Design a site like this with WordPress.com
Cychwyn arni

Be FKT?

Na, does dim yn anweddus am y blog yma (gobeithio) felly gwell dechrau trwy egluro beth ydy ‘FKT’…

FKT = ‘Fastest Known Time’

Os ydach chi’n dilyn y cyfryngau rhedeg, a’r rhai rhedeg mynydd, trêls ac yltra dros yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, byddwch chi wedi dod ar dras y term a’r hashnod #FKT sawl gwaith mae’n siŵr.

Y rheswm syml am hynny ydy gan fod nifer o ‘Fastest Known Times’, neu recordiau rhedeg pellter i bob pwrpas, wedi eu gosod yn ddiweddar.

Beth yn union ydy Fastest Known Time felly?

Yn gryno, maen nhw fel arfer yn recordiau rhedeg pellter ‘arbennig’ penodol. Mewn theori, gallwch greu eich her eich hun, a gall fod o unrhyw bellter, ond mae bri arbennig i heriau pell iawn, ac ar gyrsiau diddorol y bydd pobl eraill yn awyddus i’w efelychu.

Hyd y gwn i, dydy FKT ddim hyn cyfri fel record byd ‘swyddogol’ ond yn y cylchoedd rhedeg gwirioneddol hardcôr, mae kudos arbennig iddyn nhw.

Mae’n werth bwrw golwg ar dudalen ganllawiau gwefan Fastest Known Time i gael gwell syniad o’r math o beth maen nhw’n hyrwyddo. Fe welwch fan hyn bod ganddyn nhw ‘Premier Routes’ maen nhw’n annog ar gyfer y flwyddyn, ac mae rhain dros y byd i gyd.

Mae gwefan Fastest Known Time hefyd yn cynnwys rhestr o ymdrechion sydd ar y gweill, ac mae modd i chi dracio’r athletwyr yma.

Pawb a’i nain

Diddorol iawn dwi’n clywed chi’n dweud, ond pam sôn am hyn rŵan? Wel, oherwydd mae’n ymddangos fod pob rhedwr yltra a’i nain wedi bod yn rhoi tro ar FKT ers i’r rheolau cloi mawr lacio rhywfaint.

Dros y bythefnos ddiwethaf yn unig rydan ni wedi gweld ambell FKT arwyddocaol iawn yn Lloegr a’r Alban…

3 Gorffennaf – gyda’r rheolau teithio 5 milltir yn llacio penderfynodd y rhedwr yltra James Stuart i roi tro ar FKT y John Muir Way ar draws Yr Alban, gan chwalu’r record ar gyfer y cwrs 134 milltir. Rhedodd o Helensburgh yn y Gorllewin, trwy Gaeredin, a gorffen yn Dunbar ar arfordir Dwyrain Yr Alban mewn 21:53:22 – ac roedd hynny 7 awr yn gyflymach na’r FKT blaenorol! Dyma fideo fideo byr o’r antur hir:

11 Gorffennaf – fe osododd y rhedwr mynydd Kim Collison FKT newydd ar gyfer y nifer o ‘Wainwrights’ roedd modd rhedeg mewn 24 awr (mwy am y Wainwrights yn y blog am ffilm Paul Tierney). Roedd y record flaenorol gan Mark Hartell yn sefyll ers 23 mlynedd – 77 copa mewn 23 awr a 47 munud. Llwyddodd Kim Collison i gwblhau 78 copa – 145km mewn pellter gyda 11,750 metr o ddringo! Wff.

12 Gorffennaf – llwyddodd Sabrina Verjee i gwblhau cylch o fynyddoedd y Wainwrights i gyd ar unwaith. Y ferch gyntaf i wneud hynny, a’r trydydd cyflyma erioed ar ôl y dynion Paul Tierney a Steve Birkinshaw. 214 copa yn ardal y llynnoedd, 318 milltir a 36,000m o ddringo mewn 6 diwrnod, 17 awr a 51 munud – rhyfeddol. Er hynny, ers cwblhau’r her mae Sabrina wedi datgan nad ydy hi eisiau i’r ymdrech gael ei gyfri fel FKT gan ei bod wedi derbyn ychydig o gymorth wrth ddod lawr ambell fynydd oherwydd anaf i’w phen-glin. Mae hyn yn dweud tipyn am yr athletwr.

16 Gorffennaf – record hirdymor arall yn cael ei dymchwel wrth i John Kelly osod amser gorau ar gyfer y Pennine Way. Cwrs 268 milltir yn rhedeg o Edale yn Swydd Derby i Kirk Yetholm ar y ffin rhwng Lloegr a’r Alban. Roedd Mike Hartley yn dal y record ers 1989 cyn i John osod amser o 2 ddiwrnod, 16 awr a 46 munud yr wythnos hon – 34 munud yn gynt na’r amser gorau blaenorol.

Ffocws gwahanol

Dim ond detholiad bach o’r FKTs diweddar mwyaf trawiadol sydd yma, dwi’n weddol siŵr fod sawl un arall dros y cwpl o wythnosau diwethaf dwi heb ddod ar eu traws. Ond pam felly?

Wel, does dim rasys arferol ar hyn o bryd wrth gwrs – y math o rasys fyddai efallai’n cipio’r penawdau newyddion fel arfer, felly mae cyfle i’r rhedwyr yltra, sy’n gamp mwy niché, ddisgleirio.

Gyda dim rasio ar y gorwel chwaith, mae heriau FKT yn rywbeth bach (neu ‘fawr’ yn fwy addas efallai) i droi ffocws atyn nhw. Mae rhedeg yltra yn gamp social distancing berffaith – rhywbeth y gallwch chi wneud yn unigol, neu gyda chriw bach o gefnogwyr, ac yn aml ar gyrsiau diarffordd lle byddwch chi’n dod ar draws ychydig iawn o bobl eraill.

Dwi wedi dweud sawl gwaith ar y blog nad ydw i’n rhedwr mynydd, nac yn rhedwr yltra chwaith – y cyflymder ydy apêl mwyaf rhedeg i mi. Ond dwi’n cyfaddef hefyd fy mod i wedi datblygu diddordeb sylweddol mewn heriau mawr dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf – y rownds mawr, Bob Graham a Paddy Buckley yn arbennig, ond dwi hefyd yn chwilfrydig ynglŷn â heriau aml-ddiwrnod. Mae rhyw deimlad o antur a rhamant ynghlwm â nhw sy’n amhosib ei anwybyddu i rywun sy’n mwynhau’r awyr agored, a phrofi eu corff.  

Rhaid cyfaddef hefyd fod gen i ambell syniad am anturiaethau epig yng nghefn fy meddwl ers peth amser hefyd. Un peth dwi wedi trafod gyda sawl person ydy rhedeg llwybr arfordir Bae Ceredigion i gyd rywdro yn y dyfodol, ac yn sicr dwi’n gobeithio ychwanegu at y cymalau yng Ngheredigion dwi eisoes wedi gwneud dros yr haf. Mae gen i hefyd gwpl o syniadau eraill o rŵts epig gweddol leol fyswn i’n hoffi eu gwneud rywdro, a dwi wedi dechrau edrych o ddifrif ar rhain yn ddiweddar…a pham lai?

Ar hyn o bryd, does dim llawer o sôn am rasio yn y dyfodol agos. Gan ystyried hynny, o bosib mai eleni ydy’r cyfle i drio ambell her wahanol, a phwy a ŵyr, efallai osod ambell FKT o’r newydd i eraill drio eu curo.

Prif Lun: map Strava ymdrech FTK llwyddiannus Kim Collison

Strava – caeth i’r kudos

Wythnos diwethaf cefais wahoddiad ar raglen Radio Cymru Aled Hughes i drafod enwau segments Strava. 

Roedd o’n gyfle hefyd i drafod dafnydd Strava yn ehangach – rhywbeth dwi wedi meddwl tipyn amdano dros y cyfnod cloi. 

Mae tipyn o sôn wedi bod am yr holl redwyr newydd sydd wedi ymddangos dros y cyfnod yma, yn benodol felly yn ystod cyfnod cyntaf y cloi gyda’r rhyddid i ymarfer unwaith y dydd yn un o’r unig gyfleodd i adael y tŷ yn ôl canllawiau’r llywodraeth. 

Yn sicr dwi wedi gweld llawer mwy o bobl yn ymuno – wrth gysylltu eich cyfrif Strava gyda’ch Facebook rydach chi’n cael hysbysiad pan fo ffrind FB yn ymuno â Strava, a dwi wedi colli cownt ar sawl un o’r rhain dwi wedi derbyn yn ddiweddar. 

Er nad ydy hynny’n wir am y rhedwyr hirdymor i gyd, dwi’n sicr yn croesawu yr holl redwyr newydd, a’r ffaith eu bod nhw’n troi at Strava. Dwi wedi edrych ar gwpl o apps eraill dros y cyfnod yma, ond does dim un hyd yma’n cynnig cystal adnodd gwybodaeth a rhyngweithio â Strava (rhowch sylw isod os allwch chi awgrymu rhai da i’w trio). 

O’r hyn dwi wedi gweld, ynghyd â Zoom, Strava ydy un o enillwyr mawr argyfwng COVID-19. Y sôn ydy bod y nifer sydd wedi lawr lwytho’r app wedi dyblu ers Ionawr 2020 ac mae hynny’n agor posibiliadau mawr i’r cwmni sydd hyd yma heb feistrioli’r her o wneud elw. 

Yr hyn sy’n gwneud Strava’n well nag apps ymarfer corff eraill yn fy marn i ydy’r elfennau rhyngweithiol. Yn sicr tydi Strava ddim yn yr un categori o gyfrwng cymdeithasol â Facebook a Twitter eto, ond i gynulleidfa benodol mae’n llawer mwy perthnasol. Hynny ydy, does gan 90% o’ch ffrindiau/dilynwyr Facebook a Twitter ddim diddordeb o gwbl mewn llun o’ch Garmin yn dangos eich bod chi wedi rhedeg 10k mewn 45 munud – ar y llaw arall, mae 90% o’ch dilynwyr Strava yn sicr gyda diddordeb yn hyn. Ac ar ben hynny, maen nhw’n deall yn union beth mae hyn yn golygu i chi, ac yn mynd i ymateb yn gadarnaol trwy roi kudos neu sylw bach o ganmoliaeth. 

Y da, y drwg a’r ffit

Cofiwch chi, dwi ddim yn dweud fod Strava’n dda i gyd. Dwi’n credu bod nifer o beryglon ynghlwm â’r platfform, fel pob cyfrwng cymdeithasol arall. Ond o fod yn ymwybodol o’r manteision ac anfanteision, ac o’ch defnydd personol o’r app, mae modd ei ddefnyddio’n effeithiol er budd eich iechyd a ffitrwydd. 

Beth am ddechrau gyda’r peryglon? Sut yn y byd all app sy’n eich annog i gadw’n ffit fod yn ddrwg i chi? 

Y man dechrau, fel gyda phob cyfrwng cymdeithasol am wn i, ydy’r peryg o fynd yn gaeth iddo a gadael iddo reoli eich bywyd, neu’n fwy penodol eich hyfforddi. Dwi’n credu mai’r peth mawr i osgoi ydy dechrau pob ymarfer yn meddwl am sut mae o’n mynd i edrych ar Strava. Rydan ni gyd yn euog o wneud gormod weithiau, a pheidio gwneud digon o redeg hawdd, ac os ydach chi eisiau i’ch cyfartaledd cyflymder ar bob ryn edrych yn gyflym, wel mae’r peryg yn amlwg. 

Yn gysylltiedig â hyn mae’r demtasiwn i edrych ar beth mae pawb arall yn gwenud a chymharu eich hyfforddi chi gyda hynny, neu geisio efelychu. 

Yn sicr mae Strava’n gallu bod yn ddefnyddiol o ran codi syniadau am sesiynnau newydd, ond mae pawb yn wahanol ac mae angen i bawb ffeindio beth sy’n gweithio iddyn nhw, nid i rywun arall. Trwy efelychu rhywun arall a pheidio darganfod beth sy’n gweithio i chi, dyna lle mae’r peryg o anaf. A cofiwch, yn debyg iawn i Instagram a Facebook mae pobl yn dewis a dethol yr hyn maen nhw’n dangos ar Strava ac efallai nad ydy bywyd yn fêl i gyd. 

Ac yna mae ganddoch chi’r segments,  sy’n gallu bod yn hwyl, ond mae’r ‘cythraul’ yn gallu cydio…a phobl yn gallu gwneud bach o ffyliaid o’u hunain wrth frwydro bach yn rhy frwdfrydig dros segment. Dwi eisoes wedi trafod rhywfaint ar hyn mewn darn blog blaenorol, ac mae’r ffaith bod modd i bawb weld eich ‘elapsed time’ ar weithgaredd Strava bellach yn amlygu’r @stravawankers yn fwy nag erioed! 

Yr elfennau defnyddiol

Er fod ambell drap hawdd cwympo mewn iddynt ar Strava, ar y cyfan dwi’n credu ei fod yn arf defnyddiol iawn i redwyr. Dyma rai o’r mantesion…

Ysgogiad – Dwi’m yn gystadleuol iawn pan ma hi’n dod at segments, ond byddai pawb yn cyfaddef ei bod hi’n braf bachu coron neu le yn y deg uchaf nawr ac yn y man. Maen nhw hefyd yn gallu bod yn ffordd dda o fesur gwelliant, yn enwedig y segment hirach sydd efallai’n ddringfa fawr neu lŵp poblogaidd. Os ydach chi’n clocio eich amser personol gorau yna mae’n dangos datblygiad. Ond cofiwch gymharu gyda’ch amseroedd blaenorol chi yn hytrach na rhai pobl eraill! 

Darganfod – Mae segments yn gallu bod yn ddefnyddiol wrth chwilio am rŵt newydd, yn enwedig yn rhywle anghyfarwydd. Dwi wedi defnyddio’r adnodd chwilio segment sawl gwaith pan dwi ffwrdd o adref yn rhywle gwahanol i gael syniad o’r rŵts poblogaidd yn lleol. Os ydy cwrs yn cynnwys nifer o segments yna gallwch chi fod yn weddol ffyddiog fod y lwybrau’n rai diogel a chyfeillgar i redwyr. Mae hi hefyd yn reit braf rhedeg rŵt am y tro cyntaf a dod ar draws segment ar hap, a gweld pa redwyr eraill sydd wedi troedio’r un cwrs – byddwch chi’n adnabod un neu ddau o’r enwau’n fwy aml na pheidio. 

Cymuned – Dwi’n sôn yn aml am gyfoeth y gymuned redeg, a dwi wir yn meddwl nad oes cymuned debyg iddi. Mae Strava’n ran o’r gymuned honno erbyn hyn, a dyma’r platfform gorau ar gyfer ymgysylltu’n ddigidol gyda rhedwyr eraill ac efallai gymharu nodiadau. Yn sicr yn ystod cyfnod y cloi, pan mae’r rhan fwyaf ohonom wedi bod yn rhedeg yn unigol, mae wedi cynnig modd i redwyr ryngweithio. 

Kudos – Heb os mae mwy i fywyd na ‘likes’, ond mae kudos ar Strava yn gallu bod yn annogaeth fach ddefnyddiol, ac yn aml iawn bydd rhedwyr eraill yn barod iawn gyda’u sylwadau cefnogol os fyddwch chi wedi gwneud ymdrech lew. 

Cofnod – Rydan ni fel rhedwyr yn gallu bod bach yn obsessive – sawl un ohonoch chi sydd wedi cyrraedd nôl at ddrws y tŷ gyda’r watch yn dangos 4.9 milltir, a throi rownd i orffen y 0.1 ychwanegol? Rhaid peidio poeni gormod am gyrraedd rhyw nifer penodol o filltiroedd bob wythnos, ond mae Strava yn ffordd dda o gadw cofnod o’r hyn rydach chi’n gwneud, ac mae hyn yn gallu bod yn ddefnyddiol wrth edrych nôl ar beth weithiodd i chi cyn rhedeg ras dda yn y gorffennol. Mae hyn hefyd yn dda er mwyn sicrhau nad ydach chi’n codi’r nifer milltiroedd wythnosol yn rhy gyflym fel sy’n demtasiwn weithiau. Mae’r adroddiad diwedd blwyddyn yn gallu bod yn ddifyr hefyd, ac mae’n braf edrych nôl tua cyfnod y Nadolig ar yr hyn rydach chi wedi cyflawni dros y flwyddyn a fu. Er hynny, mae llawer o redwyr yn cadw log papur hefyd, lle mae modd gwneud ambell nodyn mwy personol o bosib – dwi wedi dechrau gwneud hynny eleni. 

Heriau – dwi ddim yn creu bod yr heriau rhedeg ar Strava cystal â’r rhai seiclo eto, ond mae’r bathodynnau digidol am gwblhau pellter penodol, neu ddringo 2000m mewn mis yn sicr yn ysgogiad i rai. Dros y cyfnod diwethaf dwi hefyd wedi gweld sawl clwb neu grŵp rhedeg yn gosod heriau i’r aelodau. Mae clwb gwych Sarn Helen yn Llanbed wedi bod yn gosod heriau hwyliog i’r aelodau’n wythnosol ac mae hyn i’w weld yn cynnal yr ysbryd yn ystod y cyfnod cloi. Un o’r cynharaf, a gorau, oedd wrth i un o’r rhedwyr greu 13 o segments cudd  rownd Llanbed i’r lleill geisio darganfod – dwi’n meddwl bod wy Pasg i’r un oedd yn ffeindio’r nifer fwyaf! 

Dwi’n meddwl bod manteision Strava’n dipyn mwy na’r anfanteision a byswn i’n annog unrhyw un sy’n newydd i redeg i greu cyfrif i weld beth sydd ganddo i’w gynnig. Jyst cofiwch am y peryglon hefyd a phan ddaw at hyfforddi bod pawb yn wahanol. Cofiwch hefyd fod yna etiquette pan ddaw at segments yn arbennig – peidiwch disgyn i’r categori ‘Ross Barkey 5k’! 

Dwi am sgwennu darn arall yn trafod segments yn benodol yn fuan, felly cadwch olwg am hwnnw, a croeso mawr i chi sôn am eich profiadau o ddefnyddio Strava yn y sylwadau isod. 

Gormod o rasio

Dwi’n meddwl mod i angen brêc fach o rasio.

Datganiad rhyfedd iawn o ystyried y sefyllfa rydan ni ynddi ar hyn o bryd, lle mae pob ras redeg ers diwedd mis Mawrth wedi eu gohirio, ac amheuaeth mawr ynglŷn â’r gobaith o weld unrhyw rasys yn cael eu cynnal cyn diwedd y flwyddyn. 

Wedi dweud hynny, mae rasys rhithiol heb os wedi llenwi bwlch yn ddiweddar, gan gynnig rhywfaint o ysgogiad, a rhyw fath o ffics cystadleuol i nifer fawr o redwyr clwb rhwystredig. 

Nes i ysgrifennu fy mlog cyntaf yn trafod rasio rhithiol nôl ar ddiwedd mis Mawrth, yn fuan iawn ar ôl y cloi mawr, ac ar y penwythnos lle ddylen i fod wedi bod yn rhedeg 10k Bae Caerdydd. Yn lle hynny, ro’n i’n rhedeg ‘ras’ 10k ar ben fy hun yn Aberystwyth – ras rithiol fach wedi ei threfnu gan drefnydd cwpl o rasys lleol yn Aberteifi. 

Roedd y cysyniad o ras rithiol yn rhywbeth newydd iawn i mi ar y pryd, ond ers hynny mae rasys o’r fath wedi dod yn gyffredin iawn, a bron bod gormod o ddewis o rasys i’w gwneud bob penwythnos. 

Dwi wedi bod yn frwd iawn drostyn nhw ar y cyfan, yn eu gweld nhw fel cyfle i gefnogi rasys bach sy’n methu digwydd eleni, fel modd o gefnogi elusen, fel ffordd o gadw mewn cysylltiad ag aelodau eraill o’ch clwb a chlybiau eraill, ac fel rhyw fath o ysgogiad ar gyfer parhau i hyfforddi’n weddol galed. 

Felly pam y datganiad agoriadol i’r darn yma felly? 

Dyma grynhoi’r holl rasys rhithiol dwi wedi cymryd rhan ynddyn nhw ers dechrau’r locdown:

Diwedd Mawrth

10k rithiol RHFC (yn lle 10k Bae Caerdydd)

Ebrill

Virtual Great Welsh Marathon

Mai

Ras Filltir Bannister BMC (dwy ymdrech gan fod y gyntaf ar gwrs anghymwys – doh!)

5k Athletau Cymru

Cyfres 5k Rheadr – Ras 1

Ras Filltir Athletau Cymru (dwy ymdrech gan mod i ddim yn fodlon â’r gyntaf!)

Cyfres 5k Rheadr – Ras 2

Mehefin

Ras gyfnewid Clwb Rhedeg Llanelwedd (2 x shifft 45 munud – bron 16 milltir)

Cyfres 5k Rheadr – Ras 3

Relay Ffordd 5k BMAF

Time Trial 10 Milltir Clwb Athletau Aberystwyth

Gweld be dwi’n feddwl! 

Troi’n faich

Roedd y rasys rhithiol cyntaf yn reit ddiddorol, yn bach o novelty, ond erbyn hyn maen nhw wedi dechrau mynd yn faich…ac fe allwn i fod wedi gwneud sawl un arall fel ras 3k y BMAF a ras 10k rithiol Deiniolen wythnos diwethaf. Gormod o bwdin!

Er mod i wedi blino rhywfaint erbyn hyn, dwi wedi gweld gwerth yn y rasys rhithiol yma, ac efallai fod bai arna’i am drio cefnogi cymaint â phosib ohonyn nhw yn hytrach na dewis a dethol. Dwi wedi teimlo rheidrwydd i wneud i raddau. 

Heb os roedd y cwpl o rai cyntaf yn ddefnyddiol wrth i mi orffen y bloc hyfforddi marathon – roedd y 10k rhithiol cyntaf yna’n ffordd dda i fesur lle’r o’n i wedi cyrraedd o ran ffitrwydd, ac yn sicr roedd y marathon rhithiol yn darged i anelu tuag ato. 

Dwi hefyd wedi mwynhau…os mai dyna’r gair, yr her o bellter gwahanol y milltir…ac wedi penderfynu bod rhedeg milltir fflat owt yn brofiad afiach! 

Ond, o’r cyfan, dwi’n credu mai’r rasys tîm fu’r rhai mwyaf gwerth chweil, gan roi cyfle i aelodau’r clwb ryngweithio â’i gilydd a chystadlu gyda chlybiau eraill. 

Roedd diwrnod Ras Gyfnewid Clwb Rhedeg Llanelwedd ar 30 Mai yn un reit gofiadwy i ddweud y gwir. Nes i ysgrifennu adroddiad o’r diwrnod ar gyfer BroAber360, wrth i ddau dîm Clwb Athletau Aberysth gael tipyn o lwyddiant. Yr her oedd i bob clwb gyfro cymaint o filltiroedd â phosib dros union 15 awr – dechrau am 5am, a gorffen am 8pm. Roedd y rhan fwyaf o dimau’n gofyn i bob rhedwr wneud un shifft o awr, gydag ambell amrywiad o redwr yn gwneud 30 munud neu awr a hanner fan hyn a fan draw. 

Penderfynodd ein tîm ni ddilyn strategaeth ychydig yn wahanol, gyda 10 rhedwr yn unig yn rhedeg dau gymal 45 munud yr un. Dwi wedi gwneud sawl ‘diwrnod dwbl’ gydag un ryn hawdd ben bore, ac un sesiwn galetach yn y prynhawn. Dyma’r tro cyntaf i mi wneud dau ryn galed, neu redeg dwy ras i bob pwrpas, mewn un diwrnod. Roedd yn brofiad, ac fe dalodd ar ei ganfed wrth i’r tîm ddod i’r brig ymysg y 60 o dimau, a 1100 o redwyr, fu’n cystadlu. 

Ond yr hyn oedd yn wych am y diwrnod oedd y trafod a chefnogi ymysg y rhedwyr yn ystod y dydd – y banter fel petai. Ar-lein ar un llaw, ond hefyd allan ar y ‘cwrs’ – ro’n i’n ddigon ffodus i weld aelod o’r tîm arall, yn eu fest clwb, yn ystod fy nau gymal a gallu cynnig gwaedd o gefnogaeth. 

Safon y rhedwyr hŷn

Y ras tîm arall oedd ras gymal 5k y BMAF, oedd yn wahanol iawn i’r ras 15 awr, ond oedd hefyd yn wych o ran hybu rhywfaint o ysbryd tîm. Roedd hon yn cael ei chynnal dros wythnos, gyda chyfle i redeg eich cymal rhwng 14 a 20 Mehefin. Roedd angen chwech rhedwr ar gyfer creu tîm yn y categori 35-44 oed, 4 ar gyfer tîm 45-54 oed, a thri rhedwr ar gyfer timau yn y categorïau hŷn. 

Roedd tipyn o sôn am y ‘National Road Relays’ a gynhaliwyd yn rhithiol nôl ar ddechrau mis Ebrill, gyda llwyth o redwyr yn rhedeg amseroedd anhygoel dros 5k (adroddiad ar wefan Fast Running). Roedd fersiwn y BMAF (British Milers Athletics Federation) yn gyfle i’r rhedwyr hŷn, dros 35 oed wneud eu marc. Ac yn sicr fe wnaethon nhw hynny, gydag ambell ganlyniad yn dal y llygad yn arbennig. 

Y gŵr ddaeth i’r brig oedd  y rhedwr rhyngwladol, Paul Martelletti mewn 14:41, gyda Chris Livesey yn ail mewn 14:45 ac Andy Coley-Maud yn cwblhau’r tri uchaf mewn 14:47 – amseroedd gwallgof o gyflym. Y Cymro cyntaf oedd Juan Delgado o Glwb Roadents Pontypridd mewn 15:10. 

Y ferch gyntaf oedd Elizabeth Davies mewn 16:54 gyda Sophie Delderfield yn ail (17:13) ac Elizabeth Renondeau. Mae’r canlyniadau unigol yn llawn ar wefan y BMAF

Dwi am dynnu sylw’n benodol at ambell enw arall, sef Tim Hartley (52 oed) gydag amser o 15:45, Clare Elms (56 oed) yn rhedeg 18:01, ac yr enwog Tommy Hughes (60 oed) yn rhedeg 16:11. Mae Tommy yn destun blog arall yn y dyfodol yn sicr (Googlwch y boi!)

Roedd y ras yn dyblu fel pencampwriaethau cenedlaethol ar gyfer y timau. Tîm hynod o gryf Pontypridd oedd y cyntaf o’r Cymry yn y categori dynion 35-44, ac Les Croupier o Gaerdydd yn rheoli’r holl gategoriau eraill ymysg y dynion, gan ddod i’r brig ymysg yr oedrannau 45-54 a 55-64, 65-74. 

O ran y merched, Les Croupier oedd y tîm i’w curo unwaith eto, yn ennill y categori 35-44 a  45-54, ond, roedd llwyddiant i fercher Aberystwyth yn y categori 55-64 – llongyfarchiadau mawr i Maggie Collinborn (22:01), Anita Worthing (22:34) a Jane Bailey (26:41). Canlyniadau llawn y timau eto, ar wefan y BMAF

Bu 3,300 yn cystadlu yn y ras yma, a llwyddwyd i godi £12,000 at elusen Cancr Mac Millan – dyma un peth da arall am y rasys rhithiol yma. 

Y fantais fawr gyda rasys rhithiol ydy nad oes rhaid teithio i’w cyrraedd wrth gwrs – gallwch chi ddewis amser sy’n gyfleus ar y dyddiad dan sylw, a jyst mynd amdani. Felly mae’r temtasiwn i gofrestru’n gallu bod yn ormod i’w wrthod! Yr anfantais ydy eich bod chi’n tueddu i redeg yr un cwrs/cyrsiau bob tro, sydd braidd yn ddiflas. 

Ond wrth gwrs, tydyn nhw ddim hanner cystal a rasys go iawn. 

Rŵan ar ôl yr holl rasio rhithiol, dwi’n teimlo’n flinedig…wedi llosgi allan braidd, felly egwyl fach amdani. Wedi dweud hynny, mae Athletau Cymru’n cynnal ras 10k rhithiol mewn pythefnos….

Dychwelyd i rasio

O’r diwedd, mae’r camau cyntaf, gofalus (ar y cyfan), yn cael eu cyflwyno i ryddhau rhywfaint ar y cloi mawr. 

Mae rhai’n feirniadol o’r hyn sy’n cael ei gyflwyno’n Lloegr yn arbennig, tra fod Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon i’w gweld yn symud ychydig yn arafach ac yn fwy gofalus. 

Beth bynnag eich barn, tydi’r sefyllfa bresennol ddim yn gynaliadwy am byth, a chyn hir neu hwyrach mae’n rhaid ceisio ail-gydio mewn bywyd arferol…beth bynnag fydd hwnnw. 

Yn ogystal â rhagor o fusnesau’n agor eu drysau ac ysgolion i ail-agor ddiwedd mis Mehefin, mae’r byd chwaraeon wedi dechrau cymryd camau i ail-ddechrau. Mae cynghrair bêl-droed y Bundesliga yn Yr Almaen eisoes wedi dechrau chwarae gemau tu ôl i ddrysau caëdig ers cwpl o wythnosau, ac Uwch Gynghrair Lloegr wedi cyhoeddi bydd gemau’n ail-ddechrau ar 17 Mehefin. 

Mae rasio ceffylau ym Mhrydain eisoes wedi ail-gydio ynddi ers 1 Mehefin, er mawr boddhad i’r gweinidog iechyd, Matt Hancock mae’n ymddangos! 

Rydyn ni hefyd yn gwybod fod seiclwyr ar y lefel uchaf, gan gynnwys Geraint Thomas, wedi cael caniatad i deithio i Ffrainc er mwyn dechrau hyfforddi, gyda gobaith bydd modd i’r Tour de France ddechrau ar y dyddiad hwyrach o 20 Awst. 

Rheoli a chyfyngu

Ond lle mae hyn i gyd yn gadael rhedeg? Oes ‘na unrhyw obaith y gwelwn ni unrhyw gyfleodd i rasio cyn diwedd 2020? Fydd Marathon Llundain yn digwydd ar y dyddiad newydd o 4 Hydref? 

Does dim amheuaeth fod heriau’n wynebu ail-gyflwyno chwaraeon o bob math. Mae rhai yn haws na’i gilydd, yn enwedig ar y lefel uchaf e.e. mae modd i’r Uwch Gynghrair brofi pob un chwaraewr a swyddog sydd yn y stadiwm. Mae hynny wrth gwrs y lawer mwy o bobl na’r 22 chwaraewr sydd ar y cae, ond trwy chwarae mewn stadiwm gwag o gefnogwyr, mae modd cyfyngu ar y niferoedd o bobl sy’n dod i gysylltiad â’i gilydd. 

Mae athletau, a rhedeg yn arbennig, yn fater gwahanol. Ar y cyfan dyma gamp sy’n bennaf yn digwydd yn yr awyr agored, sy’n beth da ar y naill law, ond ar y llall sy’n llawer anoddach ei reoli o ran cyfyngu ar y nifer o bobl sy’n dod ynghyd. 

Ar hyn o bryd, mae Athletau Cymru wedi gwahardd gweithgarwch athletau ffurfiol nes 19 Mehefin, a chystadlu wedi’i wahardd nes 30 Mehefin. Wythnos diwethaf fel gyhoeddwyd dogfen ‘Lifting Athletics Out of Lockdown’ gan y sefydliad sy’n cynnig rhyw fath o ganllaw a chynllun sy’n cyd-fynd â pholisi Llywodraeth Cymru. 

Mae’n werth darllen y ddogfen hon – er fod yr amserlen wrth gwrs yn amwys, mae’n rhoi syniad o drefn y camau nesaf. Mae ‘na elfen o ddehongliad hefyd. Ar hyn o bryd, does dim llawer wedi newid hyd y gwela i, gyda’r canllaw i hyfforddi’n unigol ac i rasio’r rhithiol yn unig. Gan obeithio bydd yr achosion yn parhau i leihau, dwi’n synhwyro y byddwn ni’n cyrraedd sefyllfa i allu hyfforddi mewn grwpiau bach iawn, gan gadw pellter o 2m mewn rhai wythnosau…ond bydd rhaid aros cryn amser eto nes gallu rasio. 

Mae hyn yn anodd i lawer o redwyr – er ein bod ni i gyd yn mwynhau hyfforddi, yn aml iawn paratoi ar gyfer ras benodol ydy’r prif ysgogiad i wneud hynny, ac yn sicr mae’r boddhad yn fwy o weld y cynnydd. Dwi’n mawr obeithio y gwelwn ni ryw fath o rasio yn yr hydref, ond yn ansicr ynglŷn ag ym mha ffurf fydd y rasio hynny’n digwydd.  

Dim rasys mawr

Yn bersonnol, ac er mawr siom, dwi’n amheus iawn a fydd modd i Farathon Llundain ddigwydd yn ei ffurf arferol ym mis Hydref. Ddiwedd Mai cafwyd datganiad gan Gyfarwyddwr Marathon Llundain, Hugh Brasher, oedd yn awgrymu ansicrwydd sylweddol ynglŷn â’r digwyddiad, gydag awgrym o gynnal ras elite yn unig, fel a gafwyd ym Marathon Tokyo ym mis Mawrth. Mae nifer y rhedwyr mewn ras fawr fel hon, dros 40,000, wrth gwrs yn broblematig o ystyried natur y feirws yma, ond yn fwy na hynny rhaid ystyried y cannoedd o filoedd o bobl sy’n gwylio’r ras, yn aml yn sefyll yn agos i’w gilydd am gyfnod hir. 

Ers i mi ddechrau ysgrifennu’r darn yma, daeth y newyddion am ohirio Hanner Marathon Caerdydd nes 28 Mawrth 2021. Dwi’n gweld y penderfyniad yn un cynnar, ond nid ar chwarae bach y gwnaed y penderfyniad – dyma ras fwyaf Cymru erbyn hyn. 

Gyda Marathon Llundain wedi’i symud i’r un dyddiad ag oedd Hanner Caerdydd i fod, 4 Hydref, mae hyn yn taflu rhagor o amheuaeth ynglŷn a photensial cynnal ras fwyaf Prydain eleni. 

Gobeithio mod i’n anghywir, ond fy marn i ar hyn o bryd ydy na welwn ni unrhyw rasys mawr yn ystod 2020. Dwi’n credu mai’r gobaith mwyaf sydd gyda ni ydy gweld ail-gyflwyno rasys bach, lleol, lle mae modd cyfyngu ar y nifer o redwyr sy’n cofrestru, ac mae unrhyw dorf yn mynd i fod yn fach. 

Angen dyfeisgarwch

Yn wreiddiol, ar ddechrau’r cloi mawr, ro’n i’n credu y byddai Parkrun yn un o’r digwyddiadau rhedeg cyntaf i ail-ymddangos – bellach dwi’n ofni y gallai fod gyda’r hwyra’. Rhan o’r hyn sy’n gwneud Parkrun mor wych ydy rhyddid y peth – mae o am ddim, a gall unrhyw un ddod ar unrhyw fore Sadwrn. A hynny’n union fydd yn gwneud ail-gyflwyno Parkrun mor anodd – bydd hi’n amhosib rheoli faint o bobl sy’n dod, ac ar y dydd Sadwrn cyntaf nôl, bydd pawb eisiau bod yna, yn redwyr hen a newydd.

Mae’n llawer mwy tebygol y gallwn ni weld rasys bach, gyda chyfyngiad o gant neu ddau o redwyr a phawb i gofrestru ymlaen llaw. Hyd yn oed wedyn, dwi’n credu bydd rhaid i drefnwyr fod yn ddyfeisgar, ac ystyried fformatau amgen ar gyfar y rasio er mwyn cyfyngu’r nifer o bobl sy’n dod i gysylltiad a’i gilydd. 

Er enghraifft efallai y gwelwn ni fwy o rasio arddull time trial fel rydan ni’n gweld mewn seiclo, gyda rhedwyr yn dechrau hanner munud ar ôl ei gilydd. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu fod y risg o drosglwyddo COVID yn yr awyr agored yn isel yn enwedig os ydy pobl yn dod i gysylltiad a’i gilydd am amser byr iawn (e.e. wrth redeg heibio i rywun). Mae’n debygol felly mai’r risg mwyaf i redwyr mewn ras fyddai wrth iddynt ymgasglu ar y linell ddechrau i ddisgwyl y gwn. 

Opsiwn arall posib fyddai dechrau rhedwyr mewn grwpiau llai, digon bach i sicrhau 2m o bellter rhwng pawb. 

Os ydw i’n iawn, efallai daw rhywbeth cadarnhaol o hyn i gyd, ac y gwelwn ni hwb mawr  i rasys bach lleol – gobeithio’n wir. 

Mae’n drueni mawr os na welwn ni Parkrun yn dychwelyd yn fuan, yn enwedig o ystyried yr holl redwyr newydd sydd wedi ymddangos yn ystod cyfnod y cloi. Parkrun ydy’r cyflwyniad perffaith, a mwyaf hygyrch, i ddigwyddiadau rhedeg ac yn ei dro, rasio. 

Un awgrym dwi wedi clywed ar gyfer ail-gyflwyno Parkrun ydy’r syniad y gellid gwasgaru’r amseroedd dechrau e.e. bod un am 7:30, un a, 8:00, un am 8:30 a.y.b a fod pawb yn gorfod bwcio eu slot er mwyn gwasgaru’r rhedwyr. Mae hyn i raddau’n groes i ethos Parkrun wrth gwrs, ond mae’n ystyriaeth posib dan yr amgylchiadau. 

Mae’n bur debyg y bydd rhaid i bron bob agwedd o fywyd newid ac addasu am fisoedd, ac efallai blynyddoedd i ddod, gan gynnwys y calendr rasio. Gall hynny gynnig cyfleoedd newydd wrth gwrs, a gobeithio bydd y gymuned redeg yn gallu ymateb i’r heriau a bod yn feiddgar wrth ail-gyflwyno digwyddiadau’n raddol dros y cyfnod nesaf. 

Ras Filltir Rithiol Athletau Cymru

Fis yn ôl cynhaliwyd ras rithiol swyddogol gyntaf Athletau Cymru – ras 5k oedd honno gyda chystadlu brwd ymysg athletwyr cryf o glybiau ledled Cymru. 

Dros y penwythnos cynhaliwyd ail ras rithiol gan brif sefydliad athletau Cymru ar ffurf ras filltir, ac unwaith eto cafwyd penwythnos o rasio cystadleuol gan redwyr o bob cwr i’r wlad. 

Fel dwi wedi trafod mewn cwpl o ddarnau dros y cwpl o fisoedd diwethaf, mae rasio rhithiol yn ddigon o her ynddo’i hun ac yn hollol wahanol i brofiad ras ‘go iawn’. Dim ond chi’n erbyn y watch – neb i’w targedu o’ch blaen, na chwaith i roi pwysau o’r tu ôl. Mae’n brawf o benderfynoldeb yn sicr, ac o allu rhywun i beidio rhoi’r ffidil yn y to pan mae’n dechrau brifo o ddifrif. 

Mae un peth yn sicr am rasio milltir – mae’n mynd i frifo, mae’n mynd i frifo lot! 

I lawer o redwyr pellter clwb (gan gynnwys fi) mae cyfnod y cloi lawr wedi cynnig y cyfle cyntaf i rasio milltir, ac mae’n siŵr ei fod wedi profi’n agoriad llygad i lawer hefyd.

Dyma’r ail ras filltir rithiol i mi wneud dros y cyfnod yma o ynysu, yn dilyn y Bannister Mile ac maen nhw wedi bod yn newid ffocws bach da ar ôl gorffen bloc hyfforddi marathon. 

Un peth sy’n dda gyda’r rasus rhithiol yma ydy eu bod nhw’n eich diddori chi am benwythnos cyfan – fel rheol mae rhyw 2-3 diwrnod i bawb redeg eu milltir a’i lwytho i’r system ganlyniadau, felly rydach chi’n gweld y tabl yn datblygu dros y dyddiau hynny. 

Yr ifanc a ŵyr

Y rhedwr ieuenctid addawol o Archers Caerdydd, Rhys Hardman orffennodd ar frig y tabl gydag amser cryf o 4:25. Mae Hardman yn cael ei hyfforddi gan James Thie ac wedi rhedeg 800m mewn 2:04 a 1500m mewn 4:07 felly mae’n un i gadw golwg arno. 

Michael Lewis o Fairwater, sy’n fwy adnabyddus fel triathlete mewn gwirionedd, oedd yn ail mewn 4:27, gyda rhedwr ieuenctid arall, Rhys James o Gastell Nedd yn drydydd mewn 4:42. 

Dwi’n mynd i orfod gwneud un nodyn bach am y canlyniadau fan hyn sef fod proffil cwrs Hardman a Lewis yn dangos eu bod wedi rhedeg lawr allt cryn dipyn, sydd wrth reswm yn mynd i roi mantais. Problem fwyaf rasio rhithiol ydy ei bod hi’n amhosib ei gwneud hi’n ras hollol gyfartal gan fod pawb yn rhedeg cwrs gwahanol, dan amgylchiadau gwahanol ac mae elltydd a chyfeiriad y gwynt (roedd hi’n wyntog iawn dros y penwythnos) yn gallu bod yn ffactor. 

Ychydig iawn o ganllaw oedd gan Athletau Cymru ar gyfer y 5k ddechrau’r mis, ond y tro hwn fe wnaethon nhw nodi y dylai pawb ddewis cwrs ‘mor fflat a phosib’, ac am wn i, penderfyniad yr unigolyn ydy sut i ddehongli hynny! O’r hyn y gwela i, mae’r trefnwyr wedi mynd ati i fwrw golwg ar rai o’r canlyniadau a nodi’r rhai sy’n dangos cwymp sylweddol yn eu cwrs, ond hyd y gwn i does dim cosb (yn wahanol i ambell ras rithiol arall ddiweddar). 

Roedd chwech o’r deg uchaf yn redwyr ieuenctid…sy’n dangos yn glir mai gêm i’r bois ifanc ydy’r filltir!! 

Dwi am roi mensh arbennig i ddau o’r deg uchaf, sef Isaac Ayres o’r un clwb a mi, oedd yn gydradd chweched mewn 4:44 ardderchog, ac yna i Ian Edwards o Eryri oedd hefyd yn gydradd chweched ac y rhedwr hŷn (masters) cyntaf.

Trwch blewyn rhwng y merched

Roedd ras y merched yn gystadleuol iawn hefyd. Allai hi ddim bod yn agosach rhwng y ddwy gyntaf sef Lauren Cooper o glwb Parc Bryn Bach mewn 4:52 a’r redwraig dan 15 oed, Bethan Hardman oedd ddim ond eiliad yn arafach (ond ar gwrs lawr allt yn ôl y nodiadau). Merch dan 15 arall, Summer Woodhead o Guernsey, oedd yn cwblhau’r podiwm mewn 5:13. 

Yn anffodus, yn wahanol i’r 5k rhithiol gan Athletau Cymru, does dim canlyniadau tîm ar gyfer y ras filltir felly dim modd o wybod pa glybiau berfformiodd orau. Wedi dweud hynny, o fy mhrofiad i, mae’r rasys rhithiol yma wedi bod yn ffordd dda o ryngweithio gydag aelodau eraill o’r clwb a chynnig rhyw fath o ysbryd tîm yn ystod y cyfnod yma. 

Gyda ansicrwydd o hyd am pryd y byddwn ni’n gweld unrhyw rasio traddodiadol yn digwydd eto, mae’n debyg y byddwn ni’n dibynnu ar rasys rhithiol am beth amser a gobeithio’n wir bydd Athletau Cymru’n arwain y gad yn hynny o beth. 

Mae modd gweld canlyniadau llawn Ras Filltir Rithiol Athletau Cymru ar wefan Open Track.

Adolygiad Gels: Manuka Sport

Bydd dilynwyr y blog yn gwybod fy mod i wedi bod yn talu tipyn o sylw i danwydd wrth i mi baratoi i redeg fy marathon cyntaf. 

Er fod y cynlluniau i redeg marathon Llundain fis diwethaf wedi mynd i’r gwellt diolch i’r argyfwng COVID-15, nes i benderfynu dyfalbarhau gyda’r bloc hyfforddi a dal i arbrofi gyda ‘bwydo’ wrth redeg yn y gobaith y daw cyfle i rasio marathon yn fuan. 

Dwi eisoes wedi cyhoeddi cwpl o ddarnau blog yn trafod rhywfaint o egwyddorion defnyddio tanwydd wrth redeg, ac wedi adolygu un o’r opsiynau gels dwi wedi bod yn profi, Torq. Yn yr adolygiad yma, gels cwmni Manuka Sport sy’n cael y sylw. 

Fe ddois i ar draws y cwmni gyntaf yn y National Running Show fis Ionawr a dechrau sgwrsio gyda’r Cyfarwyddwr, Steve. Ro’n i’n hoffi llawer iawn o’r hyn roedd ganddo i’w ddweud, ac roedd egwyddorion y cwmni’n glir ac yn sownd. 

Mae’n siŵr fod y rhan fwyaf o ddarllenwyr y blog yma wedi clywed am fêl manuka, a’r nifer o fuddiannau iechyd sy’n gysylltiedig â’r mêl. Ro’n i’n hoff iawn o’r syniad o ddefnyddio cynnyrch mor naturiol â phosib ac yn ôl y cwmni maen nhw’n osgoi defnyddio cynhwysion artiffisial. 

Ro’n i’n profi gels Manuka adeg Pencampwriaethau Traws Gwlad Cymru fis Chwefror. Roedd eu hangen nhw ar gyfer y ryn hir bore wedyn!

Ymlaen i grynhoi’r argraffiadau wrth brofi’r gels felly ac unwaith eto dwi’n canolbwyntio ar y pethau sy’n bwysig i’r person lleyg / rhedwr cyffredin – pethau fel y blas, sut maen nhw’n treulio a phethau ymarferol felly, yn hytrach na’r budd gwyddonol. 

Blas

Yn wahanol i  gels nifer o’r cwmniau eraill dwi wedi profi, cyfyngedig ydy’r dewis o ran blas Manuka Sport…ond i mi, mae hynny’n beth da – well gen i gadw pethau’n syml! Pedwar blas sydd mewn gwirionedd sef Citrus, Cherry, Berry a Tropical, felly blas ffrwythau i gyd yn hytrach na phethau bach mwy bizzare fel sydd gan rai cwmniau. 

Wrth gwrs, mêl ydy’r prif gynhwysyn ac mae hynny’n amlwg yn y blas. Dwi’n hoff iawn o fêl beth bynnag ond os nad ydach chi’n gymaint o ffan fyswn i ddim yn poeni gormod – dydy o ddim fel rhoi llwyaid o fêl yn eich ceg. 

Mae’r gels, fel pob un arall dwi wedi profi, yn felys – dyna’r pwynt i raddau wrth gwrs. Wedi dweud hynny, roedd rhain yn llai melys na’r disgwyl, ac yn dipyn llai melys na’r phopeth arall dwi wedi profi.  Fyswn i’n dweud fod y balans yn jyst iawn – digon o flas melys i roi cic fach i chi, ond heb fod yn ormodol chwaith. 

9/10

Y pecyn

Mae’r pacedi’n fach, ac yn ffitio’n daclus i bocedi eich siorts neu i’r belt rhedeg. Un peth roedd Steve, y Cyfarwyddwr, yn brolio oedd faint o ddaioni oedden nhw’n llwyddo i bacio mewn i becyn bach – 28g o carbs mewn pecyn 45g, sy’n fwy na’r 22g mae gels llawer o gwmniau eraill yn cynnwys. 

Dwi wedi bod yn hyfforddi’n bennaf dros y gaeaf, gan wisgo menyg gan amlaf wrth dreialu’r gels, ac mae pacedi pob cwmni’n gallu bod yn her i’w hagor o’r herwydd. Tab bach sydd i’w rwygo ffwrdd i agor rhain, ac maen nhw’n bach o hit ‘n miss. Nes i ddod i arfer mwy gyda’r dechneg o’u hagor yn raddol. 

Mae’r agoriad yn fach, sy’n dda o ran rhwygo ar agor ond fel gyda llawer o gels eraill yn anoddach i wasgu’r cynnwys allan. Un peth da ydy fod yr agoriad ar ganol top y pecyn oedd yn gwneud hi bach yn haws gwthio’r gel allan. 

6/10

Treuliad

Mae hyn yn mynd i fod yn wahanol i bawb, ac mae’n rhaid i bawb brofi dros eu hunain. Mae mêl manuka wedi ei brofi i fod yn dda i’r stumog, ac yn sicr mae’r cwmni’n manteisio ar hynny wrth werthu budd eu cynnyrch. Ges i ddim trafferth o gwbl gyda nhw mae’n rhaid dweud – o’r rhai dwi wedi profi, mae’n siwr mai dyma’r rhai hawsaf i’w treulio. Mae’r gel yn denau iawn, ddim yn gooey o gwbl, ac yn hawdd ei lyncu. 

Ond y cyngor fel arfer ydy pwysleisio pwysigrwydd trio cynnyrch wrth hyfforddi cyn ras achos mae corff pawb yn wahanol. 

9/10

Cyffredinol

Mae Manuka Sport yn gwmni bach newydd, sydd ag egwyddorion cryf. Maen nhw’n cefnogi nifer o athletwyr erbyn hyn, ond nid rhai hynod o enwog (ar hyn o bryd beth bynnag). Mi gefais sgwrs dda gyda’r cyfarwyddwr am egwyddorion y cwmni, ac roedd o’n amlwg yn angerddol iawn am yr hyn maen nhw’n gwneud ac ro’n i’n hoffi hynny. Wedi dweud hynny, roedd angen i’r gels fodlonni hefyd, ac yn sicr ro’n i’n hapus iawn yn eu profi. Gymaint felly nes i mi ddefnyddio gel Manuka Sport wrth wneud fy marathon ‘rithiol’ i lenwi bwlch Llundain ddiwedd Ebrill!  

O ran y gels dwi wedi profi, mae’n siŵr mai dyma’r ffefrynnau a fyswn i’n eu hargymell i rywun sy’n trio gels am y tro cyntaf yn sicr.

9/10

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r gels uchod ar wefan Manuka Sport.

Vlog: Wythnos o rasio rhithiol

Roedd wythnos diwetha’n wythnos fach wahanol wrth i mi gofrestru ar gyfer dwy ras rithiol oedd yn digwydd ychydig ddyddiau ar ôl ei gilydd.

Dwi eisoes wedi cyhoeddi adroddiad o ras Milltir Rithiol Bannister a hefyd o ras 5K Rithiol Athletau Cymru dros y penwythnos.

Ond, gan nad ydw i wedi cyhoeddi Vlog ers peth amser, dyma benderfynu gwneud hynny ar y ffordd nôl o fy 5k ddydd Sadwrn (via popty gwych y Pelican yn Aberystwyth!)

Ieuan yn cipio teitl ras rithiol gyntaf Athletau Cymru

Dros y penwythnos cynhaliwyd ras rithiol swyddogol gyntaf Athletau Cymru gyda Ieuan Thomas o Glwb Athletau Caerdydd yn dod i’r brig. 

Fe ddylai Pencampwriaeth 5k Cymru fod wedi digwydd yng Nghaerdydd dros y penwythnos, ond fel pob ras arall diweddar bu’n rhaid ei gohirio. 

Er mwyn llenwi’r bwlch, penderfynodd Athletau Cymru i gynnal y ras yn rhithiol gan ddefnyddio system ddigidol OpenTrack. Mae Athletau Cymru wedi bod yn annog clybiau rhedeg ac athletau i ddefnyddio’r feddalwedd er mwyn cynnal rasys lleol, ond dyma oedd y ras rithiol cyntaf i brif sefydliad athletau Cymru gynnal ras o’r fath. 

Ac fe gydiodd y gystadleuaeth gyda 350 o redwyr clwb Cymru’n cofrestru i redeg 5k unigol rhwng dydd Gwener 8 Mai a dydd Sul 10 Mai. 

Ieuan Thomas, sy’n fwyaf cyfarwydd fel rhedwr trac dros y 3000m a’r steeplechase yn arbennig, oedd y rhedwr cyflymaf dros y penwythnos yn rhedeg 13:53. Thomas oedd pencampwr Cymru dros y pellter llynedd, gan ddod yn ail i’r Sais Adam Hickey yng Nghaerdydd. 

Y rhedwr o Benfro, Lee Shannon, sydd wedi wedi mynd o nerth i nerth dros y flwyddyn ddiwethaf oedd yn ail mewn 15:20, fyddai’n naid enfawr ar ei PB blaenorol dros y pellter petai hon yn ras swyddogol. 

Y rhedwr hŷn, a chyn redwr 1500m Cymru, James Thie oedd yn drydydd gydag amser ardderchog o 15:23. 

Sioned Howells o Glwb Amann oedd enillydd ras y merched mewn 18:42, gyda Helen-Marie Davies o Abertawe’n ail (18:59) a Llinos Jones, hefyd o Abertawe’n drydydd mewn 19:13. 

Roedd ras y timoedd yn hynod gystadleuol hefyd, gyda’r pedwar rhedwr cyflyma’ o un clwb yn sgorio i’r tîm. 

Doedd hi ddim yn syndod gweld dynion Pontypridd yn dod i’r brig gyda phedwar rhedwr yn y 22 cyntaf. Penfro oedd yn ail, gyda chlwb Les Croupier o Gaerdydd yn drydydd. 

Yn ras y merched, tîm ‘A’ Deeside oedd yn gyntaf,  gyda Harriers Abertawe’n ail a thîm ‘B’ Deeside yn drydydd. 

Roedd y ras am ddim i redwyr, ond gyda gwahoddiad i wneud cyfraniad at elusen Kidney Wales, a llwyddwyd i godi £1100. 

Mae modd gweld y canlyniadau’n llawn ar wefan Open Track, a chymaint oedd llwyddiant y ras nes fod Athletau Cymru wedi penderfynu cynnal ras filltir rithiol dros benwythnos Gŵyl Banc diwedd mis Mai.

Dyma vlog bach nes i ar ôl rhedeg fy 5k fore Sadwrn:

Llwyddiant Cymreig yn ras Milltir Bannister

Roedd ras rithiol go arbennig ddechrau’r wythnos wrth i dros 1200 o redwyr clwb mwyaf cystadleuol Prydain gymryd rhan yn Ras Filltir Bannister. 

Y British Milers’ Club oedd yn cynnal y ras rithiol i nodi 66 mlynedd ers i Roger Bannister roi ei enw yn y llyfrau hanes trwy dorri 4 munud am ras filltir am y tro cynta erioed. Fe wnaeth hynny ar 6 Mai 1954 ar drac Iffley Road yn Rhydychen. 

Roedd camp Bannister yn un anferth ar y pryd, ac ers hynny mae wedi dwyn cymhariaeth â dyn yn glanio ar y lleuad. Y gymhariaeth ddiweddar amlycaf mae’n siŵr ydy Eliud Kipchoge yn torri dwy awr ar gyfer y marathon llynedd – tybed fydd her rithiol debyg i hyn ar gyfer y marathon mewn 66 blynedd?! 

Yr her oedd i bobl glocio milltir rhwng dydd Llun 4 Mai a dydd Mercher 6 Mai a chofrestru’r dystiolaeth Strava / Garmin ar y system. Gyda’r holl hawlio amseroedd amheus diweddar (a diolch i waith arwrol @stravawankers yn amlygu rhain!) roedd ambell reol sylfaenol:

  • roedd y canlyniad yn mynd yn ôl ‘elapsed time’
  • roedd angen sicrhau had oedd mwy na 15 medr o gwymp yn y cwrs (h.y. nad oeddech chi’n rhedeg i lawr allt serth)
  • ddylai’r cwrs ddim cynnwys mwy na dau lŵp

Yn anffodus, nes i ddim sylwi ar y drydedd rheol uchod a gorfod ail-redeg fy milltir ar ôl gwneud yr ymdrech wreiddiol ar y trac – gwers i ddarllen y print mân yn ofalus!

Yr un rheol nad oedd y rhestr, oedd yn bach o syndod i mi, oedd nad oedd rhaid i chi ddechrau a gorffen yn fras yn yr un lle, fel sy’n wir gyda’r mwyafrif o rasus swyddogol. Felly roedd y mwyfrif o redwyr wedi chwilio am gwrs hollol syth a fflat (neu fymryn ar ei lawr) er mwyn manteisio ar hyn. 

Wrth reswm roedd rhaid dilyn y canllawiau cadw pellter cyfredol ac osgoi pobl gymaint â phosib. 

O ystyried popeth, roedd ffeindio stretch milltir o hyd addas, a saff, yn fwy o her nag y byddech chi’n disgwyl!

Llwyddiant Cymreig

O edrych ar y canlyniadau, mae’n ymddangos bod  canran uchel o redwyr clwb cryf Prydain ymgymryd â’r her a’r hyn oedd yn braf gweld oedd fod gwedd Gymreig iawn i’r podiwm.

Roedd hynny amlycaf yn y ras agored i ddynion lle daeth Piers Copeland, sy’n aelod o Wimborne AC ond yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Met Caerdydd i’r brig mewn amser o 4:02. Ardderchog gan Copeland, ond cymrwch eiliad i ystyried yr amser yna, a meddwl am gamp Bannister i redeg 3 eiliad yn gynt 66 o flynyddoedd yn ôl. 

Cymro oedd yn ail hefyd, sef y rhedeg 1500m ryngwladol, Tom Marshall gydag amser o 4:06. Ag yntau wedi torri 4 munud ar gyfer y filltir doedd dim sydod ei weld yn perfformio’n dda. Roedd tri’n rhannu’r trydydd safle mewn 4:07, gyda Chymro ifanc, James Heneghan, o Glwb Athletau Caerdydd yn eu plith – myfyriwr arall Prifysgol Caerdydd, sef y lle i fod ar gyfer rhedwyr addawol yn amlwg.

Er hynny, nid yn unig Caerdydd sy’n cynhyrchu rhedwyr ifanc addawol ar hyn o bryd – mae ambell un yn y gogs hefyd! Osian Perrin o glwb Menai oedd enillydd y ras ieuenctid gydag amser anhygoel o 4:15. Mae Osian dal yn y categori dan 17 oed, ac fe gurodd ddau redwr dan 20 oedd yn ail a thrydydd, felly mae’n un i gadw golwg arno heb os. 

Gyda rhedeg merched yn gryf iawn yng Nghymru ar hyn o bryd diolch i lwyddiant pobl fel Charlotte Arter a Jenny Nesbitt, roedd yn bach o syndod peidio gweld Cymry ar yr un o bodiwms y merched. Lilly Coward o Invita East Kent AC enillodd y brif ras i ferched mewn 4:38 gydag Elizabeth Renondeau yn dod i frig y ras i ferched hŷn. Keira Brady-Jones o Wirral AC, sydd dal yn y categori dan 15 oed enillodd y ras iau mewn 4:45…a gwerth nodi ei bod hi wedi rhannu’r ail safle o’r holl ferched hefyd!! 

Yn olaf, doedd dim syndod gweld un enw Cymreig ar bodiwm y dynion hŷn (dros 35 yn yr achos yma) sef James Thie mewn 4:29 yn y trydydd safle. Mae Thie yn enw amlwg iawn yn y byd athletau – roedd yn bedwerydd yn y 1500m ym Mhencampwriaethau dan do y byd yn 2004 ac yn 9fed yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2010. Ond efallai ei fod yn creu mwy o enw i’w hun yn ddiweddar fel hyfforddwr, gan ei fod yn gyfrifol am feithrin rhai o brif athletwyr Cymru a thu hwnt ar hyn o bryd, gan gynnwys Tom Marshall a James Henghan gyda llaw.

Dwi am roi mensh fach hefyd i ddau gyd-aelod o Glwb Athletau Aberystwyth a gofrestrodd filltir arbennig o dda yr un. Yn gyntaf, Edd Land, gydag amser ardderchog o 4:38 sydd, yn fy nhyb i, yn ei roi’r gydradd drydydd yn y categori dynion dros 40 (9 eiliad tu ôl i James Thie!) Ac yna i Paul Williams yn y categori dros 50 gydag amser o 5:47 – mae Paul dal yn gymharol newydd i redeg, ond yn datblygu ar raddfa anhygoel o dda. 

Yn bersonnol, ro’n i fymryn yn siomedig gyda fy milltir. Nes i redeg 4:48 ar y trac nos Lun, ond gorfod setlo am 4:57 yn un swyddogol nos Fercher. Mae gen i ddigon o esgusogion wrth gwrs, ond dwi’n tybio fod y bloc hyfforddi marathon diweddar, a’r diffyg sesiynnau cyflymder go iawn wedi cael effaith. Ond hefyd, ma rhedeg milltir caled yn blwmin anodd! 

Da iawn i bawb gymrodd ran. Gallwch weld y canlyniadau llawn ar wefan Open Track ac mae adroddiadau da gan Athletics Weekly

Dyma filltir enwog Bannister gyda sylwebaeth gan y dyn ei hun:

Nath Ross Barkley redeg 5k mewn 16:11?

Un o ffads ynysu’r wythnos ddiwethaf ydy’r her ‘5 5 5’ lle mae pobl wedi bod yn rhedeg 5k a rhoi £5 i elusen cyn enwebu 5 ffrind i wneud yr un peth ar y cyfryngau cymdeithasol.

Fydd rhedeg 5k ddim yn ormod o her i’r rhan fwyaf o ddarllenwyr y blog yma, ond yn sicr mae llawer o redwyr newydd wedi ymddangos dros yr wythnosau diwethaf, ac mae’r her yn siŵr o fod yn darged bach da i lawer o’r rhain. 

Wrth gwrs, mae llawer o selebs wedi bod yn ymuno â’r hwyl, ac yn arbennig felly pêl-droedwyr mae’n ymddangos. 

Mae’n siŵr ei bod yn gyfnod heriol iawn i bêl-droedwyr gydag ansicrwydd ynglŷn â gemau olaf y tymor, a’r ffaith nad oes modd iddynt hyfforddi fel tîm ar hyn o bryd. Yn sicr mae rhedeg pellter yn ffordd dda o gadw’n ffit iddynt mewn cyfnod fel hyn, ac ro’n i’n sicr yn gweld budd rhedeg yn rheolaidd pan o’n i’n chwarae pêl-droed. 

Un peth dwi’n casau yn yr oes sydd ohoni ydy’r diwylliant one up-manship ‘ma ar y cyfryngau cymdeithasol, ac er bod lot o bethau da’n digwydd ar-lein dros y cyfnod yma, mae’r diwylliant yna dal yn drwch boed, yn arddangos sgiliau pobi ar Instagram neu frolio am amseroedd 5k ar Twitter! 

Dros y penwythnos mae ambell bêl-droediwr amlwg wedi dod o dan y lach gan y gymuned redeg am frolio amseroedd 5k amheus yn eu tyb nhw. Yr un sydd wedi dal fy llygad yn benodol, ac wedi’i drafod tipyn ar-lein, ydy amser 5k Ross Barkley, chwaraewr canol cae Chelsea, o 16:11. 

Tydi hwn ddim yn amser gwallgof o gyflym wrth gwrs – byddai rhywbeth dan 15 munud yn sicr yn anghredadwy – ond mae o’n amser cyflym iawn i rywun sydd ddim yn hyfforddi rhedeg pellter yn benodol. Ac mae o’n sicr wedi bod yn ddigon i godi aeliau ambell burudd yn y byd rhedeg – ‘sut mae’r ffwtbolar yma’n meiddio honni ei fod o’n gallu rhedeg amser cynt na llawer o redwr clwb da?’

Amser yn pasio

Un peth sydd wedi ychwanegu tanwydd i’r tân ydy ychwanegiad diweddar gan Strava – bellach mae modd i chi weld ‘elapsed time’ sesiynau pobl, yn ogystal â faint mae’r oriawr wedi clocio. Hynny ydy, mae modd i chi weld os ydy rhywun wedi pwyso ‘pause’ am egwyl ar ganol ryn! Mae cyfrif Twitter @stravawankers yn cael llawer o hwyl yn tynnu sylw at bobl sy’n brolio am eu gorchestion ‘PBs’ ar bellteroedd, ond sydd mewn gwirionedd jyst yn cael sawl egwyl yn y canol!

Yn sicr mae @stravawankers wedi rhoi sylw arbennig i ymdrech 5k Ross Barkley, ac er bod ei gyfrif Strava wedi cloi, mae cwpl o screenshots wedi ymddangos sy’n dangos elapsed time o 22:31 ar gyfer 5k Barkley. Wrth gwrs, mae’n anodd gwybod os ydy’r llun sgrin yma’n un go iawn, yn enwedig gydag un diweddarach yn dangos elapsed time o 1:05:23. Mae’r cyn chwaraewr cegog, Joey Barton, hefyd wedi cael pop ar ambell bêl-droediwr sydd wedi bod yn brolio. 

Beth bynnag ydy’r gwirionedd, mae gen i ddiddordeb mawr yn y cwestiwn ehangach, sef ydy rhedeg 5k cyflym yn rywbeth ddylai fod o fewn cyrraedd pêl-droediwr proffesiynol? 

Mae hyn o ddiddordeb arbennig i mi fel rhywun chwaraeodd bêl-droed dynion am 20 mlynedd rhwng 16 a 36 oed, cyn troi at redeg. Ro’n i’n chwarae ar lefel llawer is na Barkley wrth reswm, ond am sawl blwyddyn ar lefel digon cystadleuol Cynghrair Spar y Canolbarth. Do’n i ddim y chwaraewr mwya naturiol dalentog yn sicr, ond oherwydd hynny, fel chwaraewr canol cae roedd ffitrwydd a rhedeg lot yn hollol ganolog i fy ngêm. Ro’n i wastad yn benderfynol i fod y chwaraewr mwya ffit yn y tîm, ac os yn bosib ar y cae.

Ro’n i wastad wedi bwriadu troi at redeg ar ôl gorffen chwarae ffwtbol, a nes i ambell 10k a chwpl o hanneri marathon pan o’n i’n chwarae pêl-droed – dim byd arbennig, ond amseroedd parchus o 83 munud ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd yn 2015 a 10k Aberystwyth mewn 37:55 yr un flwyddyn (ges i flwyddyn ffwrdd o ffwti gydag anaf y flwyddyn honno a dechrau rasio mwy wrth wella). Nes i drio jyglo rhedeg a phêl-droed yn fy nhymor olaf ac, o sbio nôl, lwyddo i dorri 18 munud ar gyfer Parkrun gwpl o weithiau, ond yn sicr, ar ôl rhoi’r gorau i ffwtbol a dechrau hyfforddi rhedeg yn iawn dwi wedi gweld y naid go iawn yn fy amseroedd rhedeg. 

Y gwir plaen amdani ydy fod mathau gwahanol o ffitrwydd, a gallwch chi fod yn ffit iawn ar gyfer un camp, ond dal fod yn chwythu trwy’r pen ôl wrth ymgymryd â champ arall. Ro’n ystyried fy lefel ffitrwydd fel pêl-droediwr yn uchel iawn, ond o safbwynt ffitrwydd cardio, ac endurance yn benodol mae’r ffitrwydd ar lefel llawer uwch erbyn hyn…ond fyswn i siŵr o fod yn stryglo i chwarae 90 munud o gêm ffwtbol galed! 

Hyfforddi pwrpasol

Ro’n i wastad o’r farn y dylai chwaraewr canol cae ffit allu rhedeg hanner marathon yn weddol gyfforddus. Nes i fy hanner cyntaf yng Nghaerdydd (2008) ar ôl chwarae gêm (aeth i amser ychwanegol!) y diwrnod blaenorol, a heb redeg mwy na rhyw 5 milltir wrth hyfforddi – roedd y ffitrwydd pêl-droed yn ddigon i mi allu gwneud hi rownd mewn 1:42 heb ormod o drafferth. Ro’n i’n ddigon bodlon gyda hyn, ond petaech chi wedi dweud y bydden i’n rhedeg y pellter 27 munud yn gynt ddeng mlynedd yn ddiweddarach fyswn i wedi meddwl eich bod chi’n wallgof. Dyna’r gwahaniaeth mae hyfforddi pwrpasol, a rhywfaint o brofiad dros y pellter, yn gallu gwneud. 

Ond os ydw i’n credu y dylai pêl-droediwr ffit allu bod yn redwr pellter da, pam nad ydw i’n gallu meddwl am lawer ohonyn nhw sydd wedi llwyddo i wneud y switch yn llwyddiannus? Mae digon o gyn-chwaraewyr rygbi wedi troi’n weddol llwyddiannus at triathlon ac Ironman yn benodol – Shane Williams a Ryan Jones yr amlycaf mae’n siŵr – ond ychydig iawn ydy’r esiamplau o’r byd pêl-droed hyd y gwela i. 

Yr esiampl agosaf at bêl-droediwr proffesiynol yn troi’r redwr elite o’r hyn dwi’n gwybod ydy’r Cymro Andrew Davies. Dwi wedi sôn am Andy o’r blaen – roedd yn chwaraewr lled broffesiynol yn Uwch Gynghrair Cymru gyda Chaersws cyn troi i ganolbwyntio ar redeg. Mae bellach wedi rhedeg dan 2:15 ar gyfer y marathon. 

Tu hwnt i hynny, yr unig Gymro dwi’n gwybod amdano sy’n dod yn agos ydy cyn chwaraewr Aberystwyth a Phenrhyn-coch, Carwyn Jones, sydd wedi troi at redeg ers blynyddoedd gan hawlio PB o 14:30 ar gyfer 5k a 30:24 ar gyfer 10K. 

Un boi dwi wedi cyfarfod ar gae pêl-droed ambell waith pan oedd yn chwarae i dîm Prifysgol Aberystwyth, a sydd bellach wedi troi at redeg ydy Arwel Evans. Tynnodd Arwel fy sylw at y ffaith fod Aaron Ramsey’n rhedwr 800m handi pan oedd yn iau, gan redeg 2:05.25 yn 16 oed. Mae Rambo yr union fath o chwaraewr fyswn i’n gweld yn gwneud rhedwr da – injan dda yn ganol cae, llwyth o egni a byth yn stopio rhedeg. 

Byddai’n grêt gweld Ramsey’n dychwelyd at athletau ar ôl gorffen ei yrfa bêl-droed, ond petai’n cael hwyl arni, byddai’n esiampl prin iawn o bêl-droediwr proffesiynol sydd wedi gwneud hynny. Mae’r unig erthyglau dwi’n gallu ffeindio am y pwnc yn brolio amseroedd marathon fel 3:22 Muzzy Izzet o Gaerlyr gynt, sy’n amser parchus, ond ddim yn drawiadol o bell ffordd. 

Mae’n debyg mai un ateb syml o ran y diffyg pêl-droedwyr elite yn troi at redeg yn gystadleuol ydy ‘pam ddylen nhw’! Go brin y bydden nhw’n gallu cyrraedd safon cyfatebol i’r hyn roedden nhw’n chwarae pêl-droed arno felly byddai’n anodd cael yr un buzz o gamp newydd. Ond eto i gyd, pam felly bod y bois rygbi ma’n mynd mor frwd am eu triathlons? Yn sicr i mi, mae rhedeg wedi mwy na llenwi’r angen cystadleuol yna roedd pêl-droed yn ei fodlonni cyhyd.

Dwi wedi dod ar draws lot o fois oedd yn chwarae ffwtbol ar lefel tebyg i mi mewn rasys wrth gwrs, ond er eu bod nhw’n ffit iawn fel pêl-droedwyr, dydyn nhw ddim fel petaen nhw’n gallu efelychu hynny wrth redeg. Dwn i ddim pam fo hynny. 

Beth am Barkley felly? Allwn ni gredu ei amser o 16:11 ar gyfer 5k? Dwi heb ei weld yn chwarae ddigon yn ddiweddar, ond rhaid cyfaddef nad ydy o’n ffitio’r proffil yn fy mhên i o bêl-droediwr fyddai’n gallu rhedeg yr amser yna…ddim heb hyfforddi tipyn ar gyfer gwneud hynny beth bynnag. Mae o wastad wedi fy nharo i fel ‘rhif 10 bywiog’ yn hytrach na chwaraewr canol cae ‘box to box’

Yn y gêm fodern, dwi’n amau mai cefnwyr fel Trent Alexander-Arnold o Lerpwl neu Connor Roberts i Gymru, fyddai’n addasu orau i redeg pellter – ma’r bois yma’n cyfro lot o dir ac yn rhedeg yn ddi-baid am 90 munud. 

Mae un peth yn bendant sef fod @stravawankers yn sicr eu barn nad ydy ei amser yn un i gredu – gymaint felly nes eu bod wedi gosod her ‘Ross Barkley 5K’ i’w dilynwyr! 

Ydw i wedi methu unrhyw bêl-droedwyr sydd wedi troi’n llwyddiannus at redeg? Sylwadau isod plîs!

Prif lun: Wikipedia Commons – https://www.flickr.com/photos/cfcunofficial/ / CC BY-SA (https://creativecommons.org/licenses/by-sa/2.0)