Adroddiad ras: ½ Marathon Caerdydd

Dwi am rannu cyfrinach gyda chi…tydi rasys ddim wastad yn mynd cystal â’r gobaith!

Fawr o gyfrinach mewn gwirionedd os ydach chi’n rasio’n rheolaidd! Ond os ydach chi’n fwy newydd i’r gamp, ac yn awyddus i wneud mwy, a gwella ar y PBs mae’n ffaith sy’n werth ei nodi a chofio.

Mae Hanner Marathon Caerdydd yn un o uchafbwyntiau’r calendr rasio i mi, fel llawer iawn o bobl eraill. Ras fwyaf Cymru ar strydoedd ein prif ddinas. Ras mae pawb, yn rhedwyr neu beidio, yn ymwybodol ohoni. Ras dwi wedi cael PB ynddi bob amser dwi wedi ei rhedeg hi…nes y tro yma!

Yn erbyn y ffactorau, yn benodol cael fy nghnoi gan gi yr wythnos flaenorol (mae hona’n stori arall!), ges i ddiwrnod i’w gofio yn Hanner Marathon Caerdydd llynedd. Cnocio bron munud a hanner oddi-ar fy amser gorau dros y pellter gan sicrhau amser ‘Championship’ sy’n gwarantu lle i mi ym Marathon Llundain – nod ro’n i’n meddwl oedd ymhell tu hwnt i fy nghyrraedd flwyddyn ynghynt, os nad fisoedd ynghynt.

Roedd hi wastad yn mynd i fod yn her i wella ar hynny eleni, ond dwi wastad yn trio herio fy hun ac yn meddwl y galla i wneud yn well. Er mod i wedi bod yn dweud wrth fy hun nad oes pwysau o gwbl eleni, mewn gwirionedd dwi’n teimlo mod i mewn gwell siâp na llynedd ac anelu i wella fy amser.

Roedd ‘nid da lle gellir gwell’ yn rhywbeth ro’n i’n clywed yn reit aml yn yr ysgol, ac efallai bod hynny wedi aros gyda mi oherwydd mae’n debyg mai fy ngwendid mwyaf ydy mod i byth 100% yn hapus ac yn meddwl mod i’n gallu gwneud yn well.

Teimlo’n dda

Yr ogia cyn y ras. Amseroedd da i Dewi ( 01:36:37) ac Archie ( 02:08:22) ddydd Sul.

Nes i sôn yn y blog am ½ Marathon Caerdydd wythnos diwethaf bod hon yn ras wahanol i bob un arall, bod angen bod yn ymwybodol o’r torfeydd a rhoi mwy o amser i’ch hunain ac ati. Dwi’n hanner jogio draw yn ddigon buan i gyfarfod ffrind, Dewi erbyn 8:45 – cafodd y ddau ohonom ni strach gyda’r ciw’s i ollwng ein bagiau llynedd, felly rydan ni’n awyddus i osgoi hynny’r tro yma. Rydan ni’n gollwng y bagiau mewn da bryd a dwi’n gweld cwpl o ffrindiau rhedeg eraill am sgwrs, gan gynnwys ffrind coleg arall, Archie, ac yn teimlo’n gyfforddus.

Yr un peth dwi ddim yn llwyddo i wneud ydy cynhesu fyny’n iawn – mae hynny wastad yn her yng Nghaerdydd oni bai eich bod chi’n ddigon ffodus i fod ymysg y rhedwyr elit sy’n cael mynd i gynhesu yn y castell. Dwi’n penderfynu trio gwneud ychydig wrth ochr y llinell ddechrau, ond mae stiward yn pregethu “you have to get in the pen NOW!”, felly dwi’n ufuddhau.

Mae’r gwn yn mynd ac mae’r dechrau mor chwyrn ag arfer. Er hynny, mae pethau’n setlo’n gyflym a dwi’n ffeindio fy hun mewn grŵp mawr, ond da, yn fuan iawn. Mae ‘na lot o wynebau cyfarwydd yma – rhedwyr sydd tua’r un lefel a mi, ac ambell un sydd ychydig yn gynt. Dwi’n teimlo’n gyfforddus iawn am y tair neu bedair milltir gyntaf wrth i’r grŵp deneuo a dwi yng nghwmni grŵp llawer llai o redwyr cryf wrth gyrraedd Penarth.

Mae’r splits yn gyflym, ond yn debyg i’r hyn dwi’n anelu amdano – dwi’n dweud wrth fy hun i sticio gyda’r grŵp nes y morglawdd er mwyn cysgodi rhag y gwynt, ac wedyn gweld beth ddaw. Er gwaetha’ hynny, wrth agosáu at y morglawdd dwi’n dechrau colli cysylltiad ac yn fuan iawn dwi rhwng dau grŵp ar y rhan gwaethaf posib o’r cwrs – typical. Yn waeth na hynny, mae’n dechrau teimlo’n galed…a dwi ddim ond 5 milltir mewn!

Ddaw hi ddim

Yr hyn sy’n dilyn ydy 8 o’r milltiroedd caletaf dwi wedi profi mewn ras. Dwi’n edrych ymlaen at weld fy nheulu sy’n cefnogi ar 7 milltir, ac yn trio ymddangos yn frwdfrydig wrth basio, ond dwi’n amau os ydw i’n twyllo unrhyw un! Wrth i redwyr ddod heibio o’r tu ôl dwi’n trio dweud wrth fy hun i yrru ymlaen, a bod yr ail wynt yn siŵr o ddod yn fuan, ond wrth i’r milltiroedd basio dwi’n dal i ddisgwyl nes sylweddoli yn y diwedd na ddaw hi heddiw.

Mae’n sefyllfa wahanol iawn i llynedd, lle’r o’n i’n pasio pobl eraill yn ail hanner y ras. Y tro yma, fi ydy’r un sy’n cael fy hela ac er bod ambell un yn fy annog i fynd gyda nhw, tydi’r coesau jyst ddim yna.

Dwi wedi trafod fy edmygedd o gryfder meddyliol Eliud Kipchoge ac wedi trio dysgu o hynny, ac o dechnegau dwi wedi clywed mae rhedwyr eraill yn defnyddio pan fydd pethau’n mynd yn galed. Yn anffodus, mae hynny i gyd yn mynd anghof ddydd Sul, ac mi fyddai’n onest, mae’r meddyliau’n rai negyddol a dwi’n rhoi amser caled iawn i fy hun.

Mae’r allt fach serth ar filltir 12 yn teimlo’n anoddach nac erioed, ac yn groes i’r arfer does dim llawer o gic gen i yn y filltir olaf. Dwi’n falch iawn i weld y llinell derfyn, y tanc yn wag.

Hanner cic i ddal cwpl o fois wrth orffen, ond fawr ddim yn y tanc

Dadansoddi

Yr hyn dwi wedi anghofio’n ystod y milltiroedd tywyll yna ydy mod i heb weld llawer o’r wynebau cyfarwydd yna oedd yn y grŵp gyda fi ar ddechrau’r ras…prin unrhyw un ohonyn nhw a dweud y gwir. Un ar ôl y llall, mae’r bois o glybiau’r Gorllewin yn croesi’r llinell a seiat yn ffurfio.

Daw i’r amlwg yn weddol fuan mai nid fi ydy’r unig un sydd wedi cael diwrnod caled. A dweud y gwir, mae bron pawb dwi’n sgwrsio â nhw, yn redwyr cryf i gyd, yn dweud eu bod nhw wedi dioddef. Reit, nid jyst fi sydd wedi cael diwrnod gwael felly…tybed os mwy ynddi na hynny? Hmm, erbyn meddwl, roedd hi’n reit wyntog mewn sawl lle…ac mae’n ymddangos ei bod hi’n ddiwrnod clos iawn hefyd. Mae ‘na nifer o ffactorau tu hwnt i reolaeth sy’n gallu effeithio ar berfformiad.

Er mod i 72 eiliad yn arafach na llynedd, dwi’n darganfod yn ddiweddarach mod i mewn gwirionedd yn gorffen 14 safle’n uwch nag yn 2018. Ac o ystyried pethau a thrio dadansoddi’n fanylach, er yn siomedig bod y pen wedi ildio pan aeth pethau’n galed, mae’n gadarnhaol mod i wedi dod trwy hynny a chael amser digon parchus yn y bon. Dwi’n weddol ffyddiog mod i wedi dysgu o’r profiad, ac yn mynd i fod yn gryfach o ganlyniad.

Dyna’r neges yn y stori am wn i – does ‘na ddim math beth a ras wael, dim ond rasys sydd ddim cystal â’r gobaith. Y fuddugoliaeth ydy’r gwaith hyfforddi, cyrraedd y llinell ddechrau mewn cyflwr da, a gobeithio croesi’r llinell derfyn mewn un darn. Mae’n bwysig gosod targedau, hyd yn oed rhai uchelgeisiol, ond tydi hi ddim diwedd y byd os nad ydach chi cyrraedd y targedau yna bob tro – y broses, a dysgu o’r profiad sy’n bwysig.

Cyhoeddwyd gan Owain Schiavone

Boi bach o bob dim!

2 sylw ar “Adroddiad ras: ½ Marathon Caerdydd

  1. Joio honna ac yn debyg iawn i profiad fi. Falch i weld na dim fi oedd yr unig un i feddwl fod conditions yn bell o fod yn ideal. Da iawn am parhau a gael amser da

    Hoffi

Gadael sylw

Design a site like this with WordPress.com
Cychwyn arni