Design a site like this with WordPress.com
Cychwyn arni

Y ras gyntaf nôl – Marathon Elite Swydd Gaer

Mae’n anodd gwybod lle i ddechrau.  Ras gyntaf ers dros bron 14 mis! Y tro cyntaf allan o Geredigion ers dros flwyddyn! Marathon cyntaf erioed!  Wrth i’r llwch setlo, a’r cyhyrau poenus ddechrau llacio, mae’n anodd crynhoi’r teimladau. Er mor naff mae hyn yn mynd i swnio…mae o’n teimlo bach fel breuddwyd. Nid dyma oeddParhau i ddarllen “Y ras gyntaf nôl – Marathon Elite Swydd Gaer”

Podlediad 10 – Andrew Davies

Roedd hi’n wythnos reit gyffrous i ffans rhedeg wythnos diwethaf wrth i dreialon tîm Prydain ar gyfer y marathon gael eu cynnal yng Ngerddi Kew ddydd Gwener diwethaf (26 Ebrill). Gobeithio bod rhai ohonoch chi wedi cael cyfle i ddarllen y rhagolwg ar y blog, a bod hynny wedi codi blýs arnoch chi am y rasParhau i ddarllen “Podlediad 10 – Andrew Davies”

Rhagolwg treialon Marathon y Gemau Olympaidd

Wedi cryn edrych ymlaen a dyfalu, o’r diwedd mae’r rhestr o redwyr wedi’i gyhoeddi ar gyfer y treialon i ddewis pwy fydd yn cynrychioli Prydain yn Marathon Gemau Olympaidd Tokyo.  Oherwydd cyfyngiadau Covid, nifer fach o redwyr elite fydd yn rhedeg yn y ras arbennig yng ngerddi Kew ddydd Gwener nesaf, 26 Mawrth. Ond yParhau i ddarllen “Rhagolwg treialon Marathon y Gemau Olympaidd”

Ras Filltir Rithiol Athletau Cymru

Fis yn ôl cynhaliwyd ras rithiol swyddogol gyntaf Athletau Cymru – ras 5k oedd honno gyda chystadlu brwd ymysg athletwyr cryf o glybiau ledled Cymru.  Dros y penwythnos cynhaliwyd ail ras rithiol gan brif sefydliad athletau Cymru ar ffurf ras filltir, ac unwaith eto cafwyd penwythnos o rasio cystadleuol gan redwyr o bob cwr i’r wlad.  FelParhau i ddarllen “Ras Filltir Rithiol Athletau Cymru”

Ieuan yn cipio teitl ras rithiol gyntaf Athletau Cymru

Dros y penwythnos cynhaliwyd ras rithiol swyddogol gyntaf Athletau Cymru gyda Ieuan Thomas o Glwb Athletau Caerdydd yn dod i’r brig.  Fe ddylai Pencampwriaeth 5k Cymru fod wedi digwydd yng Nghaerdydd dros y penwythnos, ond fel pob ras arall diweddar bu’n rhaid ei gohirio.  Er mwyn llenwi’r bwlch, penderfynodd Athletau Cymru i gynnal y rasParhau i ddarllen “Ieuan yn cipio teitl ras rithiol gyntaf Athletau Cymru”

Llwyddiant Cymreig yn ras Milltir Bannister

Roedd ras rithiol go arbennig ddechrau’r wythnos wrth i dros 1200 o redwyr clwb mwyaf cystadleuol Prydain gymryd rhan yn Ras Filltir Bannister.  Y British Milers’ Club oedd yn cynnal y ras rithiol i nodi 66 mlynedd ers i Roger Bannister roi ei enw yn y llyfrau hanes trwy dorri 4 munud am ras filltirParhau i ddarllen “Llwyddiant Cymreig yn ras Milltir Bannister”

Ynfydrwydd rhithiol

Ro’n i fod i redeg ras 10K Bae Caerdydd ddydd Sul (29 Mawrth). Ras baraoi ar gyfer Marathon Llundain yn bennaf, ond gan ei bod hi’n ras Bencampwriaeth Cymru ar gwrs cymharol gyflym roedd hi’n ras ro’n i’n bwriadu ei thargedu hefyd – ‘A race’ fel petai.  Yn anffodus, fel cymaint o rasys a digwyddiadauParhau i ddarllen “Ynfydrwydd rhithiol”

Vlog: Penwythnos Pencampwriaeth Traws Gwlad Cymru

Os ydach chi’n newydd i’r blog yma, neu i rasio traws gwlad, mi wnes i ysgrifennu darn bach arall yn yr hydrefynglŷn â gwychder y gamp sydd wedi llithro i’r cysgodion braidd yn llygad y cyhoedd o leiaf.  O safbwynt y gymuned redeg ‘gystadleuol’, mae rasio traws gwlad yn sicr yn dal i fod yn bwysigParhau i ddarllen “Vlog: Penwythnos Pencampwriaeth Traws Gwlad Cymru”

To PB or not to PB

Dyna’r cwestiwn… Maddeuwch i mi am y defnydd o’r iaith fain ym mhennawd y blog yma, ond do’n i’n methu peidio o ystyried y testun!  Stori newyddion dros y dyddiau diwethaf sydd wedi gwneud i mi feddwl ynglŷn â’r pwnc – sef beth sy’n cyfrif fel amser gorau, neu ‘PB’ (‘PR’ os mai Americanwr ydachParhau i ddarllen “To PB or not to PB”