Design a site like this with WordPress.com
Cychwyn arni

Uchafbwyntiau Athletau’r Gemau Olympaidd

Gan fy mod i wedi crybwyll gwneud hynny ar bodlediad diweddaraf Y Busnes Rhedeg Ma, ro’n i’n meddwl bod hi’n well i mi gyhoeddi darn bach yn crynhoi amserlen rhai o uchafbwyntiau athletau’r Gemau Olympaidd yn Siapan.  Mae’r athletau’n dechrau yfory, a llwyth o bethau difyr i gadw golwg arnyn nhw. Gan mai blog rhedegParhau i ddarllen “Uchafbwyntiau Athletau’r Gemau Olympaidd”

Rhagolwg treialon Marathon y Gemau Olympaidd

Wedi cryn edrych ymlaen a dyfalu, o’r diwedd mae’r rhestr o redwyr wedi’i gyhoeddi ar gyfer y treialon i ddewis pwy fydd yn cynrychioli Prydain yn Marathon Gemau Olympaidd Tokyo.  Oherwydd cyfyngiadau Covid, nifer fach o redwyr elite fydd yn rhedeg yn y ras arbennig yng ngerddi Kew ddydd Gwener nesaf, 26 Mawrth. Ond yParhau i ddarllen “Rhagolwg treialon Marathon y Gemau Olympaidd”

Gochelwch rhag y PB Strava!

Dwi’n ail-ymweld â chwpl o bynciau trafod o’r gorffennol ar y blog yma yn y post yma, gan ail-ofyn cwpl o gwestiynau.  Yn Nhachwedd 2019 (waw, cofio’r dyddiau yna!) mi wnes i redeg pôl piniwn Twitter cyn ysgrifennu darn yn holi beth sy’n cyfri fel ‘PB’, a hynny’n dilyn y newyddion bod cwrs 10k Leeds AbbeyParhau i ddarllen “Gochelwch rhag y PB Strava!”

Recordiau yltra’n cael eu chwalu

Does dim amheuaeth ei bod hi’n oes aur i redeg yltra ar hyn o bryd, ac mae argyfwng Covid-19 a’r cloi mawr wedi ychwanegu at hynny.  Nes i gyhoeddi darn gwpl o wythnosau nôl yn trafod FKTs, gan drafod rhai amseroedd gorau arwyddocaol oedd wedi eu gosod dros y dyddiau cyn hynny. Bron y gallwn iParhau i ddarllen “Recordiau yltra’n cael eu chwalu”

Lansio Podlediad Y Busnes Rhedeg ‘Ma

Hir yw pob ymaros meddai rhywun, rywdro. Wel, o’r diwedd, mae’r aros ar ben ac mae pennod gyntaf podlediad Y Busnes Rhedeg ‘Ma yn gweld golau dydd! Efallai bydd rhai yn cofio darllen fy narn blog cyntaf beth amser nôl, oedd yn sôn am fy nyhead i gyhoeddi podlediad yn trafod rhedeg yn y Gymraeg.Parhau i ddarllen “Lansio Podlediad Y Busnes Rhedeg ‘Ma”

Cymro’n mynd am FKT llwybr arfordir Cymru

Darn bach byr yn dilyn y blog diweddaraf ynglŷn â’r holl heriau FKT diweddar… Yn dilyn cyhoeddi’r blog hwnnw fe dynnodd Huw Euron ar Twitter fy sylw at y ffaith bod Cymro’n mynd am FKT llwybr arfordir Cymru, gan ddechrau heddiw.  Rhys Jenkins ydy’r athletwr dan sylw, ac mae’n dod o Benarth.  I gwblhau’r herParhau i ddarllen “Cymro’n mynd am FKT llwybr arfordir Cymru”

Ffilm rhedeg: ‘Paul Tierney: Running The Wainwrights’

Llun: Joe Mann Fel dwi wedi crybwyll sawl gwaith ar y blog yma, dwi ddim yn rhedwr mynydd!  Er hynny, dwi wedi cael tipyn o flas ar ddysgu mwy am y gamp yn ddiweddar trwy ddarllen llyfrau, gwrando ar bodlediadau a gwylio ffilmiau dogfen amrywiol.  Yn gynharach yr wythnos hon roedd premiere o’r ffilm ‘PaulParhau i ddarllen “Ffilm rhedeg: ‘Paul Tierney: Running The Wainwrights’”

To PB or not to PB

Dyna’r cwestiwn… Maddeuwch i mi am y defnydd o’r iaith fain ym mhennawd y blog yma, ond do’n i’n methu peidio o ystyried y testun!  Stori newyddion dros y dyddiau diwethaf sydd wedi gwneud i mi feddwl ynglŷn â’r pwnc – sef beth sy’n cyfrif fel amser gorau, neu ‘PB’ (‘PR’ os mai Americanwr ydachParhau i ddarllen “To PB or not to PB”