Dwi wastad wedi bwriad cynnwys ambell adolygiad cynnyrch ar y blog yma, ac a hithau’n weddol dawel o ran newyddion o’r byd rhedeg am resymau amlwg, mae’n ymddangos fel cyfle da i wneud hynny ar hyn o bryd. Dwi eisoes wedi cyhoeddi adolygiad o gels Torq, a byddai’n adolygu mwy o gels dros yr wythnos neuParhau i ddarllen “Adolygiad: Sgidiau On Cloudflow”
Archifau Awdur: Owain Schiavone
Adolygiad Gels: Torq
Dwi wedi sôn mewn blogs blaenorol am y bwriad i brofi ac adolygu gels wrth i mi baratoi i redeg marathon llawn am y tro cyntaf. Yn anffodus, mae’r cynlluniau i redeg marathon Llundain ddiwedd mis Ebrill wedi gorfod newid am y tro, ond dwi wedi bod yn profi sawl math o gel / tanwyddParhau i ddarllen “Adolygiad Gels: Torq”
Ynfydrwydd rhithiol
Ro’n i fod i redeg ras 10K Bae Caerdydd ddydd Sul (29 Mawrth). Ras baraoi ar gyfer Marathon Llundain yn bennaf, ond gan ei bod hi’n ras Bencampwriaeth Cymru ar gwrs cymharol gyflym roedd hi’n ras ro’n i’n bwriadu ei thargedu hefyd – ‘A race’ fel petai. Yn anffodus, fel cymaint o rasys a digwyddiadauParhau i ddarllen “Ynfydrwydd rhithiol”
Virtual Insanity
I was due to run the Cardiff Bay 10k on Sunday (29 March). Mainly as a training race for London Marathon, but being a Welsh Championship race on a fairly fast course, it’s one I was planning to target as an ‘A Race’ as well. Unfortunately, like so many other events, the race had toParhau i ddarllen “Virtual Insanity”
Vlog: Penwythnos yn cadw pellter
Disclaimer bach ar ddechrau’r cyflwyniad byr yma i’r vlog diweddaraf sef fy mod i wedi ffilmio hwn dros y penwythnos, ac yn amlwg mae bywyd wedi newid tipyn eto ers hynny i bawb. Mae o’n vlog sy’n perthyn yn agos i’r blog ‘Cracio’r Corona‘ y gwnes i gyhoeddi dros y penwythnos yn awgrymu rhai ffyrddParhau i ddarllen “Vlog: Penwythnos yn cadw pellter”
Cracio’r Corona
Tydi hi’n gyfnod rhyfedd ar hyn o bryd? Roedden ni i gyd yn gwybod beth oedd i ddod, ond ers i’r Prif Weinidog gyhoeddi polisi o ymbellhau cymdeithasol (‘social distancing’) ddydd Llun, mae unrhyw ymgynull torfol wedi’i ohirio. Mae hynny wrth gwrs yn cynnwys unrhyw rasys rhedeg dros y cwpl o fisoedd nesaf wrth gwrs,Parhau i ddarllen “Cracio’r Corona”
Dim marathon, dim mojo
Wel, dwi’n disgwyl y newyddion ers cwpl o wythnosau, ac er gwaethaf ambell lygedyn o obaith, o’r diwedd ddydd Gwener daeth cadarnhad fod Marathon Llundain eleni wedi’i ohirio oherwydd y sefyllfa enbyd gyda’r coronavirus. Doedd o ddim yn syndod ac er nad ydw i’n gwybod digon am y peth mewn gwirionedd (oes unrhyw un?) dwi ddim yn creduParhau i ddarllen “Dim marathon, dim mojo”
Adolygiad: Gels egni – cyflwyniad
Wrth i mi baratoi at gamu fyny i bellter y marathon eleni, un peth sydd wedi bod ar fy meddwl cryn dipyn ydy tanwydd. Na, did pris diesel ar gyfer teithio i Lundain fis Ebrill (fyddai’n mynd ar y trên beth bynnag) ond yn hytrach yr angen i roi hwb i’r egni trwy fwyta acParhau i ddarllen “Adolygiad: Gels egni – cyflwyniad”
Pencampwriaeth TG Rhyng Sirol @ Loughborough – Blog a Vlog
Dwi’n gredwr cryf mewn profi’ch hun, ac yn enwedig mewn rhoi eich hun allan o’r comfort zone bob hyn a hyn. Roedd rhedeg ym Mhencampwriaeth Traws Gwlad Rhyng Sirol Prydain yn Loughborough ddydd Sadwrn yn sicr yn gyfle i mi wneud y ddau beth yma, ac yn agoriad llygad a hanner. Dwi’n weddol newydd i’r byd rasioParhau i ddarllen “Pencampwriaeth TG Rhyng Sirol @ Loughborough – Blog a Vlog”
Adolygiad: Shorts ysgafn On Running
Un fantais fawr rhedeg dros lawer o chwaraeon arall ydy nad oes angen fawr ddim offer arnoch chi i ddechrau arni. Mae pâr o esgidiau call yn help, yn enwedig wrth i chi gynyddu’r milltiroedd, ond i bob pwrpas y cyfan sydd angen arnoch chi ydy’ch dwy goes. Dwi’n eithaf low maintenance pan ddaw at kit hefydParhau i ddarllen “Adolygiad: Shorts ysgafn On Running”