Mae’n anodd gwybod lle i ddechrau. Ras gyntaf ers dros bron 14 mis! Y tro cyntaf allan o Geredigion ers dros flwyddyn! Marathon cyntaf erioed! Wrth i’r llwch setlo, a’r cyhyrau poenus ddechrau llacio, mae’n anodd crynhoi’r teimladau. Er mor naff mae hyn yn mynd i swnio…mae o’n teimlo bach fel breuddwyd. Nid dyma oeddParhau i ddarllen “Y ras gyntaf nôl – Marathon Elite Swydd Gaer”
Archifau Categori: Hyfforddi
Strava – caeth i’r kudos
Wythnos diwethaf cefais wahoddiad ar raglen Radio Cymru Aled Hughes i drafod enwau segments Strava. Roedd o’n gyfle hefyd i drafod dafnydd Strava yn ehangach – rhywbeth dwi wedi meddwl tipyn amdano dros y cyfnod cloi. Mae tipyn o sôn wedi bod am yr holl redwyr newydd sydd wedi ymddangos dros y cyfnod yma, ynParhau i ddarllen “Strava – caeth i’r kudos”
Ynfydrwydd rhithiol
Ro’n i fod i redeg ras 10K Bae Caerdydd ddydd Sul (29 Mawrth). Ras baraoi ar gyfer Marathon Llundain yn bennaf, ond gan ei bod hi’n ras Bencampwriaeth Cymru ar gwrs cymharol gyflym roedd hi’n ras ro’n i’n bwriadu ei thargedu hefyd – ‘A race’ fel petai. Yn anffodus, fel cymaint o rasys a digwyddiadauParhau i ddarllen “Ynfydrwydd rhithiol”
Vlog: Penwythnos yn cadw pellter
Disclaimer bach ar ddechrau’r cyflwyniad byr yma i’r vlog diweddaraf sef fy mod i wedi ffilmio hwn dros y penwythnos, ac yn amlwg mae bywyd wedi newid tipyn eto ers hynny i bawb. Mae o’n vlog sy’n perthyn yn agos i’r blog ‘Cracio’r Corona‘ y gwnes i gyhoeddi dros y penwythnos yn awgrymu rhai ffyrddParhau i ddarllen “Vlog: Penwythnos yn cadw pellter”
Dim marathon, dim mojo
Wel, dwi’n disgwyl y newyddion ers cwpl o wythnosau, ac er gwaethaf ambell lygedyn o obaith, o’r diwedd ddydd Gwener daeth cadarnhad fod Marathon Llundain eleni wedi’i ohirio oherwydd y sefyllfa enbyd gyda’r coronavirus. Doedd o ddim yn syndod ac er nad ydw i’n gwybod digon am y peth mewn gwirionedd (oes unrhyw un?) dwi ddim yn creduParhau i ddarllen “Dim marathon, dim mojo”
Vlog: Penwythnos Pencampwriaeth Traws Gwlad Cymru
Os ydach chi’n newydd i’r blog yma, neu i rasio traws gwlad, mi wnes i ysgrifennu darn bach arall yn yr hydrefynglŷn â gwychder y gamp sydd wedi llithro i’r cysgodion braidd yn llygad y cyhoedd o leiaf. O safbwynt y gymuned redeg ‘gystadleuol’, mae rasio traws gwlad yn sicr yn dal i fod yn bwysigParhau i ddarllen “Vlog: Penwythnos Pencampwriaeth Traws Gwlad Cymru”
Vlog peilot
Nes i benderfynu i drio rhywbeth bach gwahanol dros y penwythnos, felly wele isod vlog cyntaf Y Busnes Rhedeg ‘Ma! Dwi heb drio creu unrhyw fath o vlog o’r blaen felly mae o’n bach o arbrawf ac fe welwch chi fod cwpl o bethau wedi mynd o’i le, ond gobeithio ei fod o’n iawn felParhau i ddarllen “Vlog peilot”
Hyfforddi marathon – wythnos 1
Peidiwch poeni, dwi dim yn bwriadu cyhoeddi blog wythnosol ynglŷn â fy mharatoadau tuag at redeg Marathon Llundain ddiwedd mis Ebrill. Wedi dweud hynny, gan mai dyma brif ffocws misoedd y Gwanwyn i mi, mae’n debygol bydd y profiad yn dylanwadu ar ambell ddarn blog mewn ffyrdd gwahanol. Ond, gan fod y profiad o baratoiParhau i ddarllen “Hyfforddi marathon – wythnos 1”
Tymor Traws Gwlad
Dwi’n mynd i rannu cyfrinach gorau rasio efo chi – rhedeg traws gwlad! Debyg nad ydy hyn yn fawr o gyfrinach i’r rhedwyr profiadol cofiwch, y rhai ohonoch chi sydd wedi bod yn rasio ers eu dyddiau ysgol…ond i mi mae o wedi bod yn agoriad llygad diweddar. Er mod i’n rhedeg erioed, dwi dalParhau i ddarllen “Tymor Traws Gwlad”
Bwyta cyn ras
Mae’r cofnod yma’n ymateb i gais penodol ar Twitter gan Deian Creunant (@Creunant), ond yn gwestiwn mae cwpl o bobl wedi holi i mi yn ddiweddar – beth i’w fwyta cyn ras. Dwi’n gwybod bod Deian yn paratoi ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd ar hyn o bryd, ac yn rhedeg yn dda o’r hyn dwiParhau i ddarllen “Bwyta cyn ras”