Ath hi braidd yn dynn yn y diwedd, ond ro’n i’n awyddus iawn i gyhoeddi pennod arall o bodlediad Y Busnes Rhedeg ‘Ma cyn y Nadolig, a nes i fwynhau sgwrsio gyda’r gwestai yn fawr.
Dwi’n gyfarwydd ag enw Elliw Haf ers sawl blwyddyn bellach ac mae hi wedi sefydlu eu hun fel un o redwyr gorau Cymru.
Yn aelod o glwb Harriers Eryri, tydi hi’n ddim syndod ei bod hi’n gryf yn y mynyddoedd ac fe redodd i dîm Cymru yn Ras yr Wyddfa 2018 a 2019 – mae gen i gof bod S4C wedi rhoi sylw arbennig iddi ar y darllediad teledu yn 2018.
Ond nid jyst rhedwr mynydd pur ydy Elliw, mae hi’n gryf iawn ar y trêls a lôn hefyd, ac fe redodd PB o 87:48 ar gyfer hanner marathon lôn i orffen ar y podiwm yn Hanner Marathon Amwythig ym mis Hydref 2019.
Yr hyn nad oedd Elliw’n ymwybodol ohono ar y pryd oedd ei bod hi’n feichiog wrth redeg y PB hwnnw, ac gyrhaeddodd ei phlentyn cyntaf, Mabon, ym mis Mai eleni – reit yng nghanol y clo mawr gwreiddiol.
Ro’n i’n arbennig o awyddus i siarad gydag Elliw gan wybod ei bod hi wedi dal i redeg nes yn hwyr (iawn!) yn ei beichiogrwydd, ac hefyd wedi llwyddo i ail-ddechrau’n fuan ar ôl i Mabon gyrraedd. Mae’n bosib y bydd rhai ohonoch wedi dod ar ei thraws ar y rhaglen ‘Ras y Cewri’ ar S4C a ddarlledwyd fis Hydref a ffilmiwyd ddim ond ychydig fisoedd wedyn.
Mae profiad Elliw fel rhedwraig yn ddifyr, a’i hagwedd at hyfforddi a’r gamp yn gyffredinol yn iach iawn. A dwi’n siŵr hefyd bydd ei chyngor a phrofiad yn ysbrydoliaeth i unrhyw rieni newydd sydd am ddal ati i redeg.
Mae’n bennod yma hefyd yn rhoi sylw i ddwy her redeg sy’n digwydd ar hyn o bryd ac yn codi arian at achosion da. Dyma’r dolenni os hoffech chi gyfrannu at yr achosion hynny:
Dyma’r pod isod, neu chwiliwch ar ba bynnag app podledu fyddwch chi’n defnyddio fel arfer. Croeso mawr i chi adael unrhyw sylwadau neu adolygu’r podlediad, a hefyd gysylltu os oes gennych unrhyw awgrymiadau.
Mae'r podlediad yn ôl yn dilyn saib fach, a gwestai cyntaf yr ail gyfres ydy ffrind mawr i'r pod, Dyfed Whiteside-Thomas. Mae Dyfed yn aelod o Glwb Harriers Eryri, ac yn bennaf gyfrifol am y 'Sesiwn Elltydd' enwog (Thursday Night Hills) yn Llanberis. Mae hefyd yn rhedwr arbennig ac rydan ni'n sgwrsio'n fuan ar ôl iddo redeg marathon wych yng Nghasnewydd gan orffen mewn 2:43:57 – y Cymro cyntaf yn ei gategori oedran, sy'n ei wneud yn bencampwr M45 Cymry yn ein tyb ni, gan bod y ras yn Bencampwriaeth Meistri Cymru eleni (canlyniadau llawn). Sgwrs ddifyr, gyda boi da.
Cyfle hefyd i grynhoi canlyniadau rhywfaint o'r rasys sydd wedi bod yn ddiweddar, wrth i bethau ail-ddechau o ddifrif. Lot mwy o hyn yn y gyfres gobeithio.
Cerddoriaeth y bennod yma ydy 'Dyma Kim Carsons' gan y grŵp newydd o ardal Pontypridd, Y Dail. Allan yn ddigidol rŵan.
Bydd unrhyw un sy’n gwrando ar bodlediad Y Busnes Rhedeg yma’n gwybod erbyn hyn fy mod i’n manteisio ar y cyfle i gyflwyno bach o gerddoriaeth Gymraeg i’w gwrandawyr bob tro.
Dwi wedi mynd gam ymhellach gyda’r bennod ddiweddaraf, gan wahodd cerddor i fod yn westai!
Dion Jones ydy ffryntman y ddeuawd blŵs-roc, Alffa – grŵp dwi wedi eu hadnabod ers yn fuan iawn ar ôl iddyn nhw ffurfio, ac wedi mwynhau eu gweld yn datblygu a dod yn llwyddiannus iawn. Yn wir, crëodd Alffa hanes yn 2018 wrth i’w sengl ‘Gwenwyn’ groesi 1,000,000 ffrwd ar Spotify – y gân Gymraeg gyntaf erioed i wneud hynny.
Dwi wastad yn mwynhau sgwrsio am fiwsic efo Dion, ac mae ‘na rywfaint o hynny ar y pod, ond mae ‘na dipyn o drafod rhedeg gan fod Dion wedi dechrau rhedeg yn ystod y clo mawr a chael budd mawr o wneud hynny. Yn wir, yn ystod y sgwrs rydan ni’n trafod sut mae rhedeg wedi helpu llenwi rhywfaint ar y bwlch o fethu perfformio ar lwyfan.
Rheswm arall o’i wahodd am sgwrs ydy fod Dion a chwe ffrind, sydd i gyd yn gerddorion adnabyddus, yn gwneud her Tashwedd (Movember) y mis yma gan dyfu mwstash, a cheisio rhedeg neu seiclo 750km yn ystod y mis. Gallwch eu noddi nawr.
Am y tro cyntaf erioed dwi hefyd yn cynnal cwis bach ar y podlediad! Bydd rhaid i chi wrando i ddysgu mwy am hyn, ond bydda i’n ysgrifennu darn blog sy’n berthnasol yn y man!
(Ma prif lun y darn yma o’r gig cyntaf nes i bwcio Alffa ar eu cyfer yn 2016 – Steddfod yr Urdd Y Fflint!)
Mae'r podlediad yn ôl yn dilyn saib fach, a gwestai cyntaf yr ail gyfres ydy ffrind mawr i'r pod, Dyfed Whiteside-Thomas. Mae Dyfed yn aelod o Glwb Harriers Eryri, ac yn bennaf gyfrifol am y 'Sesiwn Elltydd' enwog (Thursday Night Hills) yn Llanberis. Mae hefyd yn rhedwr arbennig ac rydan ni'n sgwrsio'n fuan ar ôl iddo redeg marathon wych yng Nghasnewydd gan orffen mewn 2:43:57 – y Cymro cyntaf yn ei gategori oedran, sy'n ei wneud yn bencampwr M45 Cymry yn ein tyb ni, gan bod y ras yn Bencampwriaeth Meistri Cymru eleni (canlyniadau llawn). Sgwrs ddifyr, gyda boi da.
Cyfle hefyd i grynhoi canlyniadau rhywfaint o'r rasys sydd wedi bod yn ddiweddar, wrth i bethau ail-ddechau o ddifrif. Lot mwy o hyn yn y gyfres gobeithio.
Cerddoriaeth y bennod yma ydy 'Dyma Kim Carsons' gan y grŵp newydd o ardal Pontypridd, Y Dail. Allan yn ddigidol rŵan.
Nid pob dydd mae rhywun yn cael cyfle i gyweld rhywun sy’n dal record arwyddocaol.
A heb os mae record, neu FKT (Fastest Know Time) Rownd y Paddy Buckley yn arwyddocaol dros ben…epig hyd yn oed!
Bydd unrhyw un sydd wedi darllen y blog yma’n rheolaidd yn gwybod am fy niddordeb yn y ‘rownds mawr’ mynyddig Prydeinig – y Bob Graham Round yn ardal y Llynnoedd, y Ramsey Round yn yr Alban, a’r Paddy Buckley yn Eryri.
Dwi wedi ysgrifennu amdanyn nhw sawl gwaith mewn cyd-destun gwahanol, gan gynnwys drafod y ffaith fod yr ardderchog Damian Hall wedi torri’r record ar gyfer rownd haf y Paddy Buckley yn 2019…ac yna ar gyfer yr FKT gaeaf yn hwyrach yn y flwyddyn.
Wel, ddiwedd mis Awst roedd si am Gymro oedd a’i lygad ar gipio’r record, a’i bachu nôl i ddwylo Cymreig. Y rhedwr dan sylw oedd Matthew Roberts o glybiau Calder Valley ac Eryri Harriers, ac ar 30 Awst fe gyflawnodd ei her.
Mi wnes i ysgrifennu darn am y gamp ar y pryd, ac ers hynny dwi wedi bod yn trio trefnu cyfweliad efo fo ar gyfer y podlediad. Mae’r gremlins technoleg wedi’n trechu ni gwpl o weithiau, ond o’r diwedd dyma lwyddo i recordio sgwrs iawn wythnos diwethaf.
Fel y rhan fwyaf o redwyr mynydd go iawn, mae Math yn dipyn o gymeriad ac mi wnes i wir fwynhau’r sgwrs efo fo. Ni rhedwr mynydd mohonof, ond heb os mae’r sgwrs wedi ysgogi mwy fyth o awydd yndda’i i gael ymgais ar y Paddy Buckley ryw ddydd…os alla’i ffeindio rhywrai caredig i ddangos y ffordd (achos dwi’n tueddu i fynd ar goll pan dwi’n rasio oddi-ar y lôn!)
Ta waeth, gobeithio bydd y podlediad diweddaraf yn codi rhyw awydd ynddoch chi hefyd i drio rhywbeth gwahanol.
Cofiwch adael adolygiad ar gyfer y podlediad os oes modd, ac mae croeso mawr i chi gysylltu gyda sylwadau ac awgrymiadau o bobl i’w cyfweld neu ffyrdd y gallwn ni wella’r podlediad.
Mae'r podlediad yn ôl yn dilyn saib fach, a gwestai cyntaf yr ail gyfres ydy ffrind mawr i'r pod, Dyfed Whiteside-Thomas. Mae Dyfed yn aelod o Glwb Harriers Eryri, ac yn bennaf gyfrifol am y 'Sesiwn Elltydd' enwog (Thursday Night Hills) yn Llanberis. Mae hefyd yn rhedwr arbennig ac rydan ni'n sgwrsio'n fuan ar ôl iddo redeg marathon wych yng Nghasnewydd gan orffen mewn 2:43:57 – y Cymro cyntaf yn ei gategori oedran, sy'n ei wneud yn bencampwr M45 Cymry yn ein tyb ni, gan bod y ras yn Bencampwriaeth Meistri Cymru eleni (canlyniadau llawn). Sgwrs ddifyr, gyda boi da.
Cyfle hefyd i grynhoi canlyniadau rhywfaint o'r rasys sydd wedi bod yn ddiweddar, wrth i bethau ail-ddechau o ddifrif. Lot mwy o hyn yn y gyfres gobeithio.
Cerddoriaeth y bennod yma ydy 'Dyma Kim Carsons' gan y grŵp newydd o ardal Pontypridd, Y Dail. Allan yn ddigidol rŵan.
Wythnos ar ôl cynnal marathon elite Llundain, ynghyd â marathon rhithiol Llundain, dwi’n falch iawn o westai diweddaraf podlediad Y Busnes Rhedeg ‘Ma.
Mae Peter Gillibrand yn newyddiadurwr, ac wrth arwain at benwythnos y marathon eleni cafodd gyfle i holi neb llai na Paula Radcliffe ac Eliud Kipchoge!
Bu hefyd yn gohebu tipyn ar straeon rhai o’r rhedwyr oedd yn rhedeg y marathon rhithiol, gydag ambell stori hyfryd yn eu mysg.
Roedd Peter ei hun yn rhedeg y marathon rhithiol, rownd strydoedd Caerdydd, wedi’i wisgo fel seren! Ac mae’n deg dweud fod Peter yn dipyn o seren – yn gymeriad hynod o hoffus ond hefyd yn weithgar dros ben gyda nifer o achosion da.
Roedd Peter yn codi arian at elusen Mencap wrth wneud ei farathon, ac mae dal modd i chi ei noddi nawr.
Mae ‘na ecsgliwsif fach yn ystod y bennod hefyd wrth i Peter ddatgelu ei gynlluniau i roi ymgais ar dorri record byd go unigryw!
Cerddoriaeth y bennod yma ydy ‘Y Gorwel’ gan Ghostlawns oddi-ar yr albwm Motorik, fydd allan ar 30 Hydref.
Mae'r podlediad yn ôl yn dilyn saib fach, a gwestai cyntaf yr ail gyfres ydy ffrind mawr i'r pod, Dyfed Whiteside-Thomas. Mae Dyfed yn aelod o Glwb Harriers Eryri, ac yn bennaf gyfrifol am y 'Sesiwn Elltydd' enwog (Thursday Night Hills) yn Llanberis. Mae hefyd yn rhedwr arbennig ac rydan ni'n sgwrsio'n fuan ar ôl iddo redeg marathon wych yng Nghasnewydd gan orffen mewn 2:43:57 – y Cymro cyntaf yn ei gategori oedran, sy'n ei wneud yn bencampwr M45 Cymry yn ein tyb ni, gan bod y ras yn Bencampwriaeth Meistri Cymru eleni (canlyniadau llawn). Sgwrs ddifyr, gyda boi da.
Cyfle hefyd i grynhoi canlyniadau rhywfaint o'r rasys sydd wedi bod yn ddiweddar, wrth i bethau ail-ddechau o ddifrif. Lot mwy o hyn yn y gyfres gobeithio.
Cerddoriaeth y bennod yma ydy 'Dyma Kim Carsons' gan y grŵp newydd o ardal Pontypridd, Y Dail. Allan yn ddigidol rŵan.
Dwi’n falch iawn i gyhoeddi bod trydydd pennod podlediad Y Busnes Rhedeg ‘Ma bellach wedi’i gyhoeddi ar-lein.
Mae cyfweliadau’r ddau bennod gyntaf gyda Gwyndaf Lewis, ac yna gydag Alaw Beynon-Thomas ac Arwel Evans wedi bod yn grêt a gobeithio byddwch chi’n cytuno bod y diweddaraf llawn cystal.
Yn y bennod yma dwi’n sgwrsio gydag Angharad Davies sy’n dod yn wreiddiol o Sir Gâr ond sydd bellach yn byw yn Galicia yn Sbaen.
Mae Angharad yn redwraig trac o safon uchel iawn ac wedi cynrychioli Cymru sawl gwaith dros y blynyddoedd. Ar ôl egwyl o’r gamp, mae nôl yn hyfforddi ac yn cystadlu ers diwedd 2019, wedi cael cryn lwyddiant cyn y clo mawr.
Mae’r sgwrs gydag Angharad yn mynd i sawl cyfeiriad ac yn amserol iawn o safbwynt ei phrofiadau yn Galicia yn ystod y cloi mawr, a’i barn ynglŷn â chydraddoldeb i ferched yn y byd rhedeg.
Cafodd y podlediad ei recordio jyst cyn iddi gystadlu ym Mhencampwriaethau Galicia, ac mae’n rhaid cymryd y cyfle i’w llongyfarch ar ei llwyddiant yn y pencampwriaethau hynny dros yr 800m a’r 1500. Llwyddodd Angharad i ennill y ddwy ras yn gyfforddus gyda’i hamser gorau erioed yn yr 800m, 2:13.02, yn ogystal â PB hefyd yn y 1500m sef 4:32.42.
Does dim amheuaeth fod Angharad yn mynd o nerth i nerth ac mae’n werth cadw golwg arni dros y misoedd nesaf.
Mae'r podlediad yn ôl yn dilyn saib fach, a gwestai cyntaf yr ail gyfres ydy ffrind mawr i'r pod, Dyfed Whiteside-Thomas. Mae Dyfed yn aelod o Glwb Harriers Eryri, ac yn bennaf gyfrifol am y 'Sesiwn Elltydd' enwog (Thursday Night Hills) yn Llanberis. Mae hefyd yn rhedwr arbennig ac rydan ni'n sgwrsio'n fuan ar ôl iddo redeg marathon wych yng Nghasnewydd gan orffen mewn 2:43:57 – y Cymro cyntaf yn ei gategori oedran, sy'n ei wneud yn bencampwr M45 Cymry yn ein tyb ni, gan bod y ras yn Bencampwriaeth Meistri Cymru eleni (canlyniadau llawn). Sgwrs ddifyr, gyda boi da.
Cyfle hefyd i grynhoi canlyniadau rhywfaint o'r rasys sydd wedi bod yn ddiweddar, wrth i bethau ail-ddechau o ddifrif. Lot mwy o hyn yn y gyfres gobeithio.
Cerddoriaeth y bennod yma ydy 'Dyma Kim Carsons' gan y grŵp newydd o ardal Pontypridd, Y Dail. Allan yn ddigidol rŵan.
Bydd unrhyw un sy’n darllen y blog yma’n rheolaidd yn gwybod fy mod i wedi datblygu bach o obsesiwn gyda’r ‘rownds mawr’ dros y blynyddoedd diwethaf.
Efallai bod ‘obsesiwn’ yn air rhy gryf…ond yn sicr mae gen i chwilfrydedd mawr ynglŷn â’r Bob Graham Roundyn Ardal y Llynnoedd, y Ramsey Round yn Yr Alban, ac yn arbennig felly’r Paddy Buckley Round yn Eryri.
Dwi’m yn rhedwr mynydd o gwbl, ond mae gen i barch mawr iawn at redwyr mynydd ac er bod y gamp yn llawer mwy niché, dwi’n ystyried y goreuon i fod yn llawn cystal athletwyr ag Eliud Kipchoge a Kenenisa Bekele.
Copaon y Paddy Buckley
Mae’r tair rownd fawr yn tua 60 milltir yr un, gyda rhwng 27,000 a 30,000 troedfedd o ddringo, gan ddibynnu ar eich dewis o gwrs ond sy’n gorfod cynnwys hyn a hyn o gopaon mynyddoedd heriol.
Yr her fawr i’r mwyafrif ydy cwblhau’r rownd dan 24 awr, ond gyda’r Paddy Buckley, sy’n fwy heriol na’r ddwy arall yn ôl pob sôn, mae’n debyg bod cymryd mwy na 24 awr yn ddigon derbyniol.
Ond o dipyn i beth, mae’r record ar gyfer y ddau rownd arall wedi cwympo dros yr wythnos diwethaf.
Un o redwyr mynydd amlycaf Ewrop ar hyn o bryd ydy’r Albanwr Finlay Wild, sydd wedi ennill ras enwog Ben Nevis 10 gwaith yn olynol. Bu iddo hefyd dorri record y ‘Welsh 3000s’ llynedd, oedd yn sefyll ers 1988.
Dros y penwythnos, ar 31 Awst, chwalodd Wild y record ar gyfer y Ramsey Round gan redeg y cwrs mewn 14 awr 42 munud a 40 eiliad. Roedd hyn dros awr a hanner yn gyflymach na record flaenorol Es Tresidder sef 16 awr 12 munud. Ac os nad ydy’r gamp yn ddigon anhygoel, fe wnaeth hynny’n llwyr ar ei liwt ei hun heb gefnogaeth. Anhygoel.
Chapeu Math
O fwy o ddiddordeb personol i mi, ac i nifer o ddarllenwyr dwi’n siŵr, ydy’r ffaith bod FKT y Paddy Buckley wedi cwympo wythnos diwethaf hefyd.
Ymdrech gyntaf Math Roberts
Nes i sgwennu darn ar ddechrau’r flwyddyn am y ffaith bod Damian Hall wedi gosod yr FKT ar gyfer y rownd ‘aeafol’, ac yntau hefyd oedd yn dal y record gyffredinol hefyd sef 17 awr 31 munud a 39 eiliad ers haf 2019.
Ro’n i’n ymwybodol fod y Cymro Math Roberts, sy’n rhedwr mynydd adnabyddus o Eryri, wedi rhoi crac ar y record ym mis Gorffennaf eleni a jyst methu gydag amser o 17:37:39 – cwta chwe munud yn brin!!
Dwi’n siŵr i mi glywed sgwrs radio efo fo ar y pryd yn awgrymu ei fod o’n bwriadu rhoi tro arall arni ac fe ddaeth yr ymdrech honno ddydd Sadwrn (30 Awst). A’r tro hwn, fe redodd bron i awr yn gyflymach na’r ymdrech flaenorol gan osod record newydd o 16:38:30. Ymdrech aruthrol, a record fydd yn anodd iawn i’w guro.
Gyda’r Tour de France wedi dechrau, un peth sy’n teimlo’n briodol i’w ddweud – chapeau Math Roberts!
Dwi’n siŵr bod y rhan fwyaf sy’n darllen y blog yma wedi clywed y newyddion na fydd Marathon Llundain yn digwydd ar 4 Hydref eleni.
Dyma oedd y dyddiad newydd a osodwyd ar gyfer y ras enwog yn lle’r dyddiad gwreiddiol ym mis Ebrill wrth i COVID-19 gyrraedd Prydain. Ar y pryd roedd hynny’n swnio’n rhesymol, ond wrth i amser basio a’r pandemig ledaenu roedd y tebygolrwydd o gynnal ras i dros 40,000 o redwyr a thros dri chwarter miliwn yn gwylio ar y strydoedd yn edrych yn fwyfwy annhebygol.
Mae’n debyg fod y trefnwyr wedi bod yn trafod a phrofi system weddol arloesol fyddai’n defnyddio system bluetooth er mwyn galluogi track and trace effeithiol ymysg y rhedwyr, ac mae’n ymddangos y gallai hynny fod wedi gweithio. Ond fel y byddech chi’n disgwyl, y dorf sy’n gwylio’r ras oedd y broblem fawr – byddai’n hollol amhosib i’r trefnwyr allu sicrhau cadw pellter a gweithredu track and trace ymysg y cannoedd o filoedd o gefnogwyr ar y cwrs.
Bydd ras elît yn llenwi’r bwlch mewn rhyw ffordd ar y diwrnod cofiwch, gyda chyfle i weld y ddau redwr marathon cyflyma’ erioed, Eliud Kipchoge a Kenenisa Bekele yn mynd benben dros 26.2 milltir. Prin y gellid labelu hwn fel Marathon Llundain, gyda’r ras i ddigwydd dros 19.8 lap o Barc St James, ond fe ddylai fod yn deledu da – nid annhebyg i ymdrech 1.59 Kipchoge ym mis Hydef llynedd efallai a ddennodd ddiddoreb mawr.
Ras Rithiol
Byddai Marathon Llundain eleni wedi’i gynnal am y deugeinfed tro, ac fel ymdrech arall i lenwi rhywfaint ar y bwlch, mae’r trefnwyr yn cynnig lle mewn ras rithiol i unrhyw un oedd â lle yn y ras.
Roedd y dyddiad cau ar gyfer hwn ddydd Llun, ond ar ôl ystyried yn ofalus mi wnes i benderfyniad i beidio manteisio ar y cyfle, ac mae cwpl o resymau am hynny.
Dwi wedi trafod tipyn ar rasio rhithiol yn ystod y cyfnod clo. Ro’n i’n sicr yn eu gweld nhw’n fuddiol ar y dechrau, ac yn ryw fath o ysgogiad a ffocws ar gyfer hyfforddi. Ond wrth i amser basio, fel cymaint o bethau eraill dros y misoedd diwethaf, mae’r ffatîg wedi cynyddu a dwi wedi blino arnyn nhw ers tipyn bellach.
Mi wnes i redeg marathon rhithiol ar yr wythnos roedd Llundain i fod ym mis Ebrill, fel esgus i orffen y bloc hyfforddi yn fwy na dim. Ond roedd meddwl am orfod rhedeg marathon llawn, caled, arall heb ddim gwirioneddol i ddangos amdano’n ormod i mi ar hyn o bryd.
Lle i bawb…ond ddim cweit
Nes i hefyd benderfyniad i beidio cofrestru am resymau egwyddorol, ac mae hyn yn fwy cymhleth, felly sticiwch efo fi!
Yn ôl yr wybodaeth gan Farathon Llundain, mae cyfle i bawb oedd â lle yn 2020 ohirio eu lle i 2021, 2022 neu 2023. Wel, bron pawb! Mae ‘na un eithriad, sef y rhedwyr hynny oedd wedi cael lle ‘Pencampwriaeth (Championship)’ neu ‘Da Am Oed’ (Good For Age)’ gydag amser mewn ras cyn Ionawr 2019.
Na’i drio egluro amseroedd Pencampwriaeth a Da am Oed yn gryno….
Fel bydd pawb yn gwybod, mae’n anodd iawn cael lle ym Marathon Llundain, ond mae tri opsiwn i bob pwrpas:
Ceisio am le yn y balot – mae tua 17,500 o lefydd, ac fe ymgeisiodd 457,861 o bobl ar gyfer 2020…fel bach ydy’r gobaith!
Cael lle gydag elusen – mae tua 15,000 o lefydd yn cael eu rhoi (neu eu gwerthu) i elusennau. Er mwyn cael un o’r rhain mae’n rhaid i chi godi dros £3000 fel arfer.
Mae 6000 o lefydd yn cael eu cadw ar gyfer rhedwyr cryf, sydd wedi rhedeg marathon, neu hanner marathon mewn rhai achosion, mewn amser cyflym a cwoliffeio i’r ras – sef llefydd Pencampwriaeth a Da am Oed. Rhaid cael amser Da am Oed mewn marathon llawn ar gwrs cydnabyddedig. Mae modd cael lle Pencampwriaeth gydag amser mewn marathon llawn, neu hanner marathon.
Beth ydy amseroedd Da Am Oed? Dyma rai 2020 i ferched:
A dyma rai 2020 y dynion:
Mae’r llefydd yn cael eu rhannu’n hafal, 3000 yr un, rhwng dynion a merched.
O ran amser Pencampwriaeth, dyma’r amseroedd sydd angen:
Marathon dynion – dan 2:45:00
Marathon merched – dan 3:15:00
Hanner Marathon Dynion – dan 1:15:00
Hanner Marathon Merched – dan 1:30:00
Mae’r ffenestr ar gyfer rhedeg yr amseroedd uchod i gyd fel arfer yn ddwy flynedd h.y. i gael lle GFA neu Bencampwriaeth ym Marathon Llundain 2020 roedd angen i chi redeg yr amser rhwng Ionawr 2018 a Ionawr 2020.
Ro’n i’n ddigon ffodus i fod wedi cael lle Pencampwriaeth ar ôl rhedeg yr amser angenrheidiol yn Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref 2018. Y bwriad / gobaith wastad oedd rhedeg y marathon yn 2020, felly ro’n i o fewn y ffenest dwy flynedd a phopeth yn hynci dori. Hynny ydy, nes y newyddion diweddaraf!
Yn hytrach na jyst symud lle pawb i ras 2021, mae’r trefnwyr wedi penderfynu symud y ffenest ar gyfer rhedeg amseroedd Pencampwriaeth a GFA i Ionawr 2019, sy’n golygu bod fy amser i, a sawl un arall, bellach yn anghymwys ar gyfer Hydref 2021.
Ond i ysgafnhau’r siom, maen nhw’n cynnig lle yn y ras dorfol 2023 (!?!) i bawb oedd ag amser wedi’i osod rhwng aIonwr 2018 a Ionawr 2019….ac mae un cyfle arall i ni redeg yn 2021, sef wrth wneud y ras rithiol ar 4 Hydref, a rhedeg yr amser cwoliffeio unwaith eto!
Gyda risg o swnio’n chwerw, dwi’n gweld hyn yn rhyfedd iawn, ac mae gen i sawl problem gyda’r egwyddor.
Ro’n i’n hanner ofni y bydden nhw’n mynnu glynu at y ffenest ddwy flynedd arferol, er bod pawb ro’n i’n siarad gyda nhw’n teimlo mai symud lle 2020 pawb i 2021 fyddai’r peth teg dan yr amgylchiadau. Ond dwi’n hanner cydymdeimlo gyda’r syniad o sicrhau bod y safon yn uchel, ac yn cicio fy hun rywfaint am ddau hanner marathon nes i redeg yn 2020 oedd jyst tu allan i’r amser (yn enwedig y 1:15:10 yn Llyn Efyrnwy!)
Dwi’n weddol ffyddiog bod rhedeg 2:45:00 mewn marathon ffurfiol o fewn fy nghyrraedd, a nes i ystyried cael criw o pacers ynghyd i redeg rhannau o’r pellter gyda fi ar y dydd. Ond ydy hi wir yn werth yr ymdrech jyst er mwyn cael lle yn Hydref 2021? Rhedeg yn Ebrill 2020 yn benodol oedd y nod i mi am resymau personol, ac mae’r cyfle hwnnw bellach wedi mynd, felly dwi ddim wir yn teimlo’n gryf ynglŷn â phryd fyddai’n gwneud y ras yn y dyfodol.
Tu hwnt i drio cael lle yn Hydref 2021, byddai’r marathon rhithiol yma’n hollol ddibwynt – fyddai o ddim yn PB swyddogol, a ddim yn ymddangos ar fy Power of 10. Byddai’n lot gwell gen i redeg yr amser mewn ras go iawn rywdro yn y dyfodol.
Mae gen i amheuon hefyd ynglŷn â synnwyr annog pobl i redeg marathon caled (ac mae’n rhaid i’r rhan fwyaf ohonom ni redeg yn reit galed i dorri 2:45) ar ben eich hun, heb stondinau dŵr nac unrhyw gefnogaeth feddygol petai pethau’n mynd go chwith.
Yn ôl llawer o arbenigwyr, hyn a hyn o farathons cyflym sydd yng nghoesau rhywun – dyma pam fod y rhedwyr gorau’n cyfyngu eu hunain i un neu ddau mewn blwyddyn. Ydy hi wir yn gwneud sens i wastraffu bwled ar ras rithiol?
Y peth arall dwi’n gweld yn rhyfedd ydy bod y trefnwyr ar un llaw yn ceisio sicrhau hygrededd a safon y llefydd Pencampwriaeth/GFA trwy barchu’r ffenestr dwy flynedd arferol, ond ar y llaw arall yn fodlon tanseilio hynny trwy gynnig llefydd i bobl sy’n gwneud ras rithiol sy’n amhosib monitro. Mae’n siŵr bod ganddyn nhw ffordd o sicrhau na fydd hynny’n digwydd, ond mewn theori gallai rhywun wneud y marathon ar feic, neu rannu’r pellter gyda rhedwr arall. Neu beth os ydy rhedwyr cyflym yn cynnig gwisgo sawl oriawr a gwerthu eu hamser i bobl eraill am bris?
Yr ystyriaeth arall wrth gwrs ydy nad yw hon yn ffenestr ddwy flynedd lawn, gan nad oes unrhyw rasio ers misoedd – prin iawn fu’r cyfleoedd i redeg marathon neu hanner marathon cyflym yn 2020, a does wybod a fydd unrhyw gyfleoedd rhwng hyn a mis Ionawr 2021.
Rhaid talu £20 i gofrestru ar gyfer y ras rithiol, ac er mod i’n gyndyn i ddweud a chredu hynny, dwi’n ofni bod y trefnwyr yn rhoi budd ariannol uwchlaw lles rhedwyr yn yr achos yma. Dwi’n methu gweld unrhyw gyfiawnhad arall dros y penderfyniad. Os ydy hynny’n wir, mae’n siomedig iawn ac yn gwneud i mi gwestiynu fy awydd i redeg y ras yn y dyfodol.
Dwi wedi gweld sawl un yn ymateb yn chwyrn i hyn oll ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae deiseb ar y gweill hefyd.
Mae’n gyfnod heriol i bawb, a dwi’n parchu pob ymdrech gan drefnwyr i geisio sicrhau bod rasio’n ail-ddechrau’n ddiogel yn y dyfodol – dyma mae pawb am ei weld. Er mai nifer fach o bobl mae polisi Marathon Llundain yn effeithio, dwi’n ofni eu bod nhw’n cymryd cam gwag yn yr achos yma.
Does dim amheuaeth ei bod hi’n oes aur i redeg yltra ar hyn o bryd, ac mae argyfwng Covid-19 a’r cloi mawr wedi ychwanegu at hynny.
Nes i gyhoeddi darn gwpl o wythnosau nôl yn trafod FKTs, gan drafod rhai amseroedd gorau arwyddocaol oedd wedi eu gosod dros y dyddiau cyn hynny. Bron y gallwn i fod wedi ysgrifennu darn bob yn ail ddiwrnod ers hynny’n sôn am record yltra arall sydd wedi’i dorri.
Dyma ddiweddariad bach felly ar rai o’r pethau mwyaf trawiadol sydd wedi bod ar y gweill, a thri FKT arwyddocaol iawn a osodwyd dros y penwythnos.
Chwalu FKT 31 mlwydd wythnos oed
Yn y darn blaenorol, fe soniais am y ffaith bod FKT 31 mlwydd oed Mike Hartley ar gyfer y Pennine Way wedi’i dorri gan John Kelly ar 16 Gorffennaf.
Rai dyddiau’n ddiweddarach, daeth i’r amlwg fod Damian Hall, y rhedwr yltra gwych sy’n dal FKTs haf a gaeaf Rownd y Paddy Buckley, ar fin dechrau ymgais ei hun ar yr her 268 milltir.
Gan wybod tipyn am hanes Hall, roedd gen i deimlad y byddai ganddo gyfle da iawn o dorri’r record. Gan wybod hefyd ei fod yn ymgyrchydd amgylcheddol, doedd hi ddim yn syndod chwaith clywed ei fod yn bwriadu casglu sbwriel wrth redeg hefyd!
Chwalodd Hall amser John Kelly gyda thros dair awr i’w sbario – 61:35:15. Roedd Kelly, a Mike Hartley yna i’w longyfarch wrth iddo gwblhau’r daith, ac mae hynny’n nodweddiadol o’r heriau yma – mae deiliaid y record bob amser yn gefnogol, ac yn wir, yn barod i helpu ymdrechion i’w torri.
Dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf, dwi wedi datblygu bach o obsesiwn gyda’r Bob Graham Round yn Ardal y Llynnoedd, ac ers darllen y gyfrol arddechog Feet in the Clouds gan Richard Askwith mae’r diddordeb wedi tyfu’n fwyfwy.
Rhedwr mynydd gorau’r byd, Killian Journet sy’n dal y record ar gyfer y cwrs 66 milltir dros 42 o gopaon uchaf Ardal y Llynnoedd gydag amser boncyrs o 12 Awr 52 munud, oedd dros awr yn gynt na record y chwedlonnol Billy Bland oedd yn sefyll ers 36 o flynyddoedd.
Mae record Bob Graham y merched wedi newid dwylo’n fwy rheolaidd yn ddiweddar.
Gosodwyd y record o 18 awr a 6 munud gan yr anhygoel Nicky Spinks yn 2015 cyn i Jasmin Paris chwalu hyn flwyddyn yn ddiweddarach gydag amser o 15:24 fyddai’n amser anhygoel i’r dynion cyflymaf.
Cwympodd yr FKT eto ddydd Gwener diwethaf wrth i Beth Pascall gwblhau’r her mewn 14 awr a 34 munud – amser cwbl ryfeddol gan y ferch 32 oed o Swydd Derby, y 5ed amser gorau gan unrhyw un ar gyfer y cwrs.
Dywed Pascall ei bod wedi penderfynu mynd am y Bob Graham ar ôl i’w hamserlen rasio gael ei chwalu gan Covid – mae ei henw yn y llyfrau hanes diolch i’r pandemig, a bydd yn anodd iawn curo yr amser.
LEJOG
Does dim dau heb dri medden nhw, a’r trydydd FKT anhygoel i ddal y sylw dros y penwythnos oedd hwnnw ar gyfer ‘LEJOG’, sef y daith o Land’s End yng Nghernyw i John O’Groats yn Yr Alban.
Yr athletwraig yltra Carla Molinaro sydd wedi dwyn y penawdau gan redeg y cwrs 874 milltir mewn 12 diwrnod, 30 munud ac 14 eiliad a churo’r RKT a osodwyd gan Sharon Gayter llynedd (12 diwrnod, 11 awr, 6 munud a 7 eiliad).
Er mwyn torri’r FKT bu’n rhaid i Molinaro redeg rhwng 12 ac 16 awr bob dydd, oedd yn cyfateb i tua 73 milltir y dydd – pellter gwallgof. Gwerth nodi gyda llaw bod Sharon Gayter yn un o’r rhedwyr a’i chefnogodd n ystod yr ymdrech.
Mae’n debyg gyda llaw fod ymdrech ar y gweill ar hyn o bryd gan Dan Lawson, sylfaenydd cwmni ReRun Clothing, i redeg LEJOG mewn llai na 10 diwrnod. Dwi ddim yn sicr os ydy hwn yn ymdrech FKT, ond y record i ddynion ar hyn o bryd ydy 9 diwrnod, 2 awr a 26 munud a osodwyd gan Andrew Rivett yn 2002.
Gyda llaw, mae ymdrech Rhys Jenkins i osod FKT ar gyfer rhedeg llwybr arfordir Cymru dal ar y gweill, ac yn mynd yn dda – mwy am yr ymdrech ar y blog diweddar yma.
Wel, o’r diwedd, mae’r aros ar ben ac mae pennod gyntaf podlediad Y Busnes Rhedeg ‘Ma yn gweld golau dydd!
Efallai bydd rhai yn cofio darllen fy narn blog cyntaf beth amser nôl, oedd yn sôn am fy nyhead i gyhoeddi podlediad yn trafod rhedeg yn y Gymraeg. Yn wir, dwi’n sôn am wneud hynny ers sawl blwyddyn bellach, a hyd yn oed wedi dechrau recordio ambell waith ers hynny!
Am resymau amrywiol, nes i byth lwyddo i gymryd y cwpl o gamau olaf yna, sef golygu a chyhoeddi’r podlediau peilot yma. Mae’n ymddangos mai’r hyn oedd angen i wneud hynny yn y diwedd oedd stori wirioneddol dda gan redwr sydd, yn fy marn i beth bynnag, wedi llwyddo i ysbrydoli.
Dwi’n falch iawn felly mai gwestai cyntaf podlediad Y Busnes Rhedeg ‘Ma felly ydy Gwyndaf Lewis. Mae cyfnod y cloi mawr wedi bod yn heriol i Gwyndaf mewn sawl ffordd, ac mae’n trafod hynny mewn mwy o fanylder yn y podlediad. Heb ymhelaethu’n ormodol, mae wedi defnyddio rhedeg, a dwy her redeg eithafol fel arf i fynd i’r afael â chyfnod anodd, a helpu eraill wrth wneud hynny. Ysbrydoliaeth heb os.
Y gobaith ydy cyhoeddi podlediad yn weddol rheolaidd, unwaith y mis yn sicr. Cyfweliadau gyda rhedwyr fydd asgwrn cefn y podlediadau, ond gydag ambell eitem yn ymwneud â rhedeg, ynghyd â cyflwyniad i bach o gerddoriaeth hefyd!
Mae gen i restr hyd fy mraich o bobl fyswn i’n hoffi sgwrsio â nhw ar y pod, ond fyswn i’n falch iawn i glywed awgrymiadau gan ddarllenwyr/gwrandawyr hefyd – sylwadau isod neu gyrrwch nodyn ar Facebook / Twitter.
Gobeithio bydd y podlediad ar gael ar y llwyfannau arferol, ond fe alla gymryd bach yn hirach i gyrraedd rhai o’r rhain (yn enwedig iTunes mae’n debyg). Mae o ar Anchor, Spotify, Castbox, Pocket Casts a chwpl o lefydd eraill yn barod.
Dwi allan o bractis braidd, felly ma’r ymdrech gyntaf yma fymryn yn amrwg…ond gobeithio bydd y podlediadau’n gwella wrth fynd yn eu blaen.
Gobeithio byddwch chi’n mwynhau’r bennod gyntaf, ond plîs, rhowch wybod eich barn a gadewch adolygiad os yn bos!
Mae'r podlediad yn ôl yn dilyn saib fach, a gwestai cyntaf yr ail gyfres ydy ffrind mawr i'r pod, Dyfed Whiteside-Thomas. Mae Dyfed yn aelod o Glwb Harriers Eryri, ac yn bennaf gyfrifol am y 'Sesiwn Elltydd' enwog (Thursday Night Hills) yn Llanberis. Mae hefyd yn rhedwr arbennig ac rydan ni'n sgwrsio'n fuan ar ôl iddo redeg marathon wych yng Nghasnewydd gan orffen mewn 2:43:57 – y Cymro cyntaf yn ei gategori oedran, sy'n ei wneud yn bencampwr M45 Cymry yn ein tyb ni, gan bod y ras yn Bencampwriaeth Meistri Cymru eleni (canlyniadau llawn). Sgwrs ddifyr, gyda boi da.
Cyfle hefyd i grynhoi canlyniadau rhywfaint o'r rasys sydd wedi bod yn ddiweddar, wrth i bethau ail-ddechau o ddifrif. Lot mwy o hyn yn y gyfres gobeithio.
Cerddoriaeth y bennod yma ydy 'Dyma Kim Carsons' gan y grŵp newydd o ardal Pontypridd, Y Dail. Allan yn ddigidol rŵan.
Darn bach byr yn dilyn y blog diweddaraf ynglŷn â’r holl heriau FKT diweddar…
Yn dilyn cyhoeddi’r blog hwnnw fe dynnodd Huw Euron ar Twitter fy sylw at y ffaith bod Cymro’n mynd am FKT llwybr arfordir Cymru, gan ddechrau heddiw.
Rhys Jenkins ydy’r athletwr dan sylw, ac mae’n dod o Benarth.
I gwblhau’r her epig bydd rhaid iddo redeg 870 o filltiroedd ar hyd arfordir Cymru, gan ddechrau yn Fferi Buddug (Queensferry) yn Sir y Fflint, a gorffen yng Nghas-gwent (Chepstow). Bydd unrhyw un sydd wedi cerdded rhannau o lwybr yr arfordir yn gwybod ei fod yn fryniog, a bydd rhaid i Rhys ddringo cyfwerth â 4.5 gwaith Everest ar ei daith.
O ie, ac i guro’r FKT sy’n sefyll ar hyn o bryd, bydd rhaid iddo orffen mewn llai na 20 diwrnod 12 awr a 55 munud.
Her fawr
Gŵr o Seland Newydd, James Harcombe, sy’n dal y record ar hyn o bryd, a hynny ers Mai 2017.
Gwerth nodi mai’r FKT ar gyfer rhedeg gyda chefnogaeth ydy hon (‘supported’) – mae FKTs ar wahan ar gyfer hunan-gefnogi (‘self supported’), ac o bosib heb gefnogaeth (‘unsupported’) … er mod i’n methu ffeindio’r record ar gyfer yr olaf o’r rhain. Lee Butters sy’n dal yr FKT ar gyfer rhedeg hunan-gefnogaeth – 26 diwrnod, 15 awr a 44 munud.
Dwi ddim am fynd i fanylu ynglŷn â’r gwahaniaeth rhwng rhain i gyd ar hyn o bryd gan ei fod o’n gymhleth!!
Maen swnio fel her aruthrol. Ar un pryd, mi wnes i gael y syniad o redeg y llwybr fel rhyw fath o her bersonol – gwyliau bach corfforol…nes i mi weld rhai o’r ffeithiau uchod!
Ydy Rhys yn mynd i allu ei gwneud hi? Wel, mae ganddo fo gystal cyfle ag unrhyw un. Rhys oedd y Cymro cyntaf i gwblhau ras enwog Badwater yn yr Unol Daleithiau. Bydd unrhyw un sydd wedi darllen llyfr ‘Eat and Run’ gan Scott Jurek yn gwybod tipyn am hon – 135 milltir sy’n dechrau yn Death Valley, a gorffen ar Mount Whitney sy’n 8,360 troedfedd o uchder, gan deithio trwy anialwch poetha’r byd.
Mae’n rhaid i chi gael CV cryf jyst i ennill lle yn y ras honno, ac roedd Rhys i fod nôl yno eto eleni ond i COVID-19 roi stop ar y cynlluniau.
Mae modd i chi dracio ymgais Rhys, gyda’r manylion ar wefan ei dîm, Rokman. Mae hefyd yn codi arian at dair elusen, CF Warriors, NSPCC a Maggie’s, Caerdydd ac mae gwahoddiad i chi ymuno i’w gefnogi am rai milltiroedd os ydach chi ffansi (manylion amserlen ar wefan Rokman eto).
Mae ‘na gyfweliad gyda Rhys ar bodlediad Life of Tri (sydd hefyd ar YouTube) os ydach chi awydd gwybod mwy amdano.
Mensh i Gwyndaf a Guto
Gan mod i’n trafod Llwybr yr Arfordir, dwi am roi mensh fach fer i her arall a gwblhawyd wythnos diwethaf.
Doedd hon ddim yn FKT, ond dal yn her fawr wrth iddyn nhw redeg 186 milltir a dringo uchder Everest dros 7 diwrnod.
Mae Gwyndaf yn un o ddarllenwyr y blog, yn foi da, ac wedi codi arian at lwyth o elusennau dros y blynyddoedd diwerthaf. Dwi’n gobeithio gallu ei gyfwel do’n fuan i gael mwy o’r hanes.
Roedd ‘na eitem fach neis am yr her ar Heno, S4C wythnos diwethaf sy’n egluro mwy: