Byth ers clywed y newyddion am hanes hynod o drist Sarah Everard yn gynharach yn y mis, mae diogelwch merched ar y strydoedd, a’r ymddygiad mae merched wedi gorfod dioddef yn gyffredinol gan ddynion wedi pwyso’n drwm ar fy meddwl.
Fel llawer iawn dwi’n siŵr, dwi’n aml yn defnyddio rhedeg fel cyfle i glirio’r meddwl, neu o leiaf i roi trefn ar y meddyliau. Mae’n deg dweud bod y pwnc yma, ynghyd ag ymgyrchoedd fel ‘Reclaim The Night / Streets’ wedi meddiannu fy meddyliau’n llwyr ar sawl run, ond yn wahanol i’r arfer tydi rhedeg ddim i’w weld yn cynnig yr atebion dwi’n chwilio amdanyn nhw y tro yma.
Pwrpas y blog yma, a phodlediad Y Busnes Rhedeg Ma, ydy codi ymwybyddiaeth o redeg yng Nghymru, ond hefyd ysgogi pobl i ddechrau a dal ati i redeg. Er fy mod i eisoes yn ymwybodol o hynny, mae sylweddoliad llawn o’r heriau sy’n wynebu 50% o’r boblogaeth i wneud hynny wedi bod yn gliriach nag erioed dros yr wythnosau diwethaf.
Dwi’n ymwybodol ers amser fy mod i’n freintiedig iawn yn gallu mynd i redeg pryd bynnag, a lle bynnag (o fewn rheswm) sy’n gyfleus. Mae clywed am brofiadau merched, a’r ystyriaethau maen nhw’n gorfod gwneud cyn camu trwy’r drws BOB TRO maen nhw’n mynd allan i redeg wedi bod yn agoriad llygad, ac yn dorcalonnus i fod yn gwbl onest.
Er fy mod i’n awyddus iawn i gynnal trafodaeth am y pwnc yma ar y llwyfannau rhedeg yma, dwi wedi dod i’r canlyniad fy mod i, fel dyn, yn hollol anghymwys i wneud hynny gydag awdurdod. Felly, dwi wedi penderfynu gofyn i 5 o ferched sy’n rhedwyr dwi’n parchu’n fawr i ysgrifennu ar fy rhan, gan obeithio bydd hynny’n cynnal y sgwrs, ac yn ysgogi mwy o drafodaeth am broblem sydd wir angen ei datrys.
Dyma eu profiadau…
Mae pawb wedi clywed beth mae rhaid i ni fel merched gwneud neu feddwl erbyn nawr. Yr edrych am y tipiau diogelwch “rhag ofn ein bod ni eu hangen”, y “mynd a’r ffon – rhag ofn”, y “mynd gyda fy ffrindiau – rhag ofn”, y “mynd yng ngolau dydd yn unig – rhan ofn”. Presenoldeb y “rhag ofn” yng nghefn fy meddwl sy’n fy ngwylltio i. Y rheswm dros hyn yw’r anghydbwysedd beth mae’r “rhag ofn” yno’n feddwl i ddynion a merched sy’n rhedeg. Fel merch sydd wedi bod yn rhedeg ers bron i saith mlynedd rwyf wedi gwneud a dweud pob un o rain ac er fy mod wedi gwneud pob un (yn ddyddiol / wythnosol) does dim gymaint o ryddhad o’r “ofn” yno. Pan ofynnais i fy ngŵr (sy’n rhedeg yn ddyddiol yn yr un cynefin) os oedd o’n dweud a gwneud y rhain hefyd, yr ateb syml oedd “na”. Dechreuodd sgwrs am ein gwahanol brofiadau wrth redeg yn annibynnol a’r pryderon gwahanol sydd gennym. Roeddwn i gallu rhesi degau o bryderon oedd gen i am fy niogelwch fy hun a hefyd profiadau o ddychryn neu o agwedd sarhaus ataf. Ei bryder mwyaf ef oedd y potensial o ddychryn rhywun arall i boeni am eu diogelwch nhw. Eglurodd ei fod yn ymdrech i osgoi – “rhag ofn”, gwneud ei bresenoldeb yn ymwybodol i eraill – “rhag ofn”, dweud helo yn gyfeillgar – ond ddim rhy gyfeillgar “rhag ofn” a tipyn mwy. Roedd y “rhag ofn” yma yn ei feddwl wrth redeg, ond nid yn bwysau ar ei feddwl. Dwi’n gwybod ei fod e’n un o’r mwyafrif o ddynion a bysau byth yn meddwl dychryn neu frifo merch – ond mae’n rhaid i mi, fel merch, feddwl am y lleiafrif – rhag ofn. Rhag ofn nad ydyn nhw mor gwrtais neu mor feddylgar am brofiadau eraill. Rhag ofn i mi ddweud helo yn gyfeillgar i’r un anghywir, rhag ofn i mi dderbyn coment sarhaus, rhag ofn i mi gael fy mrifo, rhag ofn i mi fethu dod adre i fy ngŵr a fy mhlant. Nid yw hwn i ddweud nad yw dynion yn dychryn neu’n teimlo yn yr un “rhag ofn” yno ar adegau ond mae’r pryder i ni’n fyw neu yng nghefn ein meddyliau yn aml ar bob un run. Felly, wrth fynd ati yn fy ‘On Clouds’ lliwgar, gyda fy nillad llachar, gyda fy ffon mewn poced gudd, y Garmin neu’r Strava gyda ‘beacon’ yn actif, mae’r ffocws o’r pace, pellter, elevation a’r route delfrydol yn cael ei gymylu BOB TRO gyda’r gweithredai neu’r meddyliau yno mae’n rhaid i mi fod yn fwy iddyn nhw i fy nghadw i’n saff – rhag ofn.
NME
Dwi ddim yn rhedwr cystadleuol. Dwi ddim yn rhedwr cyflym chwaith. Ond dwi yn mwynhau rhedeg. A’r hyn dwi’n mwynhau yn fwy na dim yw’r teimlad o ryddid a ddaw o roi un droed o flaen y llall. Y teimlad o fod ar fy mhen fy hun.
Dwi’n rhedwr ‘gwrando ar gerddoriaeth’ hefyd. Dwi’n llwyr ymwybodol bod yna elfen o snobyddrwydd tuag at redwyr sy’n gwneud hynny, a chonsyrn gwirioneddol efallai fod sŵn y gerddoriaeth yn gwneud rhywun yn llai ymwybodol o’u hamgylchedd, boed hynny’n bobl eraill neu yn draffig. Un tro yn unig es i heb y clustffonau. Wn i ddim ai cyd-ddigwyddiad ydoedd, ond wrth gael dyn yn gweiddi’n anweddus arnaf o’i fan, a dyn arall yn gwneud yr un fath o’i gar boy racer, y penderfyniad naturiol oedd sodro’r clustffonau i’r clustiau bob tro o hynny ymlaen. O leiaf dwi ddim yn medru clywed os oes unrhywun yn gweiddi…
Dwi ddim yn medru siarad dros pob merch, ond dyma’r fath o benderfyniadau mae nifer o’r merched dwi’n adnabod yn gwneud. Dewisiadau rydym ni’n gwneud yn anymwybodol bron, sgyrsiau sy’n digwydd yn y meddwl. Y dewis rhwng diogelwch a chau allan y byd yn bwrpasol. Dewis gwisgo’r hyn sy’n gyfforddus neu’r hyn fydd yn denu’r lleiaf o sylw. A yw’n saff i fapio run gwledig rheolaidd ar Strava? Tua phryd yn yr Hydref mae’n mynd yn rhy dywyll i fentro lawr hoff route a gorfod ildio i strydoedd goleuedig y dref? Neu dylwn i brynu torch pen? Yw en saff i fynd i lefydd lle mae angen torch pen?
Dwi’n rhedwr araf ond dwi’n rhedwr hapus. Felly dwi’n dueddol o wenu wrth gydnabod rhedwyr eraill, allai ddim helpu’r peth! Yn y gorffennol, lleiafrif o ddynion fyddai’n fy nghydnabod i, gyda’r rhan fwyaf a’u llygaid yn edrych yn syth ymlaen, yn ddwfn yn eu zone. Ond ers marwolaeth drasig Sarah Everard, dwi yn sicr wedi gweld newid. Mae pob dyn, yn ddi-fael yn gwenu arnaf yn fel giât yn garedig, fel petaent yn trio mynegi ‘does dim rhaid i ti boeni amdanaf fi, dwi ddim yn ddyn felly’. Ac er mor ddiolchgar ydw i am y sensitifrwydd a’r empathi, mae rhywbeth cwbl torcalonnus am y peth.
KW
Dwi wedi bod yn rhedeg ers ryw dair blynedd ac yn mynd ar fy mhen fy hun fel arfer. Yn yr haf dwi’n tueddu i fynd yn y bore cyn gwaith ond wedi teimlo’n anghyfforddus sawl gwaith wrth basio dynion yn cerdded ar eu pen eu hunain ar hyd y llwybr beics lle fydda i’n rhedeg. Mae’n siŵr nad oedd sail dros deimlo’n anghyfforddus o gwbl, ond mae’n naturiol teimlo felly rywsut. Wna i byth basio dyn ar ei ben ei hun heb drio cofio sut oedd o’n edrych wedyn er mwyn rhoi disgrifiad i’r heddlu pe bai raid. Dwi wedi gwneud hyn erioed, a dim ond yn ddiweddar dwi wedi sylweddoli pa mor ‘rong’ ydy hynny mewn gwirionedd.
BE
Pan ofynnodd Owain Sch. i mi sgwennu pwt am ddiogelwch merched wrth redeg ar ben eu hunain yn dilyn hanes ofnadwy Sarah Everard mi roeddwn i’n teimlo braidd yn anghymwys, nad oedd gennyf ddim i’w gynnig, dim cyngor doeth, dim profiad drwg i adrodd ac erioed wir wedi teimlo’n ofnus wrth redeg o gwmpas y lle ar fy mhen fy hun, a bo fi byth bron yn meddwl am ‘y beth all ddigwydd’.
Ond wedi eistedd lawr a chysidro, sylweddolais gymaint mae’r ‘y beth all ddigwydd’ YN rheoli fy ryns. Y ffordd, y lle a’r pryd dwi’n rhedeg a fy mhrofiad o’r ryn yna. Fy mod yn teimlo’n ofnus ar brydiau yn rhedeg ar fy mhen fy hun, a hynny heb i mi sylweddoli bron os ydw i’n bod yn hollol onest hefo fi fy hun. Mae hynny wedi bod yn gryn ddychryn i mi.
Dwi wrth fy modd yn rhedeg yn y bore bach, pan fydd gweddill y byd yn cysgu a dim ond natur yn ei holl ogoniant allan yn chwarae. Ond bydd amser y ‘bore bach’ yma yn newid o dymor i dymor. Fyddai ddim yn hoffi rhedeg yn y tywyllwch ‘rhag ofn’. Mi fyddai’n newid yr amser i siwtio’r haul yn codi. Dwi ddim yn siŵr pam y byddai pethau gwaeth yn digwydd yn y tywyllwch, ond fel yna dwi wedi cael fy nysgu, da ni wedi cael ein rhybuddio a’n siarsio i gadw ein hunain mewn mannau goleuedig, mewn llefydd prysur gyda phobl eraill o gwmpas. Fyddai hefyd yn dewis fy llwybr, ddim yn mynd ar hyd llwybrau cuddiedig. Nid rhywbeth dwi’n gwneud penderfyniad ymwybodol ohono, ond rhywbeth dwi jyst yn ei neud. Heb feddwl. Os fyddai’n gweld unigolyn (dyn) ar ben ei hun ar hyd llwybr, mi fyddai’n ceisio mynd rhyw ffordd arall. Fyddai hefyd os ydw i’n digwydd pasio unrhyw un ar ei ben ei hun, yn codi fy spid, ceisio edrych yn fwy ffres nac ydw i wir yn ei deimlo, nid er mwyn dangos fy hun ond fel y bydd yn meddwl eilwaith am geisio fy nal. Mae hyn yn neud i fi deimlo’n hynod o euog. Dwi’n barnu’r unigolyn am ddim rheswm heblaw ei fod ar ben ei hun.
Ac os fyddai’n bod yn onest dwi hefyd wedi derbyn sawl profiad annifyr tra’n rhedeg ar fy mhen fy hun. Pam na feddyliais am y rhain? Ydyn nhw efallai yn rhan o bethau i’w disgwyl tra allan yn rhedeg ac yn ‘fel yna y mae petha’. Fel arfer mae’r episodau hyn yn cynnwys dynion yn gweiddi o’u ceir neu o’u faniau. Dwi rili ddim eisiau swnio’n ystrydebol a chollfarnu dynion. Dwi ddim eisiau rhoi bai ar gam nac ychwaith ddwyn anfri ar ddynion yn gyffredinol, ond wir, dynion ydi’r rhai sydd wedi bod yn rhan o bob profiad annifyr dwi wedi ei gael tra’n rhedeg ar fy mhen fy hun.
Dwi wedi cael car yn gyrru yn araf ac hynod o agos ataf yr ochr anghywir i’r ffordd tra’n rhedeg ar hyd ochr ffordd dawel. Mi wnaeth hyn fy ypsetio i yn fwy na dim un digwyddiad arall. Gwneud i mi deimlo fy mod i wedi neud rhywbeth o’i le, na ddyliwn i fod yma yn rhedeg. Teimlad hynod o anghyfforddus sydd yn bendant wedi gneud i mi ail feddwl rhedeg ar hyd ffordd anghysbell.
Un profiad ble dychrynais fy hun yn fy ymateb iddo oedd pan oeddwn yn rhedeg i lawr y stryd fawr un noson. Er ei bod yn hwyr mi roeddwn i’n rhedeg lawr stryd gyda digon o olau ac er nad oedd yn brysur mi roedd yna ambell i berson o gwmpas y lle. Y munud nesaf mi daflodd bachgen mewn criw o fois yn eu harddegau hwyr wy arnai. Mi roeddwn wedi dychryn, ac er mai wy a daflwyd, iasgob mi wnaeth o frifo, good shot go iawn! Mi redon i ffwrdd ac yn yr eiliad yna am ryw reswm penderfynais fynd i chwilio amdanynt gan fynd rownd y strydoedd cefn. Mi welais i nhw tu allan i’r siop lyfrau Cristnogol! Rhedodd un i ffwrdd ac mi arhosodd y ddau arall i wrando ar fy nghwyn. Mi roeddent yn hynod o ymddiheurol. Hwyl oedd o i fod, doedd dim bwriad ganddyn nhw i fy ypsetio nac i’m brifo ond dyna yn union oedden nhw wedi ei neud. Dwi wir yn teimlo fod y sgwrs yna wedi helpu nhw a fi. Dwi’n deud y stori yma oherwydd, ia, mi fedrwn ni gyd gadw ein hunain yn saffach drwy wneud yr holl bethau mae’r holl bobl yma yn ei gynghori i ni wneud fel merched, cadw mewn lle goleuedig, gyda phobl o gwmpas, gadael i bobl wybod lle yda ni’n mynd ac ati. Ond wn i ddim sut mae hyn yn mynd i roi stop ar bethau rhag digwydd. Dyma yn union a wnaeth Sara Everard.
Nid gan y dioddefwr mae’r pwer i roi stop ar hyn, drwy ddilyn y ‘rheolau cadw’n saff’ yma nac ychwaith yr ymosodwr ei hun, drwy osod cyrffyw er enghraifft (fel y cynigiodd rhai), ond yn hytrach gan y gwylwyr, y ni sydd o gwmpas, yn gymuned o ddynion ac o ferched.
EG
Oes pwynt sôn am yr amser y wnaeth bechgyn fy nilyn ar moped I smacio fy mhen-ôl, yn ganol y dydd, tra mas am rhediad? Hwyl a sbri I nhw, dwi’n siwr. Am y tro wnaeth tri neu bedwar bachgen ifanc fy nilyn ar eu beiciau am milltir neu ddwy? Am bach o sbort? Yr amser ‘na wnaeth tri hen ŵr blocio’r ffordd a gweud wrthai I “fod yn ofalus, dylse ti ddim fod allan ar dy hunan fach”? Yn “poeni amdanaf”, wrth gwrs. Neu sôn efallai am y chant a mil o weithiau mae rhyw foi a’I fêt yn hongian mas o ffenest eu car i chwibanu neu gwneud sŵn cysanu ataf? Efallai bod fi ddim yn gwneud digon? Strava i preifat, rhedeg heb headphones, altro oriau rhedeg, pendroni am gwisgo crop top ar diwrnod poethaf y blwyddyn er osgoi sylw dieisiau? Neu efallai, efallai, nid ni y merched sydd a’r cyfrifoldeb i newid pethau, i ysteried pob manylder cyn gadael y ty? Falle taw’r bechgyn sydd angen meddwl dwywaith: odi fy sylwadai yn addas? Efallai bod beth sy’n bach o sbort I fi yn ei hofni hi? Galla’I defnyddio fy llais er mwyn newid er daioni? Un peth sydd yn glir: mae’n hen bryd iddyn ni newid y naratif: nid canolbwyntio ar ddiogelwch merched sydd angen, ond canolbwyntio ar agwedd ac ymddygiad tuag at merched, menywod a menywod drans. Meddwl dwywaith, dysgu empathi, a gadael I ni’n llonydd I rhedeg yn rhydd.
AD
Diolch i bawb am eu cyfraniadau gwerthfawr – gadewch i ni gadw’r drafodaeth yma’n fyw.