Siom mawr i glywed y newyddion wythnos diwethaf na fydd Dewi Griffiths yn rasio ym Mhencampwriaethau Athletau’r Byd yn Doha ddechrau Hydref.
Dewi heb os ydy rhedwr pellter gorau Cymru ar hyn o bryd – yn rhagori dros 10k a Hanner Marathon ers sawl blwyddyn, ac yn llwyddo i gamu ymlaen at y marathon yn llwyddiannus ddiwedd 2017. Rhedodd ei farathon llawn cyntaf yn Frankfurt y Hydref 2017, gan bostio amser ardderchog o 2:09:49 – nes marathon Llundain eleni, dim ond Mo Farah o redwyr presennol Prydain oedd wedi rhedeg amser cyflymach dros y pellter.
Roedd 2017 yn flwyddyn anhygoel i Griffiths wrth iddo redeg ei amseroedd gorau ar gyfer pob pellter – 3,000m, 5k, 10k a Hanner Marathon gyda Frankfurt yn goron ar y cyfan.
Ond efallai o edrych nôl bod hynny wedi bod ar gost, oherwydd mae wedi bod yn dioddef gydag anafiadau a salwch ers hynny.
Roedd yn dda gweld Dewi nôl yn herio pellter y marathon yn Llundain fis Ebrill, ac ro’n i’n disgwyl pethau mawr wrth iddo frwydro’r Sais Mo Farah a’r Albanwr Callum Hawkins am le yn nhîm Prydain ar gyfer Pencamwpriaethau’r Byd. Gorffennodd y Cymro’r ras mewn 2:11:46 ac yn yr unfed safle ar bymtheg. Amser ardderchog, ond dim cystal a’r gobaith wrth iddo golli tir ar Hawkins yn ail hanner y ras, ac yntau’n gorffen mewn 2:08:14 – record Albanaidd oedd yn ei godi uwchben Dewi yn rhestr rhedwyr marathon cyfredol cyflymaf.
Er hynny, roedd ei safle fel trydydd Prydeinwr tu ôl i Farah (2:05:39) a Hawkins yn ddigon da i sicrhau lle iddo ym Mhencampwriaethau’r Byd.
Dwi wedi gwrando ar gwpl o gyfweliadau gyda Dewi ar bodlediadau ers hynny, ag yntau’n sôn nad oedd yn teimlo’n iawn ar ddiwrnod y marathon. Byddai unrhyw un sydd wedi dilyn gyrfa Dewi yn gwybod ei fod wrth ei fodd yn rasio, ac mae’r ffaith nad ydy o wedi rasio fawr ddim ers Llundain wedi bod yn amlwg. Yn anffodus, cadarnhawyd y gofidion wythnos diwethaf wrth i’r aelod o glwb Harriers Abertawe gyhoeddi ei fod yn tynnu allan o Doha.
Mae’n debyg fod Griffiths wedi bod yn dioddef o salwch dirgel dros y misoedd diwethaf sydd wedi arwain at flinder eithriadol, a’i gwneud yn anodd iawn iddo hyfforddi. Does dim eglurhad meddygol ynglŷn â’i gyflwr ond mae’n debygol mai cyfuniad o hen feirws a gor-hyfforddi (rydan ni redwyr i gyd yn euog o hynny tydan!) sydd ar fai.
Y newyddion da ydy bod Dewi i’w weld mor benderfynol ag erioed, ac ar ôl cael egwyl fach yn bwriadu dechrau hyfforddi eto a thargedu’r Gemau Olympaidd yn Tokyo blwyddyn nesaf.
Pob lwc Dewi, rydan ni gyd yn gobeithio dy weld nôl ar dy orau yn fuan.