Gan fy mod i wedi crybwyll gwneud hynny ar bodlediad diweddaraf Y Busnes Rhedeg Ma, ro’n i’n meddwl bod hi’n well i mi gyhoeddi darn bach yn crynhoi amserlen rhai o uchafbwyntiau athletau’r Gemau Olympaidd yn Siapan. Mae’r athletau’n dechrau yfory, a llwyth o bethau difyr i gadw golwg arnyn nhw. Gan mai blog rhedegParhau i ddarllen “Uchafbwyntiau Athletau’r Gemau Olympaidd”
Archifau Awdur: Owain Schiavone
Y ras gyntaf nôl – Marathon Elite Swydd Gaer
Mae’n anodd gwybod lle i ddechrau. Ras gyntaf ers dros bron 14 mis! Y tro cyntaf allan o Geredigion ers dros flwyddyn! Marathon cyntaf erioed! Wrth i’r llwch setlo, a’r cyhyrau poenus ddechrau llacio, mae’n anodd crynhoi’r teimladau. Er mor naff mae hyn yn mynd i swnio…mae o’n teimlo bach fel breuddwyd. Nid dyma oeddParhau i ddarllen “Y ras gyntaf nôl – Marathon Elite Swydd Gaer”
Podlediad 11 – Angharad Mair
Dwi wedi bod yn chwarae efo’r syniad o lansio podlediad rhedeg ers sawl blwyddyn, a threulio sawl ryn hir yn pendroni dros enwau pobl i’w cyfweld. Yn ddi-ffael, roedd un enw bob amser yn agos at frig y rhestr – Angharad Mair. Mae Angharad wrth gwrs yn fwyaf cyfarwydd fel cyflwynwraig deledu fwyaf adnabyddus Cymru.Parhau i ddarllen “Podlediad 11 – Angharad Mair”
Podlediad 10 – Andrew Davies
Roedd hi’n wythnos reit gyffrous i ffans rhedeg wythnos diwethaf wrth i dreialon tîm Prydain ar gyfer y marathon gael eu cynnal yng Ngerddi Kew ddydd Gwener diwethaf (26 Ebrill). Gobeithio bod rhai ohonoch chi wedi cael cyfle i ddarllen y rhagolwg ar y blog, a bod hynny wedi codi blýs arnoch chi am y rasParhau i ddarllen “Podlediad 10 – Andrew Davies”
Hawl i heddwch ar yr hewl #ReclaimTheseStreets
Byth ers clywed y newyddion am hanes hynod o drist Sarah Everard yn gynharach yn y mis, mae diogelwch merched ar y strydoedd, a’r ymddygiad mae merched wedi gorfod dioddef yn gyffredinol gan ddynion wedi pwyso’n drwm ar fy meddwl. Fel llawer iawn dwi’n siŵr, dwi’n aml yn defnyddio rhedeg fel cyfle i glirio’r meddwl, neu o leiafParhau i ddarllen “Hawl i heddwch ar yr hewl #ReclaimTheseStreets”
Rhagolwg treialon Marathon y Gemau Olympaidd
Wedi cryn edrych ymlaen a dyfalu, o’r diwedd mae’r rhestr o redwyr wedi’i gyhoeddi ar gyfer y treialon i ddewis pwy fydd yn cynrychioli Prydain yn Marathon Gemau Olympaidd Tokyo. Oherwydd cyfyngiadau Covid, nifer fach o redwyr elite fydd yn rhedeg yn y ras arbennig yng ngerddi Kew ddydd Gwener nesaf, 26 Mawrth. Ond yParhau i ddarllen “Rhagolwg treialon Marathon y Gemau Olympaidd”
Podlediad 9 (Rhan 2) – Nia Davies a David Cole
Gobeithio bod pawb bellach wedi cael cyfle i wrando ar ar y bennod ddiweddaraf o’r podlediad, a rhan gyntaf y sgwrs gyda Nia a Dai o bod Nawr yw’r Awr. Dyma ail ran y sgwrs lle rydyn ni’n troi i drafod heriau rhedeg Dai dros y misoedd diwethaf, sy’n cynnwys marathon treadmill, rhedeg Llwybr ArfordirParhau i ddarllen “Podlediad 9 (Rhan 2) – Nia Davies a David Cole”
Gochelwch rhag y PB Strava!
Dwi’n ail-ymweld â chwpl o bynciau trafod o’r gorffennol ar y blog yma yn y post yma, gan ail-ofyn cwpl o gwestiynau. Yn Nhachwedd 2019 (waw, cofio’r dyddiau yna!) mi wnes i redeg pôl piniwn Twitter cyn ysgrifennu darn yn holi beth sy’n cyfri fel ‘PB’, a hynny’n dilyn y newyddion bod cwrs 10k Leeds AbbeyParhau i ddarllen “Gochelwch rhag y PB Strava!”
Podlediad rhif 9 – Nia a Dai o Nawr yw’r Awr
Yn y cofnod cyntaf ar y blog yma mi wnes i sôn mai cam cyntaf oedd y blog at lansio podlediad rhedeg rhywbryd yn y dyfodol. Dwi wastad wedi dilyn nifer o bodlediadau, ac hyd yn oed wedi cyflwyno un pêl-droed Cymraeg am gyfnod rhwng tua 2013 a 2016. Ro’n i’n teimlo bod angen mwyParhau i ddarllen “Podlediad rhif 9 – Nia a Dai o Nawr yw’r Awr”
Podlediad rhif 8 -Math Llwyd
Dwi wedi bod yn ystyried dechrau podlediad rhedeg Cymraeg ers sawl blwyddyn – ers dechrau gwrando ar bodlediad Marathon Talk tua 2014 neu 2015 mae’n siŵr. Ma rhywun (neu rydw i beth bynnag!) yn tueddu o dindroi a chwarae gyda syniadau yn hytrach na jyst bwrw mewn i wneud pethau’n syth. O’n i’n aml ynParhau i ddarllen “Podlediad rhif 8 -Math Llwyd”