn-derfynol)

13:15 – 3000m Steeplechase Dynion (ROWND DERFYNOL)

13:40 – 5000m Merched (ROWND DERFYNOL)

Diwrnod mawr i ferched yr Alban gyda chyfle cyntaf i weld Laura Muir yn y 1500m, a gobeithio, Eilish McColgan yn ffeinal y 5000m.

Mawrth 3 Awst

1:05 – 1500m Dynion (rownd ragbrofol)

4:20 – 400m dros y clwydi Dynion (ROWND DERFYNOL)

12:00 – 5000m Dynion (rownd gyn-derfynol)

13:25 – 800m Merched (ROWND DERFYNOL)

13:50 – 200m Merched (ROWND DERFYNOL)

Cyfle cyntaf i weld y Cymru Jake Hayward yn y 1500m, a gobeithio gall roi perfformiad da. 

Heb os yr 800m i ferched ydy uchafbwynt y dydd gyda’r Albanes Jemma Reekie ymysg y ffefrynnau. Mae’r Americanwyr Ajee Wilson a Raevyn Rogers yn gryf iawn, a hefyd y merched o Uganda, Hamilah Nakaayi a Winnie Nanyondo. 

Mercher 4 Awst 

1:00 – Dechrau Decathlon y Dynion a Heptathlon y Merched

3:30 – 400m dros y clwydi Merched (ROWND DERFYNOL)

11:00 – 1500m Merched (rownd gyn-derfynol)

12:00 – 3000m Steeplechase Merched (ROWND DERFYNOL)

12:55 – 200m Dynion (ROWND DERFYNOL)

Edrych mlaen i weld mwy o rasio 1500m y merched, a hefyd ffeinal y 3000m Steeplechase i ferched. 

Iau 5 Awst

2:00 – 4 x 100m Merched (rownd ragbrofol)

3:30 – 4 x 100m  Dynion (rownd ragbrofol)

3:55 – 110m dros y clwydi Dynion (ROWND DERFYNOL)

8:30 – 20k cerdded Dynion (ROWND DERFYNOL)

12:00 – 1500m Dynion (rownd gyn-derfynol)

13:00 – 400m Dynion (ROWND DERFYNOL)

13:30 – Gorffen Decathlon / Heptathlon

Dwi’n methu peidio rhyfeddu at ddoniau’r athletwyr Decathlon a Heptathlon, ac mae’r ail ddiwrnod o gystadlu bob amser yn uchafbwynt. 

Gwener 6 Awst

12:25 – 4 x 400m Dynion (rownd ragbrofol)

13:00 – 5000m Dynion (ROWND DERFYNOL)

13:35 – 400m Merched (ROWND DERFYNOL)

13:50 – 1500m Merched (ROWND DERFYNOL)

14:30  – 4 x 100m Merched (ROWND DERFYNOL)

14:50 – 4 x 100m Dynion (ROWND DERFYNOL)

Ail fedal aur i Cheptegei? Kimeli o Kenya a Katir o Sbaen fydd y prif wrthwynebwyr mae’n siŵr. 

Dwi’n methu aros i weld y rasio 1500m i ferched, ac fel ffan mawr o redeg dewr Laura Muir dwi’n gobethio caiff yr Albanes lwyddiant. 

Sadwrn 7 Awst

Tua 1:15 – Diwedd Marathon y Merched (sy’n dechrau am 23:00 nos Wener)

11:45 – 10,000 Merched  (ROWND DERFYNOL)

12:40 – 1500m Dynion (ROWND DERFYNOL)

13:30 – 4 x 400m Merched (ROWND DERFYNOL)

13:50 – 4 x 400m Dynion (ROWND DERFYNOL)

Clamp o sesiwn i orffen yr athletau ar y trac. Bydd Marathon y merched yn ddifyr – brwydr ddwy ffordd rhwng Brigid Kosgei a Ruth Cheongetich neu all rhywun fel Lonah Salpeter o Israel ysgwyd y gert? 

Bydd Jake Hayward wedi gwneud yn rhyfeddol o dda i gyrraedd ffeinal y 1500m, ond pwy a wyr! Tomothy Cheruiyot o Kenya, Marcin Lewandowski o Wlad Pwyl a’r anhygoel Jakob Ingebrigtsen ydy’r enwau amlycaf i gadw golwg arnyn nhw. 

Mae 10,000m y merched yn debygol o fod yn gyffrous hefyd gyda’r frwydr rhwng Letesenbet Gidey a Sifan Hassan o’r Iseldiroedd yn dod a dŵr i’r dannedd! 

Sul 8 Awst

Tua 1:05 – Diwedd Marathon y Dynion (sy’n dechrau am 23:00 nos Sadwrn)

Methu aros i weld Eliud Kipchoge’n rasio eto ar ôl siom Marathon Llundain 2020. One off oedd y ras honno yn fy marn i ac fe welwn ni y rhedwr marathon gorau erioed yn cipio aur. Shura Kitata, enillydd Marathon Llundain 2020, Lawrence Cherono o Kenya a Sisay Lemma o Ethiopia sy’n fwyaf tebygol o frwydro am y medalau hefyd. 

Cyhoeddwyd gan Owain Schiavone

Boi bach o bob dim!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: