Design a site like this with WordPress.com
Cychwyn arni

Podlediad 10 – Andrew Davies

Roedd hi’n wythnos reit gyffrous i ffans rhedeg wythnos diwethaf wrth i dreialon tîm Prydain ar gyfer y marathon gael eu cynnal yng Ngerddi Kew ddydd Gwener diwethaf (26 Ebrill). Gobeithio bod rhai ohonoch chi wedi cael cyfle i ddarllen y rhagolwg ar y blog, a bod hynny wedi codi blýs arnoch chi am y rasParhau i ddarllen “Podlediad 10 – Andrew Davies”

Cymro’n mynd am FKT llwybr arfordir Cymru

Darn bach byr yn dilyn y blog diweddaraf ynglŷn â’r holl heriau FKT diweddar… Yn dilyn cyhoeddi’r blog hwnnw fe dynnodd Huw Euron ar Twitter fy sylw at y ffaith bod Cymro’n mynd am FKT llwybr arfordir Cymru, gan ddechrau heddiw.  Rhys Jenkins ydy’r athletwr dan sylw, ac mae’n dod o Benarth.  I gwblhau’r herParhau i ddarllen “Cymro’n mynd am FKT llwybr arfordir Cymru”

Ras Filltir Rithiol Athletau Cymru

Fis yn ôl cynhaliwyd ras rithiol swyddogol gyntaf Athletau Cymru – ras 5k oedd honno gyda chystadlu brwd ymysg athletwyr cryf o glybiau ledled Cymru.  Dros y penwythnos cynhaliwyd ail ras rithiol gan brif sefydliad athletau Cymru ar ffurf ras filltir, ac unwaith eto cafwyd penwythnos o rasio cystadleuol gan redwyr o bob cwr i’r wlad.  FelParhau i ddarllen “Ras Filltir Rithiol Athletau Cymru”

Llwyddiant Cymreig yn ras Milltir Bannister

Roedd ras rithiol go arbennig ddechrau’r wythnos wrth i dros 1200 o redwyr clwb mwyaf cystadleuol Prydain gymryd rhan yn Ras Filltir Bannister.  Y British Milers’ Club oedd yn cynnal y ras rithiol i nodi 66 mlynedd ers i Roger Bannister roi ei enw yn y llyfrau hanes trwy dorri 4 munud am ras filltirParhau i ddarllen “Llwyddiant Cymreig yn ras Milltir Bannister”

Rhestrau 10 Uchaf Rhedwyr Pellter Cymru 2019

Pob blwyddyn tua’r adeg yma dwi’n hoffi gweld trydar yr ardderchog Japan Running News (@JRNHeadlines) sy’n rhestru’r gwledydd cyflymaf dros bellter y marathon yn ystod y flwyddyn.  Mae’r rhestrau’n cael eu llunio ar sail cyfartaledd amseroedd 10 rhedwr cyflyma’r wlad honno dros y flwyddyn a fu. Dyma’r rhestrau merched a dynion eleni: 2019 average ofParhau i ddarllen “Rhestrau 10 Uchaf Rhedwyr Pellter Cymru 2019”