Bekele v Kipchoge a thorri dwy awr

Mae record y byd y marathon wedi bod yn y newyddion dros yr wythnos diwethaf. Rhedodd  Kenenisa Bekele o Ethiopia ras anhygoel ym Marathon Berlin ddydd Sul diwethaf a dod o fewn dwy eiliad i dorri’r record byd o 2:01:39 sy’n eiddo i Eliud Kipchoge o Kenya.

Ro’n i wedi fy synnu’n fawr i ddweud y lleiaf wrth glywed y newyddion. Does dim amau mai Bekele ydy un o’r rhedwyr pellter gorau erioed – yn ôl nifer, fo ydy’r gorau erioed o ystyried ei record dros ystod eang o’r 5000m i’r marathon.

Tair medal aur ac un arian dros y 5,000m a 10,000m yn y Gemau Olympaidd, pum medal aur (ac un efydd) ym Mhencampwriaethau’r Byd dros y pellteroedd hynny, gan hefyd osod record byd dros y ddau bellter hefyd.

Cam mawr i’r marathon

Mae camu i’r marathon yn heriol – gall Mo Farah dystio i hynny. Mae gyrfa Bekele ers camu i’r marathon wedi bod yn gymysg i ddweud y lleiaf.

Enillodd Bekele ei farathon cyntaf ym Mharis yn 2014 gan osod record i’r cwrs, 2:05:04, ond ers hynny mae wedi bod yn anghyson. Pedwerydd yn Chicago 2014, ras a enillwyd gan Kipchoge; methu gorffen Dubai yn 2015 a thrydydd yn Llundain 2016 (eto, gyda Kipchoge’n fuddugol).

Yna, ennill Berlin yn 2016 mewn amser anhygoel o 2:03:03 – yr ail amser gorau erioed i’r marathon ar y pryd. Methodd a gorffen Dubai eto yn 2017, cyn gorffen yn ail i Daniel Wanjiru yn Llundain.

Methodd â chystadlu gyda Kipchoge ym Marathon Llundain 2018, na chwaith Mo Farah i ddweud y gwir – enillodd Eliud mewn 2:04:17, gyda Farah yn drydydd a Bekele’n ddim ond chweched mewn 2:08:53.

Cysondeb Kipchoge

Ers hynny, mae Eliud Kipchoge wedi chwalu record y byd ym Merlin mis Hydref y llynedd – 2:01:39, oedd funud ac 18 eiliad ynghynt na’r record flaenorol a osodwyd gan Dennis Kimetto ar yr un cwrs yn 2014. Yna, rhedodd yr ail amser gorau erioed yn Llundain ym mis Ebrill eleni – 2:02:37 – gan lusgo Mosinet Geremew yn yr ail safle i amser o 2:02:55, fyddai’n record byd flwyddyn yn ôl.

Yn hollol wahanol i Bekele, mae Kipchoge wedi bod yn hynod o gyson ers symud i’r marathon – mae wedi ennill 12 o’r 13 marathon mae wedi rhedeg ynddyn nhw – yn ail ddim ond unwaith ym Merlin yn 2013 wrth i Wilson Kipsang dorri record y byd i ennill.

Wrth i Kipchoge baratoi ei ymgais i dorri’r amser hudol o ddwy awr ar gwrs marathon answyddogol yn ddiweddarach yn y mis, teg dweud mod i’n grediniol ei fod ben ac ysgwyddau’n well nag unrhyw redwr marathon arall, gan gynnwys Bekele.

Ond lle rydach chi’n gwybod yn union beth fyddwch chi’n ei gael gan y gŵr o Kenya, mae gan Bekele y gallu gwyrthiol hwnnw o dynnu rhywbeth hudol o’i het. Go brin fod llawer, os unrhyw un yn disgwyl yr hyn ddigwyddodd wythnos diwethaf, ond y canlyniad ydy galwadau i weld y ddau gawr yn mynd benben ym Marathon y Gemau Olympaidd yn Tokyo blwyddyn nesaf.

Petai hynny’n digwydd, yn bersonol dwi’n dal i gredu’n gryf mai Kipchoge fyddai’n dod i’r brig, ac mae hynny’n bennaf diolch i’r hyn ddaw i’r amlwg wrth wylio’r ffilm ddogfen ardderchog Breaking2 isod.

Dim terfyn

Dwi’n bwriadu trafod ei ymgais i dorri dwy awr yn Fienna yn ddiweddarach yn y mis mewn blog arall – ydw, dwi’n ffan mawr!

Ffilmiwyd y ffilm ddogfen isod ar gyfer sianel YouTube National Geographic yn ystod ei ymgais flaenorol yn 2017, lle daeth yn boenus o agos at gyrraedd y nod.

Mae gan Kipchoge ddywediad – ‘No human is limited’ – a boed chi’n rhedwr neu beidio, byddwn yn argymell gwylio’r ffilm yma i brofi’r cryfder meddyliol anhygoel sydd ganddo.

Dyna’r gwahaniaeth amlwg rhyngddo a’r ddau athletwr arall sy’n rhan o’r her, Lelisa Desisa a Zersenay Tadese a dyna pam dwi’n grediniol y byddai’n feistr ar Kenenisa Bekele petai’r ddau’n cwrdd mewn marathon yn y dyfodol.

Cyhoeddwyd gan Owain Schiavone

Boi bach o bob dim!

One thought on “Bekele v Kipchoge a thorri dwy awr

Gadael sylw

Design a site like this with WordPress.com
Cychwyn arni