Dwi wedi bod yn chwarae efo’r syniad o lansio podlediad rhedeg ers sawl blwyddyn, a threulio sawl ryn hir yn pendroni dros enwau pobl i’w cyfweld. Yn ddi-ffael, roedd un enw bob amser yn agos at frig y rhestr – Angharad Mair. Mae Angharad wrth gwrs yn fwyaf cyfarwydd fel cyflwynwraig deledu fwyaf adnabyddus Cymru.Parhau i ddarllen “Podlediad 11 – Angharad Mair”
Archifau Categori: Uncategorized
Podlediad newydd – sgwrs gydag Angharad Davies
Dwi’n falch iawn i gyhoeddi bod trydydd pennod podlediad Y Busnes Rhedeg ‘Ma bellach wedi’i gyhoeddi ar-lein. Mae cyfweliadau’r ddau bennod gyntaf gyda Gwyndaf Lewis, ac yna gydag Alaw Beynon-Thomas ac Arwel Evans wedi bod yn grêt a gobeithio byddwch chi’n cytuno bod y diweddaraf llawn cystal. Yn y bennod yma dwi’n sgwrsio gydag AngharadParhau i ddarllen “Podlediad newydd – sgwrs gydag Angharad Davies”
Math yn chwalu record y Paddy Buckley
Bydd unrhyw un sy’n darllen y blog yma’n rheolaidd yn gwybod fy mod i wedi datblygu bach o obsesiwn gyda’r ‘rownds mawr’ dros y blynyddoedd diwethaf. Efallai bod ‘obsesiwn’ yn air rhy gryf…ond yn sicr mae gen i chwilfrydedd mawr ynglŷn â’r Bob Graham Roundyn Ardal y Llynnoedd, y Ramsey Round yn Yr Alban, ac yn arbennig felly’r PaddyParhau i ddarllen “Math yn chwalu record y Paddy Buckley”
Marathon Llundain – cosbi’r cyflym
Dwi’n siŵr bod y rhan fwyaf sy’n darllen y blog yma wedi clywed y newyddion na fydd Marathon Llundain yn digwydd ar 4 Hydref eleni. Dyma oedd y dyddiad newydd a osodwyd ar gyfer y ras enwog yn lle’r dyddiad gwreiddiol ym mis Ebrill wrth i COVID-19 gyrraedd Prydain. Ar y pryd roedd hynny’n swnio’nParhau i ddarllen “Marathon Llundain – cosbi’r cyflym”
Vlog: Wythnos o rasio rhithiol
Roedd wythnos diwetha’n wythnos fach wahanol wrth i mi gofrestru ar gyfer dwy ras rithiol oedd yn digwydd ychydig ddyddiau ar ôl ei gilydd. Dwi eisoes wedi cyhoeddi adroddiad o ras Milltir Rithiol Bannister a hefyd o ras 5K Rithiol Athletau Cymru dros y penwythnos. Ond, gan nad ydw i wedi cyhoeddi Vlog ers pethParhau i ddarllen “Vlog: Wythnos o rasio rhithiol”
Cracio’r Corona
Tydi hi’n gyfnod rhyfedd ar hyn o bryd? Roedden ni i gyd yn gwybod beth oedd i ddod, ond ers i’r Prif Weinidog gyhoeddi polisi o ymbellhau cymdeithasol (‘social distancing’) ddydd Llun, mae unrhyw ymgynull torfol wedi’i ohirio. Mae hynny wrth gwrs yn cynnwys unrhyw rasys rhedeg dros y cwpl o fisoedd nesaf wrth gwrs,Parhau i ddarllen “Cracio’r Corona”
Adolygiad: Gels egni – cyflwyniad
Wrth i mi baratoi at gamu fyny i bellter y marathon eleni, un peth sydd wedi bod ar fy meddwl cryn dipyn ydy tanwydd. Na, did pris diesel ar gyfer teithio i Lundain fis Ebrill (fyddai’n mynd ar y trên beth bynnag) ond yn hytrach yr angen i roi hwb i’r egni trwy fwyta acParhau i ddarllen “Adolygiad: Gels egni – cyflwyniad”
Pencampwriaeth TG Rhyng Sirol @ Loughborough – Blog a Vlog
Dwi’n gredwr cryf mewn profi’ch hun, ac yn enwedig mewn rhoi eich hun allan o’r comfort zone bob hyn a hyn. Roedd rhedeg ym Mhencampwriaeth Traws Gwlad Rhyng Sirol Prydain yn Loughborough ddydd Sadwrn yn sicr yn gyfle i mi wneud y ddau beth yma, ac yn agoriad llygad a hanner. Dwi’n weddol newydd i’r byd rasioParhau i ddarllen “Pencampwriaeth TG Rhyng Sirol @ Loughborough – Blog a Vlog”
Ffilm rhedeg: ‘Paul Tierney: Running The Wainwrights’
Llun: Joe Mann Fel dwi wedi crybwyll sawl gwaith ar y blog yma, dwi ddim yn rhedwr mynydd! Er hynny, dwi wedi cael tipyn o flas ar ddysgu mwy am y gamp yn ddiweddar trwy ddarllen llyfrau, gwrando ar bodlediadau a gwylio ffilmiau dogfen amrywiol. Yn gynharach yr wythnos hon roedd premiere o’r ffilm ‘PaulParhau i ddarllen “Ffilm rhedeg: ‘Paul Tierney: Running The Wainwrights’”
Vlog peilot
Nes i benderfynu i drio rhywbeth bach gwahanol dros y penwythnos, felly wele isod vlog cyntaf Y Busnes Rhedeg ‘Ma! Dwi heb drio creu unrhyw fath o vlog o’r blaen felly mae o’n bach o arbrawf ac fe welwch chi fod cwpl o bethau wedi mynd o’i le, ond gobeithio ei fod o’n iawn felParhau i ddarllen “Vlog peilot”