Byth ers clywed y newyddion am hanes hynod o drist Sarah Everard yn gynharach yn y mis, mae diogelwch merched ar y strydoedd, a’r ymddygiad mae merched wedi gorfod dioddef yn gyffredinol gan ddynion wedi pwyso’n drwm ar fy meddwl. Fel llawer iawn dwi’n siŵr, dwi’n aml yn defnyddio rhedeg fel cyfle i glirio’r meddwl, neu o leiafParhau i ddarllen “Hawl i heddwch ar yr hewl #ReclaimTheseStreets”
Archifau Categori: Barn
Gochelwch rhag y PB Strava!
Dwi’n ail-ymweld â chwpl o bynciau trafod o’r gorffennol ar y blog yma yn y post yma, gan ail-ofyn cwpl o gwestiynau. Yn Nhachwedd 2019 (waw, cofio’r dyddiau yna!) mi wnes i redeg pôl piniwn Twitter cyn ysgrifennu darn yn holi beth sy’n cyfri fel ‘PB’, a hynny’n dilyn y newyddion bod cwrs 10k Leeds AbbeyParhau i ddarllen “Gochelwch rhag y PB Strava!”
Be FKT?
Na, does dim yn anweddus am y blog yma (gobeithio) felly gwell dechrau trwy egluro beth ydy ‘FKT’… FKT = ‘Fastest Known Time’ Os ydach chi’n dilyn y cyfryngau rhedeg, a’r rhai rhedeg mynydd, trêls ac yltra dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, byddwch chi wedi dod ar dras y term a’r hashnod #FKT sawlParhau i ddarllen “Be FKT?”
Strava – caeth i’r kudos
Wythnos diwethaf cefais wahoddiad ar raglen Radio Cymru Aled Hughes i drafod enwau segments Strava. Roedd o’n gyfle hefyd i drafod dafnydd Strava yn ehangach – rhywbeth dwi wedi meddwl tipyn amdano dros y cyfnod cloi. Mae tipyn o sôn wedi bod am yr holl redwyr newydd sydd wedi ymddangos dros y cyfnod yma, ynParhau i ddarllen “Strava – caeth i’r kudos”
Gormod o rasio
Dwi’n meddwl mod i angen brêc fach o rasio. Datganiad rhyfedd iawn o ystyried y sefyllfa rydan ni ynddi ar hyn o bryd, lle mae pob ras redeg ers diwedd mis Mawrth wedi eu gohirio, ac amheuaeth mawr ynglŷn â’r gobaith o weld unrhyw rasys yn cael eu cynnal cyn diwedd y flwyddyn. Wedi dweudParhau i ddarllen “Gormod o rasio”
Dychwelyd i rasio
O’r diwedd, mae’r camau cyntaf, gofalus (ar y cyfan), yn cael eu cyflwyno i ryddhau rhywfaint ar y cloi mawr. Mae rhai’n feirniadol o’r hyn sy’n cael ei gyflwyno’n Lloegr yn arbennig, tra fod Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon i’w gweld yn symud ychydig yn arafach ac yn fwy gofalus. Beth bynnag eich barn,Parhau i ddarllen “Dychwelyd i rasio”
Nath Ross Barkley redeg 5k mewn 16:11?
Un o ffads ynysu’r wythnos ddiwethaf ydy’r her ‘5 5 5’ lle mae pobl wedi bod yn rhedeg 5k a rhoi £5 i elusen cyn enwebu 5 ffrind i wneud yr un peth ar y cyfryngau cymdeithasol. Fydd rhedeg 5k ddim yn ormod o her i’r rhan fwyaf o ddarllenwyr y blog yma, ond ynParhau i ddarllen “Nath Ross Barkley redeg 5k mewn 16:11?”
Ynfydrwydd rhithiol
Ro’n i fod i redeg ras 10K Bae Caerdydd ddydd Sul (29 Mawrth). Ras baraoi ar gyfer Marathon Llundain yn bennaf, ond gan ei bod hi’n ras Bencampwriaeth Cymru ar gwrs cymharol gyflym roedd hi’n ras ro’n i’n bwriadu ei thargedu hefyd – ‘A race’ fel petai. Yn anffodus, fel cymaint o rasys a digwyddiadauParhau i ddarllen “Ynfydrwydd rhithiol”
Dim marathon, dim mojo
Wel, dwi’n disgwyl y newyddion ers cwpl o wythnosau, ac er gwaethaf ambell lygedyn o obaith, o’r diwedd ddydd Gwener daeth cadarnhad fod Marathon Llundain eleni wedi’i ohirio oherwydd y sefyllfa enbyd gyda’r coronavirus. Doedd o ddim yn syndod ac er nad ydw i’n gwybod digon am y peth mewn gwirionedd (oes unrhyw un?) dwi ddim yn creduParhau i ddarllen “Dim marathon, dim mojo”
Adolygiad: Feet in the Clouds – Richard Askwith
Dwi’n ddarllenwr brwd – ffuglen gan amlaf, ond dros y blynyddoedd diwethaf wedi cael blas ar nifer o lyfrau ffeithol am redeg. Nes i drafod rhai ohonyn nhw yn un o’r darnau blog cyntaf i mi gyhoeddi nôl ym mis Medi. Dwi newydd orffen cyfrol am redeg mynydd, ac ar ganol un arall am hanes bywyd rhedwrParhau i ddarllen “Adolygiad: Feet in the Clouds – Richard Askwith”