Wythnos ar ôl cynnal marathon elite Llundain, ynghyd â marathon rhithiol Llundain, dwi’n falch iawn o westai diweddaraf podlediad Y Busnes Rhedeg ‘Ma.
Mae Peter Gillibrand yn newyddiadurwr, ac wrth arwain at benwythnos y marathon eleni cafodd gyfle i holi neb llai na Paula Radcliffe ac Eliud Kipchoge!
Bu hefyd yn gohebu tipyn ar straeon rhai o’r rhedwyr oedd yn rhedeg y marathon rhithiol, gydag ambell stori hyfryd yn eu mysg.
Roedd Peter ei hun yn rhedeg y marathon rhithiol, rownd strydoedd Caerdydd, wedi’i wisgo fel seren! Ac mae’n deg dweud fod Peter yn dipyn o seren – yn gymeriad hynod o hoffus ond hefyd yn weithgar dros ben gyda nifer o achosion da.
Roedd Peter yn codi arian at elusen Mencap wrth wneud ei farathon, ac mae dal modd i chi ei noddi nawr.
Mae ‘na ecsgliwsif fach yn ystod y bennod hefyd wrth i Peter ddatgelu ei gynlluniau i roi ymgais ar dorri record byd go unigryw!
Cerddoriaeth y bennod yma ydy ‘Y Gorwel’ gan Ghostlawns oddi-ar yr albwm Motorik, fydd allan ar 30 Hydref.
