Mae’n anodd gwybod lle i ddechrau.
Ras gyntaf ers dros bron 14 mis! Y tro cyntaf allan o Geredigion ers dros flwyddyn! Marathon cyntaf erioed!
Wrth i’r llwch setlo, a’r cyhyrau poenus ddechrau llacio, mae’n anodd crynhoi’r teimladau. Er mor naff mae hyn yn mynd i swnio…mae o’n teimlo bach fel breuddwyd.
Nid dyma oedd y cynllun ar gyfer fy marathon llawn cyntaf, roedd hynny i fod yn Llundain union flwyddyn yn ôl. Yn sicr roedd hwn yn achlysur gwahanol iawn i’r hyn ro’n i’n disgwyl ei brofi yng nghanol torfeydd Llundain, ond rywsut, roedd o’n teimlo’r un mor arbennig, ac yn llawer mwy arwyddocaol.
Y cefndir
Roedd Marathon Elite Wrecsam i fod i ddigwydd ym mis Hydref diwethaf a hynny, fel mae’r enw’n awgrymu, mewn ystâd ddiwydiannol yn Wrecsam. Syniad Michael Harrington, sef trefnydd ras Hanner Marathon flynyddol Wrecsam, ynghyd â nifer o rasys eraill dros y ffin yn Swydd Gaer.
Y bwriad oedd cynnal ras gyda nifer cyfyngedig o redwyr oedd a’r gallu i redeg marathon dan 2 awr 40 munud i ddynion, a thair awr i ferched. Y gobaith oedd y byddai modd cael caniatâd a thrwydded arbennig iddi allu digwydd dan y cyfyngiadau Covid, trwy roi statws elite iddi. O’r hyn dwi’n deall, roedd trafodaeth ar un pryd i’w defnyddio fel un o ddigwyddiadau ‘prawf’ y Llywodraeth i weld sut fyddai modd cynnal digwyddiadau chwaraeon yn ddiogel.
Yn anffodus, daeth y clo clec yng Nghymru yr union amser roedd y ras i fod i ddigwydd a rhoi stop ar y cynlluniau.
Doedd gohirio nes y gwanwyn ddim yn ddrwg i gyd, ac yn sicr fe roddodd gyfle i’r trefnwyr atgyfnerthu’r casgliad o redwyr fyddai’n rasio, gan hefyd roi cyfle i rai geisio rhedeg amser cymwys i gystadlu yng Ngemau Olympaidd Tokyo. Roedd y rhestr rhedwyr yn gryf…yn gryf iawn, gyda nifer o redwyr clwb gorau Cymru a Lloegr, ynghyd â llu o redwyr cryf o Iwerddon a rhannau eraill o’r byd.
Wrth i’r clo mawr diweddaraf rygnu ymlaen ar ddechrau’r flwyddyn, roedd dal amheuaeth a fyddai’r ras yn digwydd nes yn hwyr yn y dydd, rhyw bythefnos cyn y dyddiad mewn gwirionedd. Yn y diwedd, bu’n rhaid symud y cwrs ychydig filltiroedd o Wrecsam a dros y ffin i Loegr ble roedd y rheolau wedi dechrau llacio, a setlwyd ar gwrs ym mhentref Pulford – yn llythrennol ychydig lathenni dros y ffin, yn wir, roedd HQ y ras yn Rossett yng Nghymru!

Y trefniadau
Yn gyntaf, mae’n rhaid i mi ganmol dewrder a dyfalbarhad Michael Harrington a’i dîm wrth iddynt fynd ati i sicrhau y byddai’r ras yn digwydd. Gyda chymaint o ansicrwydd a heriau i’w goresgyn, alla’i ddim dychmygu sawl awr o waith y treuliodd Michael ar y prosiect ac roedd gwerthfawrogiad y rhedwyr ar y cyfryngau cymdeithasol a’r grŵp Strava yn amlwg iawn.
Roedd y trefniadau ymlaen llaw ac ar y dydd yn ddi-fai, ac yn esiampl wych o’r modd y gellir cynnal digwyddiadau fel hyn yn ddiogel dan yr amgylchiadau presennol.
Yn gryno, roedd y cwrs yn un triongl, tua 3.5 milltir felly roedd rhaid i redwyr y marathon gwblhau 7 lap a hanner (roedd hanner marathon ar y dydd hefyd).

Roedd pawb yn dechrau mewn tonnau o ryw 20-25 o redwyr oedd wedi nodi amcan amser gorffen tebyg i’w gilydd, gyda rhyw 20 eiliad rhwng pob ton. Roedd pawb yn gwybod ym mha don oedden nhw i fod ymlaen llaw, gyda lliw (e.e. gwyrdd o’n i) a llythyren (A, B, C) ar gyfer pob ton. Roedd ardal benodol tu ôl i’r llinell ar gyfer pob lliw, a llythyren o fewn y lliw hwnnw – gyda smotyn unigol i bawb sefyll arno er mwyn sicrhau cadw pellter.
Y rhedwyr cyflymaf oedd agosaf i’r llinell ddechrau, a nhw oedd yn dechrau gyntaf, gyda’r grŵp nesaf yn symud ymlaen i’r llinell yn barod i fynd pan oedd y gorchymyn yn dod. Roedd hyn yn hynod o slic diolch i’r cyfathrebu clir dros yr uchelseinydd. Unwaith roeddech chi’n rhedeg, roedd hi’n teimlo (bron!) fel ras arferol.
Yr hyfforddi
Rhwng paratoi ar gyfer Marathon Llundain llynedd, ac yna dyddiad gwreiddiol y ras yma yn yr hydref, rhaid cyfaddef nad oedd gen i lawer o frwdfrydedd ym mis Ionawr tuag at drydydd bloc hyfforddi marathon heb sicrwydd o ras ar y diwedd. Doedd rhyw anaf bach oedd yn gwrthod cilio ers dechrau mis Rhagfyr ddim yn help, ac ro’n i’n teimlo ymhell o ble y dyliwn i fod o ran milltiroedd yn y coesau erbyn diwedd Ionawr.
Fe wellodd pethau’n raddol ym mis Chwefror, er ei bod hi’n anodd gwthio’r sesiynau caled i’r eithaf wrth hyfforddi ar ben dy hun. Ond ro’n i’n dechrau teimlo’i bod hi’n dod erbyn dechrau mis Mawrth nes i’r achilles dde ddechrau mynd yn boenus a golygu gorfod gostwng y milltiroedd am wythnos.
Doedd hyn ddim yn ddiwedd y byd, yn enwedig gan fy mod i wedi cael tipyn o flas ar ddefnyddio’r beic ar Zwift dros y gaeaf, ac yn defnyddio seiclo’n fwy i draws-hyfforddi yn hytrach na nofio gan fod y pyllau ar gau.
Wnaeth yr anaf ddim cilio’n llwyr, ond doedd o ddim yn rhy boenus i fy stopio a ddim i’w weld yn gwaethygu wrth redeg, felly doedd dim amdani ond dal ati a gobeitho’r gorau. Cliriodd yr anaf yn raddol, ac mi wnes i lwyddo i gael ychydig o wythnosau da yn banc, gyda rhai o’r prif sesiynau mawr yn mynd yn dda hefyd – roedd gobaith!
Ro’n i’n teimlo’n dda wrth i mi orffen y sesiwn fawr olaf bythefnos union cyn y ras, ond yna wrth i’r diwrnod hwnnw fynd ymlaen dechreuodd yr achilles arall deimlo’n boenus, a chwyddo – damia. Effeithiodd hyn dipyn ar gynllun y bythefnos olaf a gorfod troi nôl at y beic gryn dipyn, ond doedd hyn ddim yn ddrwg i gyd gan fy mod i wedi cyrraedd y cyfnod taper erbyn hyn, ac angen tynnu nôl rhywfaint, er efallai ddim cweit gymaint.
Ddim y paratoad perffaith, ond o’r hyn dwi’n ddeall, mae bloc marathon di-anaf yn beth prin iawn.
Y ras ei hun
Dwi’n arfer â theimlo’n nerfus cyn ras fawr, ac roedd cymaint o gyffro ynglŷn â’r ras yma ymysg rhedwyr eraill ar y cyfryngau cymdeithasol nes bod rhywun yn teimlo eu bod yn ran o ddigwyddiad arwyddocaol.

Mi wna’i gyfaddef hefyd, er mai rhywbeth dwi wedi sylweddoli wedyn ydy hyn, fy mod i’n reit betrus am resymau ôl-Covid. Hynny ydy, dwi heb fod o Geredigion ers dros flwyddyn, wedi cadw’n gaeth at y rheolau, a ddim hyd yn oed wedi bod i archfarchnad dros y cyfnod yma. Felly roedd teithio i Loegr, aros noson mewn gwesty, a bod yng nghanol pobl (er yn cadw pellter) yn brofiad rhyfedd iawn. Wrth gwrs, fe ddyliwn i fod wedi sylweddoli y byddai hyn yn ychwanegu straen gwahanol i unrhyw beth dwi wedi’i brofi o’r blaen cyn ras.
Y tonnau: ro’n i’n eithaf hoffi’r syniad o ddechrau mewn grŵp bach o redwyr oedd yn disgwyl rhedeg amser tebyg i mi – grêt o ran pacing. Er hynny, daeth hi’n amlwg iawn i mi’n syth, o fewn 200 llath i fod yn onest, nad oedd unrhyw un yn y grŵp yn mynd i fod yn rhedeg ar fy nghyflymder i. Anlwc llwyr mae’n debyg, ond fe olygodd fy mod i ar ben fy hun o’r dechrau gyda’r grŵp nesaf 20 eiliad o fy mlaen. Ro’n i’n dal rhedwyr o’r grŵp nesaf trwy’r ras, ond wrth gwrs roedd hynny’n golygu eu bod nhw’n rhedeg yn arafach na mi, ac felly ro’n i’n mynd heibio iddyn nhw’n syth i bob pwrpas.
Bwyd a diod: yr her fawr i mi fel rhywun sydd ddim wedi arfer ag yfed na bwyta dros bellteroedd llai. Ro’n i wedi ymarfer, ac mi wnes i drio sticio ar y cynllun gan gymryd ychydig o ddŵr bob cyfle posib, a dechrau cymryd ychydig o danwydd (Clif Bloks) ar ôl rhyw hanner awr. Dwn i ddim ai’r strategaeth oedd ar fai, ond nes i ddechrau teimlo stitch yn fy ochr o gwmpas 12 milltir, a barodd am gwpl o filltiroedd, nes i mi deimlo stitch yn yr ochr arall!! Yn amlwg mae gen i bach i ddysgu eto am yr hyn sy’n gweithio i mi.
Y pacing: dwi’n weddol fodlon gyda’r modd y gwnes i reoli fy nghyflymder. Nes i ddechrau ychydig eiliadau’r filltir yn gyflymach na’r hyn angen i mi redeg i gyrraedd fy nharged amser, er yn teimlo y gallwn i fod wedi cyflymu ar adegau. Ro’n i’n weddol fodlon gyda’r splits hyd at 21 milltir, ond wedyn….
Y wal: mae pawb wedi clywed am ‘y wal’, ac yn gwybod i’w ddisgwyl o…i’w groesawu o hyd yn oed. Ond pan mae’r wal yn taro, mae’r holl gynllunio’n mynd ar chwâl ac mae jyst yn fater o oroesi. Nes i deimlo rhyw hanner wobyl ar 16 milltir, ond llwyddo i ddod trwy hynny, er ei fod o’n dal i chwarae ar y meddwl. Ro’n i’n gwybod bod y wal go iawn yn dod tua milltir 21 wrth i’r egni ddechrau mynd yn brin, a theimlad bod y coesau’n drwm…roedd y pinnau bach ym mysedd y dwylo’n gliw hefyd! Roedd y dair milltir olaf yn artaith llwyr, ac fe ddiflannodd y targed amser, gyda chroesi’r llinell o gwbl yn darged newydd.

Ffactorau eraill: pan ddaeth y wal, dwi ddim yn credu bod y diffyg rasio diweddar wedi helpu. Mae rhywun yn dysgu sut i wthio trwy’r eiliadau gwirioneddol galed yna mewn ras, ac mae dros flwyddyn heb rasio’n amser hir heb y profiad hwnnw. Yn seicolegol, doedd gweld rhedwyr yr hanner marathon yn gorffen ddim yn help, na chwaith gweld llawer iawn o redwyr wedi stopio neu’n cerdded – “os ydyn nhw’n cerdded yna ma’n iawn i mi wneud tydi?” Mae’n anodd gwybod faint o ffactor oedd y diffyg torf hefyd o’i gymharu â marathon mawr arferol. Roedd rhywfaint o bobl allan yn gwylio ac yn cefnogi, ond roedd bylchau hir ac unig rhwng rhain. Doedd dim hawl i ni fynd â chefnogwyr, felly doedd yr hwb yna sy’n dod o weld wynebau cyfarwydd…heblaw Andy Davies (diolch Andy!)
Yr esgidiau: nes i wisgo fy fflats rasio arferol (Adidas Adizero Adios) ar gyfer y ras, ond fel ro’n i’n disgwyl roedd o leiaf 90% o’r rhedwyr eraill yn gwisgo esgidiau bownsiog gyda phlât carbon. Er i mi basio sawl un, mi wnes i hefyd sylwi pa mor gryf oedd nifer o’r yn gorffen yn yr esgidiau yma…ac roedd pob un yn dweud eu bod nhw’n gwneud gwahaniaeth sylweddol.
Er jyst yn falch i orffen yn y diwedd, ro’n i braidd yn siomedig i fethu’r targed amser wrth groesi’r llinell. Ond yn raddol mae’r siom hwnnw wedi lleihau, a dwi wedi penderfynu bod yr amser yn ddigon parchus, yn enwedig o ystyried yr amgylchiadau unigryw, ac mai hon oedd fy marathon llawn cyntaf. Yn y bon, mae 26.2 milltir yn ffordd bell i redeg yn gyflym, ac mae’r marathon yn fwystfil gwahanol iawn i unrhyw bellter arall.
Dwi’n teimlo’n falch iawn o’r cyfle i fod wedi cymryd rhan mewn digwyddiad arbennig, ac arwyddocaol. Dwi hefyd wedi dysgu lot…ond yn edrych ymlaen at gael egwyl o’r milltiroedd mawr am ychydig!
Fideo yn fuan ar ôl dechrau’r ras: