Bydd unrhyw un sy’n gwrando ar bodlediad Y Busnes Rhedeg yma’n gwybod erbyn hyn fy mod i’n manteisio ar y cyfle i gyflwyno bach o gerddoriaeth Gymraeg i’w gwrandawyr bob tro.
Dwi wedi mynd gam ymhellach gyda’r bennod ddiweddaraf, gan wahodd cerddor i fod yn westai!
Dion Jones ydy ffryntman y ddeuawd blŵs-roc, Alffa – grŵp dwi wedi eu hadnabod ers yn fuan iawn ar ôl iddyn nhw ffurfio, ac wedi mwynhau eu gweld yn datblygu a dod yn llwyddiannus iawn. Yn wir, crëodd Alffa hanes yn 2018 wrth i’w sengl ‘Gwenwyn’ groesi 1,000,000 ffrwd ar Spotify – y gân Gymraeg gyntaf erioed i wneud hynny.
Dwi wastad yn mwynhau sgwrsio am fiwsic efo Dion, ac mae ‘na rywfaint o hynny ar y pod, ond mae ‘na dipyn o drafod rhedeg gan fod Dion wedi dechrau rhedeg yn ystod y clo mawr a chael budd mawr o wneud hynny. Yn wir, yn ystod y sgwrs rydan ni’n trafod sut mae rhedeg wedi helpu llenwi rhywfaint ar y bwlch o fethu perfformio ar lwyfan.
Rheswm arall o’i wahodd am sgwrs ydy fod Dion a chwe ffrind, sydd i gyd yn gerddorion adnabyddus, yn gwneud her Tashwedd (Movember) y mis yma gan dyfu mwstash, a cheisio rhedeg neu seiclo 750km yn ystod y mis. Gallwch eu noddi nawr.
Am y tro cyntaf erioed dwi hefyd yn cynnal cwis bach ar y podlediad! Bydd rhaid i chi wrando i ddysgu mwy am hyn, ond bydda i’n ysgrifennu darn blog sy’n berthnasol yn y man!
(Ma prif lun y darn yma o’r gig cyntaf nes i bwcio Alffa ar eu cyfer yn 2016 – Steddfod yr Urdd Y Fflint!)
